大象传媒

Explore the 大象传媒
Mae鈥檙 dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw鈥檔 cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

MAWRTH
18fed Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Eisteddfod Genedlaethol Cymru 2004

大象传媒 Homepage
Cymru'r Byd

Eisteddfod 2004
Mwy o'r Maes
Newyddion
Lluniau
Cefndir
Cysylltiadau

Chwaraeon
Y Tywydd

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!


CefndirPrifwyl mewn peryg

Mae'r Eisteddfod Genedlaethol yn wynebu cymaint o argyfwng ariannol y bu'n rhaid ystyried peidio 芒 chynnal Eisteddfod Casnewydd o gwbl.




Gwilym Owen, newyddiadurwr a steddfotwr, sy'n trafod y pethau sy'n gwneud bywyd yn anodd i'r Eisteddfod Genedlaethol ar hyn a bryd.

Meddai Gwilym Owen:
Dyma'r Brifwyl, yn 么l colofnydd eisteddfodol y Daily Post, na ddylai fod yn digwydd o gwbl.

Tipyn o osodiad gan un a anrhydeddir 芒'r Wisg Wen yng Ngorsedd y Beirdd ar Barc Tredegar fore Gwener y Brifwyl honno.

Ond chwarae teg i'r colofnydd, nid bod yn ddinistriol oedd o. Yn wir, roedd y Sanhedrin eisteddfodol eu hunain wedi ystyried ddechrau'r haf, ganslo'r jyncet flynyddol yn wyneb argyfwng ariannol difrifol.

A dydi hi ddim yn gyfrinach mai Prifwyl Casnewydd fydd yn mynd 芒'r Genedlaethol i gors anobaith methdaliad - hynny yw, os na fydd Bwrdd yr Iaith Gymraeg neu'r Gweinidog yn y Cynulliad Cenedlaethol yn estyn cymorth o filoedd ar filoedd o bunnau.

Problemau mawr
Sut, medde chi, mae'r Brifwyl wedi ei chael ei hun yn y fath sefyllfa?
Mae'n wir fod problemau mawr wedi wynebu'r Steddfod. Y farchnad arian wedi bod yn isel; clwy'r traed a'r genau yn gysgod dros Brifwyl Dinbych a bu'r tywydd yn erchyll yn Nhyddewi

Mae yna bob cyfiawnhad dros ddadlau na fu hynny o gymorth i'r coffrau.

Yn ychwanegol at hynny mae'r pen bandits eisteddfodol yn cyhoeddi drosodd a throsodd fod y cyfrifoldeb am yr argyfwng yn deillio o benderfyniad Bwrdd yr Iaith Gymraeg i dorri'r grant canolog dros gan mil o bunnau yn flynyddol er 1997.

Y Bwrdd Iaith, medda nhw, yn odid neb arall, sy'n gorfod cario'r bai.

Cornel gyfyng iawn
Erbyn hyn, beth bynnag, mae'r Sanhedrin mewn cornel gyfyng iawn a'r canlyniad ydi eu bod nhw wrthi fel lladd nadroedd yn chwilio am ffyrdd i ail lenwi'r coffrau.

Mae yna s么n o hyd ac o hyd am gydweithio gyda phartneriaid, sef Cyngor Celfyddydau Cymru, y Bwrdd Croeso ac, wrth gwrs, Fwrdd yr Iaith Gymraeg.

Ond pan fo rhywun yn holi beth yn union sy'n digwydd ar y lefel honno prin iawn yw'r dystiolaeth fod dim byd arwyddocaol ar y gweill.

Ond mae yna rai o blith te eisteddfodwyr ceidwadol, traddodiadol, yn ofni fod cynlluniau ar fin cael eu cyflwyno yn y Cyfansoddiad newydd a fydd yn rhoi cryn dipyn o rym ac awdurdod i'r sefydliadau hyn yng ngweinyddiaeth newydd y Steddfod.

Cyfansoddiad newydd
Ac o s么n am Y Cyfansoddiad Newydd - er bod hwnnw i fod i gael ei gyflwyno i'r Llys ym Mhrifwyl Casnewydd fydd hynny ddim yn digwydd yn awr ond yn hytrach cynhelir cyfarfod arbennig rywbryd yn yr Hydref.

Ond does dim dwywaith na fydd y ddogfen newydd yma yn destun cryn dipyn o drafod ar Barc Tredegar wythnos gyntaf Awst gan fod pynciau llosg yn codi.

A ydi Llys yr Eisteddfod ar fin colli'i rym?
Pwy fydd yn ethol aelodau'r Cyngor newydd?
Ac ai rhyw fath o gwango fydd y corff hwnnw yn cael ei ddewis y tu 么l i ddrysau cauedig gan fiwrocratiaid newydd y Bwrdd Rheoli sydd bellach wedi dod i rym?

Mewn geiriau eraill, a fydd y Brifwyl ddiwylliannol, werinol, Gymreig, bellach yn eiddo i gwmni corfforaethol o bobl?

Y Rheol Gymraeg
Ac mewn sefyllfa o'r fath pa mor sanctaidd wedyn fyddai Rheol Gymraeg y Steddfod?

A fydd delfryd fawr 'Y Gymru Ddwyieithog Newydd' yn golygu y bydd yn rhaid aberthu rheol sydd wedi diogelu arbenigedd y Steddfod ers degawdau?

Byddai rhai yn dadlau fod y rheol wedi ei bwrw heibio yn barod yng Nghasnewydd eleni gydag arwyddion a thywyswyr i helpu'r di-Gymraeg.

Denu'r tyrfaoedd yw'r arwyddair bellach. Gwyl i bawb yn hytrach na phenllanw blwyddyn y Cymry Cymraeg.

Hen gojars
Dyna, fe ymddengys, ydi barn y Sanhedrin newydd - a falle mai nhw sy'n gywir a'i bod yn hen bryd cael gwared 芒'r hen gojars dros eu 70 oed.

A bod angen perfformwyr syrcas a phethau felly ar y maes a meini plastig i'r Orsedd.

Ie, Prifwyl Casnewydd fydd y cyfle cyntaf i'r bugeiliaid newydd hyn ddangos eu dawn.

Gobeithio eu bod nhw wedi canfod y gwirionedd ac y bydd arian cyhoeddus yn llifo i'r coffrau eto a phobl yn tyrru yn eu miloedd drwy'r clwydi.

Cawn weld.

Byddwn yn cyhoeddi sylwadau dyddiol gan Gwilym Owen o'r maes ei hun yn ystod wythnos yr Eisteddfod.





Dydd Sadwrn a Sul
Dydd Llun
Dydd Mawrth
Dydd Mercher
Dydd Iau
Dydd Gwener
Dydd Sadwrn
O'r Maes

Nodiadau: Cau pen y mwdwl

Adolygiad: Yr Aflwydd

Pregeth Oedfa'r Sul

Adolygiad: 'Lysh' y ddrama gomisiwn.

Cefndir

Bocs sebon i'r bobol bob dydd

Chwilio am Lys Ifor Hael

Cwrw ar y maes

Cyngerdd Cwmderi

Dathlu chwarter canrif o ddarlledu

Dathlu cyfraniad John Gwil

Digwyddiadau Maes C

Gigs Steddfod Cymdeithas yr Iaith

Gigs Steddfod Sain

Gigs yr Eisteddfod

Gwent - mewn ffaith

Llys Ifor Hael

Lysh yng Nghasnewydd

Pabell y Cyngor Llyfrau

Prifwyl mewn peryg

Rhestr anrhydeddau'r Orsedd

Y 大象传媒 yn y Steddfod

Yr Wenhwyseg - iaith yr ardal

Golygfeydd 360

Lluniau 360o

Cysylltiadau eraill


About the 大象传媒 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy