| |
Barddoniaeth y cwrw
"Dydio'n beth braf medru trafod pethau yn y Steddfod dros beint fel hyn?"
Cafodd y bar ar faes yr Eisteddfod gymeradwyaeth frwd bardd cadeiriol y llynedd, Twm Morys a oedd ymhlith y fintai gyntaf ar y maes i godi'r bys bach ddydd Sadwrn.
A pha gwmni gwell iddo na phrifardd arall, Myrddin ap Dafydd, un o'r beirniaid a swynwyd gan awdl Twm y llynedd a'r ddau yn rhagweld llwyddiant mawr i'r fenter newydd hon.
Lleoli da Byddai ambell i sinig yn dweud fod y ddau far ar y maes wedi'u lleoli gyda rhywfaint o ddoethineb - y drws nesaf i'r Babell L锚n - lle'r oedd Twm a Myrddin yn oelio'r awen, a'r llall y drws nesaf i safle'r 大象传媒.
Ond un peth yw lleoliad peth arall yw cynnyrch - a chafodd lager Carreg - oedd ar werth gyda'r Guinness a'r Carlsberg a'r Brains SA - ganmoliaeth hael Phillip Evans o Benybont-ar-Ogwr yr oedd ei wraig yn derbyn tystysgrif ym Mhabell y Dysgwyr ddydd Sadwrn.
Yn ddi-Gymraeg dywedodd Phillip mai dyn cwrw yn hytrach na lager yw ef ond fod i Carreg flas digon chwerwaidd gan beri ei fod yn apelio at ddant yfwyr cwrw hefyd.
"Mae 'da fe ben da ac mae'n ffres a blas rhywfaint yn Almaenaidd arno fe," meddai wedi ei lwnc ystyriol cyntaf.
Efallai nad oedd ei eiriau yn farddoniaeth ond yr oeddan nhw yn siwr o fod yn fiwsig i glustiau eraill sy'n debyg o hel wrth y bar a chanmolodd Myrddin a Thwm, hwythau, ansawdd y Guinness.
Maen nhw wedi addo cyfraniad barddonol am y bar i Gymru'r Byd cyn diwedd yr wythnos - wrth i'r awen chwyddo a'r Guinness dreiddio.
Yn y cyfamser, trosglwyddodd Twm englyn am gwrw Steddfod gan Hwfa M么n i'n hytyriaeth: Ai gwyl maent yn ei galw? - Gwyl yfed Gwyl ofer y cwrw, A'r gynghanedd yn feddw, Araf y llusg, ar fy llw!
"Saith marc," meddai Myrddin.
Medd-ygol! A "reit brysur," oedd disgrifiad Catrin Edwards y tu 么l i'r bar fore Sadwrn. Yn dod o Landdona, Sir F么n, mae hi yn astudio Cymraeg a Ffrangeg ym Mhrifysgol Caerdydd pan nad yw yn gwneud gwaith buddiol fel hyn.
Gyda hi y tu 么l i'r bardd roedd Sian Williams o Ddinbych sy'n fyfyrwraig meddygaeth yng Nghaerdydd.
Bydd sawl un o selogion y bar yn falch o dderbyn ei ffisig hi yn ystod yr wythnos! Iechyd da.
|
|
|
|