大象传媒

Explore the 大象传媒
Mae鈥檙 dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw鈥檔 cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

MAWRTH
18fed Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Eisteddfod Genedlaethol Cymru 2004

大象传媒 Homepage
Cymru'r Byd

Eisteddfod 2004
Mwy o'r Maes
Newyddion
Lluniau
Cefndir
Cysylltiadau

Chwaraeon
Y Tywydd

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

O'r Maes
Dyddiadur: bore Iau

Lowri Johnston - gigwraigDyddiadur dyddiol Lowri Johnston o Faes B a gigs y Steddfod

Ar 么l noson fawr ym mharti Maes-e.com nos Fawrth, a dim llawer o gwsg, dwi'n teimlo ychydig yn sigledig bore Mercher. Ond ar 么l cael cawod yn adnoddau hyfryd (!) y maes ieuenctid, dwi'n dechrau dihuno ac yn barod i wynebu''r dydd o'm mlaen i! Ar 么l dihuno dwi'n sylwi bod rhywun wedi rhwygo drws ein pabell - mi wna i ddarganfod pwy iawn?!

Er hynny, dwi'n gorfod ymadael 芒'r babell a draw at faes yr Eisteddfod. Dw i'n gweithio tan dri ac wedyn draw i'r Babell L锚n. Rhaid i mi s么n am fy ffrind, Llinos Dafydd, a enillodd wobr Barddas dan 25 oed (sori, dwi ddim yn si诺r yn union beth oedd y gystadleuaeth!) Longyfarchiadau mawr iddi! Rwy'n aros ar 么l y seremoni i weld yr Ymryson rhwng timoedd M么n, Meirionydd a'r 't卯m dirgel'. Rhaid cyfaddef mai dyma fy nhro cyntaf mewn ymryson, ac fe fwynheais llawer mwy nag oeddwn i'n disgwyl. Doeddwn i'n methu credu y campweithiau ddaeth i'r golwg mewn amser mor fyr, a'r t卯m dirgel aeth 芒 hi, o drwch blewyn.

Draw wedyn am dro o gwmpas y maes. Mae'n fawr iawn flwyddyn yma (neu fi sy'n fach), a llawer i wneud ac i weld. Diolch byth am y bobl sydd "yma i helpu" i roi cyfarwyddiadau lle mae dod o hyd i bopeth.

Cysgu'n yr haul
Fy hoff stondin ar hyn o bryd yw un Tesco - pwdin reis hyfryd am ddim - ewch yno i'w flasu! Gyda'r haul tanbaid, dwi'n penderfynu peidio aros am sbel, felly yn 么l draw i'r maes ieuenctid. Roedden ni'n bwriadu mynd draw i gwis tafarn Abri, ond yn anffodus, rydyn ni rhy ddiog ac felly yn ei golli. Cysgu yn yr haul yn lle!

Y ddwy noson flaenorol, dwi wedi mynychu gigs Cymdeithas yr Iaith, ond heno dwi'n penderfynu mynd i TJs i weld gig olaf Mozz. Dwi'n hollol gutted eu bod nhw'n gorffen, does dim band tebyg iddyn nhw ar y S卯n ar hyn o bryd. Er eu bod nhw ond yn 17 oed, maen nhw wedi gwneud cymaint dros y flwyddyn diwethaf, ond dwi'n teimlo nad ydynt wedi cael cyfle i ddangos beth mae nhw wiryn gallu gwneud. Trueni iddyn nhw beidio rhyddhau albwm cyn iddyn nhw orffen. Ond, mae Dylan yn s么n bod rhywbeth ar y gweill ar gyfer rhai o aelodau Mozz, ac nad hyn fydd y diwedd, felly mae yna obaith wedi'r cyfan!

Teimlo'n s芒l
Yn anffodus, yng nghanol set Jakakoyak dwi'n mynd i deimlo'n s芒l iawn, ac felly gan fod gen i'r car dwi'n mynd draw i Gaerdydd i aros gyda ffrind am y noson. Gwely iawn o'r diwedd, a dwi'n gadael fy ffrindiau i ymdopi gyda'r babell sydd wedi rhwygo!

Mwy gen i fory - os byw ac iach!





Dydd Sadwrn a Sul
Dydd Llun
Dydd Mawrth
Dydd Mercher
Dydd Iau
Dydd Gwener
Dydd Sadwrn
Cefndir

Bocs sebon i'r bobol bob dydd

Chwilio am Lys Ifor Hael

Cwrw ar y maes

Cyngerdd Cwmderi

Dathlu chwarter canrif o ddarlledu

Dathlu cyfraniad John Gwil

Digwyddiadau Maes C

Gigs Steddfod Cymdeithas yr Iaith

Gigs Steddfod Sain

Gigs yr Eisteddfod

Gwent - mewn ffaith

Llys Ifor Hael

Lysh yng Nghasnewydd

Pabell y Cyngor Llyfrau

Prifwyl mewn peryg

Rhestr anrhydeddau'r Orsedd

Y 大象传媒 yn y Steddfod

Yr Wenhwyseg - iaith yr ardal

lluniau'r wythnos
Lluniau Ty Tredegar a'r parc

Lluniau Dydd Sadwrn

Lluniau Dydd Sadwrn a Dydd Sul

Lluniau Dydd Llun

Lluniau Dydd Mawrth

Lluniau Dydd Mercher

Lluniau Dydd Iau

Lluniau Dydd Gwener

Lluniau'r Orsedd

Lluniau Dydd Sadwrn

O'r Maes

Nodiadau: Cau pen y mwdwl

Adolygiad: Yr Aflwydd

Pregeth Oedfa'r Sul

Adolygiad: 'Lysh' y ddrama gomisiwn.

Golygfeydd 360

Lluniau 360o

Cysylltiadau eraill


About the 大象传媒 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy