大象传媒

Explore the 大象传媒
Mae鈥檙 dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw鈥檔 cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

MAWRTH
18fed Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Eisteddfod Genedlaethol Cymru 2004

大象传媒 Homepage
Cymru'r Byd

Eisteddfod 2004
Mwy o'r Maes
Newyddion
Lluniau
Cefndir
Cysylltiadau

Chwaraeon
Y Tywydd

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

O'r Maes
Cas-newydd - Gwilym dydd Mawrth

Gwilym OwenMae Gwilym Owen yn y Steddfod ac yn darlledu ar y Post Cyntaf bob dydd.





Y babell goll
Ac mi ddechreua i heddiw efo dipyn o ddirgelwch sy wedi bod yn gur pen i rai eisteddfodwyr.

A hynny ydi, sut i ddod o hyd i Babell y Cymdeithasau.

A hynny oherwydd nad pabell mohoni leni a dydi hi ddim ar y Maes ychwaith.

Mae hi ar lawr uchaf un o hen adeiladau Ty Tredegar ei hun ac mae'n rhaid ichi fod yn dipyn o giamstar i ddod o hyd iddi.

A wyddoch chi beth oedd yr hen adeilad yn ei ddydd?
Coeliwch neu beidio, bragdy.

Ydi, mae trefnwyr Prifwyl Casnewydd yn mynnu cael blas yr hen alcohol nay m mhob man eleni.

Carthion gwyl
Ac er gwaetha'r holl s么n am gynni ariannol y Steddfod mae'n werth galw heibio i'r toiledau newydd sbon sy wedi eu codi ar gyfer y Sanhedrin yn y Pafiliwn.

Cyfleuster sy'n hynod o foethus ac yn reit handi ar gyfer hacs y wasg hefyd.

Ond mae na un embaras bach, mae na hen synau aflafar ych a fi yn eich byddaru chi bob tro mae'r merched yn tynnu'r tsiaen fel petai.

Sgwn i pam?

Hirddydd haf
Gall heddiw fod yn ddiwrnod maith i ni aelodau Llys yr Eisteddfod oherwydd os oes gennym ni gwestiynau i'w gofyn am y cynlluniau ar gyfer y dyfodol yna mae'n rhaid iddyn nhw aros ar y Maes tan ar 么l chwech.

Bryd hynny, yn y Babell L锚n, y mae'r Sanhedrin yn barod i ymateb.

Tybed ydi hi'n haws trafod y problemau mawr sy'n wynebu'r Steddfod gyda'r nos?
A minnau wedi credu 'rioed mai gweithredu yn wyneb haul llygad goleuni ydi'r traddodiad!

Her adroddiad
Ac yn yr ysbryd hwnnw rydw i am ofyn cwestiwn bach digon pigog rwan.

Ar waelod y rhaglen ar gyfer Cyfarfod Blynyddol y Llys sydd i'w gynnal fore Iau mae yna nodyn yn cyhoeddi y bydd Adroddiad Blynyddol 2003 ar gael ar wefan yr Eisteddfod neu drwy'r post o'r brif swyddfa.

Er chwilio bob dydd ers wythnosau ym mol yr hen gyfrifiadur nis ymddangosodd y cyfryw adroddiad.

Beth yn union, felly, a gyflwynir yn y cyfarfod fore Iau? Drosodd atoch chi barchus ysgrifennydd y Steddfod.

C芒n di bennill
Ac yn 么l at ddoe i orffen a digwyddiad pur hanesyddol.

Dyma'r diwrnod pan fu i Robyn Llyn droi at Jonsi o bawb am ddyfyniad i grisialu ei obeithion ynglŷn 芒 safiad aelodau'r Orsedd pan ddaw hi'n amser iddyn nhw fel aelodau o Lys yr Eisteddfod bleidleisio ar fater Cymreictod yr Wyl.

Cofiwch, medda fo, mai Cymraeg a Chymraeg yn unig ydi iaith yr Orsedd.

Roedd yn ddyletswydd arno, meddai wedyn, gofyn ichi gadw eich hun yn bur.

Pwy fasa'n ei ddychmygu ef a Jonsi yn canu o'r un llyfr emynau?
O Barc Tredegar, bore da.





Dydd Sadwrn a Sul
Dydd Llun
Dydd Mawrth
Dydd Mercher
Dydd Iau
Dydd Gwener
Dydd Sadwrn
Cefndir

Bocs sebon i'r bobol bob dydd

Chwilio am Lys Ifor Hael

Cwrw ar y maes

Cyngerdd Cwmderi

Dathlu chwarter canrif o ddarlledu

Dathlu cyfraniad John Gwil

Digwyddiadau Maes C

Gigs Steddfod Cymdeithas yr Iaith

Gigs Steddfod Sain

Gigs yr Eisteddfod

Gwent - mewn ffaith

Llys Ifor Hael

Lysh yng Nghasnewydd

Pabell y Cyngor Llyfrau

Prifwyl mewn peryg

Rhestr anrhydeddau'r Orsedd

Y 大象传媒 yn y Steddfod

Yr Wenhwyseg - iaith yr ardal

lluniau'r wythnos
Lluniau Ty Tredegar a'r parc

Lluniau Dydd Sadwrn

Lluniau Dydd Sadwrn a Dydd Sul

Lluniau Dydd Llun

Lluniau Dydd Mawrth

Lluniau Dydd Mercher

Lluniau Dydd Iau

Lluniau Dydd Gwener

Lluniau'r Orsedd

Lluniau Dydd Sadwrn

O'r Maes

Nodiadau: Cau pen y mwdwl

Adolygiad: Yr Aflwydd

Pregeth Oedfa'r Sul

Adolygiad: 'Lysh' y ddrama gomisiwn.

Golygfeydd 360

Lluniau 360o

Cysylltiadau eraill


About the 大象传媒 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy