大象传媒

Explore the 大象传媒
Mae鈥檙 dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw鈥檔 cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

MAWRTH
18fed Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Eisteddfod Genedlaethol Cymru 2004

大象传媒 Homepage
Cymru'r Byd

Eisteddfod 2004
Mwy o'r Maes
Newyddion
Lluniau
Cefndir
Cysylltiadau

Chwaraeon
Y Tywydd

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

O'r Maes
Coroni: cerdd o fawl i dad-cu

Jason Walford DaviesDisgrifiodd Jason Walford Davies y cerddi am streic y glowyr 1984, a enillodd iddo Goron Casnewydd fel marwnad a theyrnged i'w dad-cu.



Bu Brinley Powell yn gweithio ym mhwll Pentre Mawr, Pontyberem, a gwnaeth ei ymlyniad i achos y glowyr a'i gefnogaeth i streic 1984-85 argraff fawr ar Jason Walford Davies.

Fe'i sbardunwyd i gystadlu ar y testun Egni gan ddigwyddiadau i goffau ugain mlynedd y streic honno a disgrifiodd ei bryddest fel un gydag elfennau gwrth-Thatcheraidd cryfion.

JasonEr yn cofnodi distrywio diwydiant cyfan cerdd foliant i unigolyn yw hon yn y gwraidd a dywedodd Jason Walford Davies mewn cyfarfod gyda'r Wasg yn dilyn ei goroni mai'r streic ac ymlyniad ei dad-cu "oedd fy neffroad politicaidd i".

Plentyn deuddeg i dair ar ddeg oed oedd Jason Walford Davies adeg y streic a dywedodd mai ei gof o'i daid ydoedd un o ddyn a gadwodd ei fywiogrwydd, ei hiwmor a'i ddewrder er gwaethaf pob dioddef.

"Bu'n ysbrydoliaeth i mi ac ef yw arwr y gerdd. Mae hi'n farwnad ac yn gerdd o fawl iddo."

Ond er yn bryddest sy'n gefnogol i frwydr y glowyr nid yw'n anwybyddu camgymeriadau'r frwydr.

"Yr oedd fy nhad-cu yn gefnogol iawn i'r streic ond mae'r gerdd yn s么n hefyd am gamgymeriadau'r streic a'r Blaid Lafur wedi colli'r egwyddor o'r math hwn o weithredu."

Ond bu lladd gyrrwr tacsi yn ysgytwad i'w dad-cu na chredai fod y streic hon hyd yn oed werth "yr aberth eithaf" honno.

Disgrifiwyd 'Brynach' fel "bardd grymus, bardd cynnil, disgybledig" gyda'i linellau yn plethu'n gryf ac yn gain i'w gilydd.

"Mae'n feistr llwyr ar ei gyfrwng a cheir llinellau ysgytwol ganddo fel y disgrifiad o'i dad-cu 'yn poeri'r pwll/i'w facyn gwyn' neu'r llinell honnom sy'n s么n am y ddau l枚wr a ollyngodd floc o goncrid o bont ar dacsi a lladd y gyrrwr, 'Allan o'r haul fe daflwyd carreg fedd'," meddai'r beirniaid gan ychwanegu:
"Lluniwyd y gerdd gan Gymro diwylliedig a gwybodus."
Ond ras agos oedd hi rhyngddo ef a dau arall, Llais o'r Llwch a Gwyfyn gyda 28 yn cystadlu i gyd.

Jason"Brynach oedd yr unig un a oedd un ai'n ail neu'n gyntaf gan y tri ohonom, a Brynach yw'r bardd a goronir eleni, trwy gyfaddawd, gyda llawer mwy o glod ac anrhydedd nag arfer."

Dywedodd Jason Walfor Davies fod ei ffugenw, Brynach, yn gyfuniad o enw ei dad-cu, Brynley, a'r gair "ach" oherwydd bod y bardd "yn falch o gael arddel fy mherthynas ag ef."





Dydd Sadwrn a Sul
Dydd Llun
Dydd Mawrth
Dydd Mercher
Dydd Iau
Dydd Gwener
Dydd Sadwrn
Cefndir

Bocs sebon i'r bobol bob dydd

Chwilio am Lys Ifor Hael

Cwrw ar y maes

Cyngerdd Cwmderi

Dathlu chwarter canrif o ddarlledu

Dathlu cyfraniad John Gwil

Digwyddiadau Maes C

Gigs Steddfod Cymdeithas yr Iaith

Gigs Steddfod Sain

Gigs yr Eisteddfod

Gwent - mewn ffaith

Llys Ifor Hael

Lysh yng Nghasnewydd

Pabell y Cyngor Llyfrau

Prifwyl mewn peryg

Rhestr anrhydeddau'r Orsedd

Y 大象传媒 yn y Steddfod

Yr Wenhwyseg - iaith yr ardal

lluniau'r wythnos
Lluniau Ty Tredegar a'r parc

Lluniau Dydd Sadwrn

Lluniau Dydd Sadwrn a Dydd Sul

Lluniau Dydd Llun

Lluniau Dydd Mawrth

Lluniau Dydd Mercher

Lluniau Dydd Iau

Lluniau Dydd Gwener

Lluniau'r Orsedd

Lluniau Dydd Sadwrn

O'r Maes

Nodiadau: Cau pen y mwdwl

Adolygiad: Yr Aflwydd

Pregeth Oedfa'r Sul

Adolygiad: 'Lysh' y ddrama gomisiwn.

Golygfeydd 360

Lluniau 360o

Cysylltiadau eraill


About the 大象传媒 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy