

Saer dram芒u
Ann
Beynon, ail wraig Gwenlyn Parry, yn s么n am Gwenlyn y sgwennwr
- Doedd e ddim yn meddwl ei bod yn bosib
ysgrifennu am fwy na thair awr y dydd.
- Roedd e wastad yn defnyddio pensil. Doedd
e byth yn teipio ei waith er iddo gael tynnu ei lun wrth deipiadur a phrosesydd geiriau! Roedd e'n cael
eraill i deipio - ei ferch Catrin yn aml yn y blynyddoedd olaf.
- Roedd llawer o drafod a meddwl yn digwydd
cyn rhoi pin ar bapur - y syniad yn berwi yn ei ben am flynyddoedd weithiau e.e. syniad sylfaenol Panto
a ddechreuodd pan aeth i ymweld 芒 Ryan Davies yn ei ystafell wisgo yn ystod un o Bantomeimiau'r
Grand yn Abertawe. Roedd blwch ar y wal (uchelseinydd) fel sydd yn y ddrama ei hun.
- Doedd e ddim yn un oedd yn hoffi darllen
rhag ofn, medde fe, y bydde fe'n dwyn syniadau pobl eraill ar ddamwain.
听
|