MAWRTH 18fed Tachwedd 2014 Hygyrchedd Geiriau Yn Unig |
Chwaraeon Y Tywydd |
||
大象传媒 Homepage Cymru'r Byd Addysg |
||
禄 | Y Twr Y Dramodydd Y Cynhyrchiad Astudio'r Ddrama Amserlen teledu Amserlen radio E-gardiau Arolwg 2001 Gwybodaeth Ymateb |
Dram芒u Gwenlyn Parry Y Ddraenen Fach (1961) Drama gyntaf Gwenlyn Parry. Roedd yn gydfuddugol yn Eisteddfod Genedlaethol Dyffryn Maelor, 1961. Mae pedwar milwr Cymraeg yn cuddio mewn seler ty wedi ei fomio rywle ar arfordir Affrica noswyl Nadolig 1942. Mae聮r tensiwn yn amlwg wrth iddyn nhw ddelio 芒聮r sefyllfa mewn gwahanol ffyrdd gydag un yn awyddus i geisio dianc. Ceir tro annisgwyl yn niwedd y ddrama pan ddaw Almaenwr i聮r seler. Y neges yw mai dynion o gig a gwaed ydym i gyd, beth bynnag ein cenedl. Drama fuddugol un act Eisteddfod Genedlaethol Abertawe, 1964, am deulu yn un o bentrefi chwarelyddol Gogledd Cymru. Y pedwar cymeriad yw William, gwr dros ei drigain oed, ei wraig Cadi a聮i blant Marged a Dic sydd yn eu harddegau. Amser brecwast, yn y gyntaf o ddwy olygfa, canfyddwn mai dyma ddiwrnod cyntaf Dic yn ei swydd newydd mewn siop ddillad. Mae hynny聮n achosi tyndra gan y byddai聮n well gan William, sy聮n cael trafferth dygymod 芒聮i ymddeoliad ei hun o聮r chwarel, pe byddai Dic wedi mynd i weithio i聮r chwarel hefyd. Yn yr ail olygfa, er mawr foddhad i聮r tad, cyhoedda Dic ar ei ddychweliad o聮i waith, iddo benderfynu mynd i聮r chwarel wedi聮r cwbwl. Llwyddir i gyfleu bywyd chwarelwyr, yr ofn a聮r caledi. Yr olaf yn ei driawd o ddram芒u byrion. Cydfuddugol yn Eisteddfod Genedlaethol Llandudno, 1963. Dan anasthetig mewn ysbyty mae meddwl Bili Puw yn crwydro i聮r cyfnod pan oedd ef a聮i wraig, Neli, yn blant. Wrth i Neli ddarganfod ei bod yn feichiog mae bywydau聮r ddau yn newid dros nos. Mae聮r ddau yn ffraeo聮n ddi baid 芒 mam Bili聮n poeni am y gwarth ar y teulu. Atgofion cymysg sydd yma dan ddylanwad anasthetig ac mae聮n pennau ninnau聮n troi o gael ein cyflwyno i聮r holl gymeriadau lliwgar. Roedd Bili hefyd yn destun gwawd fel gwrthwynebydd cydwybodol yn ystod y rhyfel. Ar ddiwedd y ddrama y cawn wybod mai cael tynnu ei bendics y mae Bili, gan roi mwy nac un ystyr i聮r teitl, Poen yn y Bol. Drama fawr gyntaf Gwenlyn Parry gydag elfennau o theatr yr abswrd. Drama hir mewn chwe rhan wedi ei gosod yng ngweithdy Ifans, y saer doliau. Ar ddechrau聮r ddrama mae Ifans yn
ddyfal yn trwsio pentwr o ddoliau sydd wedi torri. Yn y bedwaredd ran daw prentis i聮r gweithdy gan amlygu聮r tensiwn rhwng y ddwy genhedlaeth, gydag Ifans bron 芒 chyrraedd pen ei dennyn wrth i聮r ferch a聮r prentis darfu ar ei fyd a聮i orfodi i fabwysiadu eu dulliau a聮u hoffer newydd nhw. Mae Ifans fel petai聮n ofni Y Fo sydd yn y seler a聮r Fo sy聮n cael y bai am bopeth aiff o聮i le. Mae聮n ffonio聮r Giaffar yn aml i ofyn cyngor a chwyno am Y Fo a聮r prentis newydd. Ond ni ddywedir wrthym a yw聮r Giaffar yn berson o gig a gwaed ynteu聮n rhywun yn nychymyg Ifans. Un dehongliad yw mai portread o聮r ddynoliaeth sydd yma ac mai pobl yw聮r doliau sy聮n cael eu trin gan Ifans ac mai Duw yw聮r Giaffar y mae Ifans yn galw arno am gymorth. Ni sydd i benderfynu felly a oes rhywun y pen arall i聮r ff么n. Perfformiwyd gyntaf yn 1968 gan Gwmni Theatr
Cymru. Y ddau brif gymeriad yw Gwr y Ty a Gwr y Ffair a聮r lleoliad yw caban Gwr y Ty ar draeth gyda
rhan ohono wedi suddo i聮r tywod. Gerllaw聮r caban mae ffair sy聮n ehangu聮n gyflym, mae'r
caban yn rhwystro datblygiad pellach.
Mae聮r gynulleidfa hefyd yn dechrau amau fod y gwr yn wallgof wrth iddo gludo delw y mae wedi ei ddwyn o聮r ffair i聮r caban ar ddechrau聮r ddrama, ac yn s么n wrth y ddelw am ei elyn pennaf, Gwr y Ffair. Er mawr synod inni mae聮r ddelw yn troi聮n ferch o gig a gwaed yn ystod y ddrama. Yn fuan cyhuddir Gwr y Ty o ddwyn y ddelw gan b芒r ifanc a daw Gwr y Ffair yno i聮w orfodi i symud o聮r caban. Ond yn rhyfedd erbyn diwedd y ddrama mae pethau wedi troi wyneb i waered gyda Gwr y Ty yn berchen y ffair. Gellir dweud fod y ddau gymeriad yn cynrychioli聮r ddynoliaeth yn ei brwydr am rym a materoldeb. Y Ffin oedd Drama Gomisiwn Eisteddfod Dyffryn Clwyd, 1973. Drama ddwy act yw hon a chwt bugail ar ochr mynydd yw ei lleoliad. Ceir ynddi dri chymeriad sef Wilias, gwr canol oed, Now, llanc ugain oed a dringwr, merch tua deg ar hugain oed. Cymeriadau digon rhyfedd yw Now a Wilias. Wilias sydd wedi prynu聮r cwt ac ni all Now gredu ei fod wedi gwneud peth mor ff么l pan w锚l gyflwr truenus y lle ac mae聮n cyhuddo Wilias o聮i gamarwain. Mae聮r tensiwn yn amlwg rhwng y ddau o聮r dechrau a聮r tyndra hwnnw聮n cynyddu wrth i聮r ddau geisio cyd-fyw. Mae pethau聮n gwaethygu pan yw聮r ferch yn cyrraedd ddiwedd yr act gyntaf. Erbyn yr ail act mae聮r rhwyg rhwng y ddau yn amlwg wrth i聮r ddau fod am y gorau yn ceisio plesio聮r ferch sy聮n graddol chwalu'r berthynas rhyngddynt . O聮i herwydd hi ni all dau a oedd yn gwbl ddibynnol ar ei gilydd ddioddef ei gilydd a thynnir llinell o baent yn ffin drwy ganol y cwt. Erbyn y diwedd mae pob math o bethau wedi eu gosod ar y ffin, stand hetiau, lein ddillad... wrth iddyn nhw wneud popeth o fewn eu gallu i dorri聮r cysylltiad rhyngddynt. Diwedda聮r ddrama yn swn y ddau聮n wylo yn y tywyllwch gan alw聮n dorcalonnus ar y ferch. Drama Gomisiwn Eisteddfod Genedlaethol Caerdydd, 1978. Fel yn Y Ffin, darlunio'r berthynas rhwng dau mae聮r Twr ond y tro hwn perthynas gwr a gwraig. Taith bywyd dau a gyfleir yma wrth iddyn nhw ddringo'r twr. Gwelir hwy yn heneiddio a聮r dieithrwch rhyngddynt yn cynyddu wrth iddyn nhw ddringo. Drama dair act yw hon gyda phob golygfa yn ystafelloedd y twr - yr act gyntaf yn yr ail stafell a聮r ddau gymeriad yn ifanc. Defnyddir ffilm i ddangos lluniau ohonyn nhw yn blant yn chwarae ar lan y m么r cyn rhedeg i fyny聮r grisiau i聮r ystafell. Mae hyn yn cyfleu mai ieuenctid yw聮r stafell gyntaf a聮u bod yn awr yn camu i gyfnod newydd yn eu bywydau. Mae聮r ddau yn fywiog, hapus a llawn brwdfrydedd. Bu newid erbyn yr ail act a聮r ddau yn ganol oed. Geiriau cyntaf y wraig ydi, "Be 聭ddiawl dwi聮n 聭i neud yn fan聮ma?" a聮r gwr "Dwi wedi cael llond cratsh!". Nid yw perthynas y ddau gystal a bu dieithrio. Erbyn y drydedd act, hen wr a hen wraig yw聮r ddau sydd wedi yml芒dd ar 么l dringo聮r grisiau dim ond i ganfod fod yna fwy o risiau er iddynt gredu mai聮r stafell hon oedd pen y daith. "Ond fan聮ma 聭di聮r stafell ddwytha.....awn ni ddim o fan聮ma....sdim isio blydi grisiau arall!" meddai聮r hen wr. Rhaid sylwi ar y defnydd o聮r tr锚n
yn y ddrama hon hefyd. Yn yr act gyntaf dywed y ferch ifanc "Ma聮 聭na rwbath neis mewn swn
tr锚n yn bell yn y nos! Perfformiwyd Sal am y tro cyntaf yn 1980. Mae wedi ei seilio ar ddigwyddiad hanesyddol ac yn dra gwahanol i ddram芒u eraill Gwenlyn Parry. Mewn achos llys gelwir tystion i聮r presennol o 1869. Gyda goleuo effeithiol mae gwahanol rannau o聮r llwyfan yn cynrychioli gwahanol leoliadau gan alluogi聮r gynulleidfa i weld beth arweiniodd at yr achos llys. Yn 1869 honnodd gwr fod ei ferch, Sal, wedi byw am bron i ddwy flynedd heb fwyta gan ddweud iddi gael ei dewis gan Dduw. Er bod mam Sal, y ficer lleol a Dr Davies, meddyg y teulu yn credu hyn hefyd, nid felly Dr Hughes, meddyg arall, a dwy nyrs a ddaeth i gadw llygad ar Sal. Yn y diwedd mae Sal yn marw a dyma sydd wedi arwain at yr achos llys gyda聮r amddiffynnydd yn dadlau fod Sal wedi llwyddo i fyw heb fwyd, ond yr erlynydd yn dadlau mai twyll yw聮r cyfan. Y gynulleidfa sydd i benderfynu pwy sy聮n dweud y gwir ac a yw rhieni聮r ferch yn euog o ddynladdiad. Rhan o聮r cyfarwyddiadau llwyfan yw: "Dylid chwarae聮r ddrama yn ddidoriad fel nad yw聮r gynulleidfa聮n cael cyfle i sgwrsio 芒聮i gilydd tan y diwedd." Y gynulleidfa yw聮r rheithgor sydd i benderfynu ai gwyrth neu gelwydd oedd y cyfan. Y cwestiwn, mewn gwirionedd, yw a ydym yn credu yn Nuw. Fel y dywed tad Sal: "Ond nid ni sy yn y glorian...dach chi聮n dallt pwy sy yn y glorian?"
Drama Gomisiwn Eisteddfod Genedlaethol Abergwaun a聮r Fro, 1986 a drama olaf Gwenlyn Parry. Gellir dadlau mai dyma聮r ddrama orau o ran technegau theatrig. Y mae wedi ei gosod mewn theatr ac mae聮r prif gymeriadau聮n rhan o bantomeim, Dick Wittington, sydd i聮w berfformio ar y llwyfan. Prif gymeriad y ddrama yw Robat Deiniol sy聮n cael perthynas 芒 Sera, prif gymeriad y pantomeim. Mae hithau聮n rhoi pwysau arno i adael ei wraig ac ni all Robat ymdopi 芒聮r argyfwng hwn yn ei fywyd. I waethygu聮r sefyllfa mae Sera聮n feichiog. Ceir yma ddrama ar ddwy lefel, y llwyfan panto a聮r ystafell wisgo. Yn yr ystafell wisgo gwelwn ddrama bywyd Robat Deiniol. Mae聮r cyd-chwarae rhwng y ddau leoliad yn gweithio聮n berffaith i gyfleu emosiynau a bywydau聮r prif gymeriadau. Mae ein sylw ni聮r gynulleidfa yn cael ei symud o聮r naill i聮r llall ac mae llawer o hiwmor ac eironi yn deillio o聮r berthynas hon. Does dim dwywaith nad yw hon yn ddrama emosiynol. Mae rhai聮n ystyried y ddrama fel rhyw fath o hunangofiant gan Gwenlyn Parry ac mai ef ei hun mewn gwirionedd yw Robat Deiniol. Amlygir yr elfennau hyn orau yn araith Robat Deiniol yn 聭Dressing Room One聮. Pantomeim bywyd a geir yma ac ar ddiwedd y ddrama mae聮r ddwy ddrama wedi asio聮n un a Sera聮n cerdded ar hyd y llwyfan nid fel Dick Wittington y tro hwn ond yn ei dillad ei hun ac yn gadael go iawn. 听 | |||
漏 MMI |
|
About the 大象传媒 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy |