大象传媒


Explore the 大象传媒
Mae鈥檙 dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw鈥檔 cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

MAWRTH
18fed Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Gwenlyn Parry

A-Y | Chwilota
Y Diweddaraf



Chwaraeon

Y Tywydd

Radio Cymru yn fyw
Safleoedd



大象传媒 Homepage

Cymru'r Byd
Addysg
Y Twr
Y Dramodydd
Y Cynhyrchiad
Astudio'r Ddrama

Gwnewch

Amserlen teledu

Amserlen radio

E-gardiau

Arolwg 2001

Gwybodaeth

Ymateb


Y Dramodydd

Dringo聮r Twr - Bywyd Gwenlyn Parry

  • Ganwyd yn 1932 yn Neiniolen, neu Llanbabs fel yr oedd ef a thrigolion yr ardal yn galw聮r pentref.
    Chwarelwr yn chwarel Dinorwig oedd ei dad gyda bywyd yn galed i deulu a oedd yn brwydro聮n barhaus yn erbyn tlodi.
    Mae nifer o feirniaid llenyddol yn gweld olion yr ofn hwnnw, a oedd yn fygythiad parhaol, yn ei ddram芒u.
  • Yn 1939 aeth ei dad i ymladd yn yr Ail Ryfel Byd a dechreuodd ei fam weithio mewn ffatri yn Llanberis. Hi oedd yn gwisgo聮r trowsus yn y cartref felly, ac mae merched dram芒u Gwenlyn yn rhai cryfion.
  • Cafodd ei addysg yn Ysgol Gwaun Gynfi lle pasiodd y sgolarship i Ysgol Ramadeg Brynrefail. Yn yr ysgol roedd yn mwynhau gwyddoniaeth.
  • Yr oedd yn 13 pan ddaeth ei dad adref o聮r rhyfel.
  • Yn ddiweddarach ymunodd Gwenlyn 芒聮r RAF i gyflawni ei wasanaeth milwrol gorfodol. Yn anghytuno 芒 rhyfel yn dilyn holl hanesion erchyll ei dad treuliodd ddwy flynedd yn nyrs yn adran feddygol yr RAF.
    Dywedodd i聮r cyfnod hwn yn nyrs fod o help iddo ysgrifennu Poen yn y Bol, Y Twr a Sal gan iddo weld sut yr oedd pobl yn teimlo pan oedden nhw mewn poen. Hefyd cafodd yr wybodaeth feddygol angenrheidiol.
  • Wedi iddo ddychwelyd adref o聮r RAF aeth i聮r Coleg Normal ym Mangor i聮w hyfforddi聮n athro. Yno ymddiddorodd yn y ddrama, nid fel sgwennwr ond fel actor a chynhyrchydd.
  • Tra聮r oedd yn y coleg hefyd y dechreuodd Richard Jones, ei gyn brifathro yn Ysgol Gwaun Gynfi, ei hyfforddi i fod yn bregethwr cynorthwyol. Efallai mai dyma eginfa y gwersi moesol yn ei ddram芒u sy聮n peri i feirniaid weld ystyr grefyddol iddyn nhw.
  • Yn athro mathemateg yn Llundain daeth yn fwy cyfarwydd 芒 byd y theatr a threuliodd lawer o聮i amser hamdden yn y West End.
    Dechreuodd hefyd ymhel 芒 Chwmni Drama聮r Gymdeithas Gymreig yn Llundain lle daeth i gysylltiad 芒 rhai fel Ryan Davies a Rhydderch Jones. Hefyd, bu聮n arwain nifer o nosweithiau llawen yma.
  • Wedi pedair blynedd, gadawodd Lundain i ddysgu yn Ysgol Dyffryn Ogwen, Bethesda. Yma bu聮n dysgu gwyddoniaeth trwy gyfrwng y Gymraeg.
  • Tra聮n byw yng Nghaernarfon daeth i adnabod Huw Lloyd Edwards a fu聮n ysbrydoliaeth fawr iddo. Ef a聮i perswadiodd i anfon ei ddrama gyntaf, Y Ddraenen Fach, i gystadleuaeth drama fer Eisteddfod Genedlaethol Dyffryn Maelor yn 1961. Daeth yn gyd-fuddugol.
  • Yn ddiweddarach perswadiodd Huw Lloyd Edwards ef i ysgrifennu drama hir. Comisiwn gan Elis Gwyn a Wil Sam o Theatr y Gegin, Cricieth, a barodd iddo fynd ati i ysgrifennu Saer Doliau.
  • Yn y cyfamser bu聮n actio a chynhyrchu yn Theatr Fach Eryri lle daeth dan ddylanwad John Gwilym Jones
  • Hefyd roedd yn cynhyrchu drama flynyddol yn ysgol Dyffryn Ogwen lle聮r oedd erbyn hyn yn athro.
  • Yn 1966 ymunodd 芒聮r 大象传媒 yng Nghaerdydd i sefydlu adran sgriptiau. Dyma gyfnod cyfresi fel Fo a Fe a chychwyn Pobol y Cwm a聮r ffilm Saesneg, Grand Slam.
  • Enillodd lawer o wobrau gan gynnwys pedair gwobr yn yr Eisteddfod Genedlaethol, gwobr Cyngor y Celfyddydau yn 1967 a gwobr yng Ngwyl Ddrama Ryngwladol Dundalk yn Iwerddon yn 1977.
  • Bu聮n briod ddwywaith, yn gyntaf gyda Joy o Bontyberem ac wedyn gydag Ann Beynon. Yr oedd dau blentyn yn y ddwy briodas.
  • Bu farw ar Dachwedd 5 1991, ac fe聮i claddwyd ym mynwent Macpela, Pen-y-groes, Dyffryn Nantlle.
大象传媒
漏 MMI

Y Twr

Y Dramodydd
Ei Fywyd
Ei Ddram芒u
Atgofion Cyfeillion
Y Cyhoedd yn Cofio
Llais Ll锚n

Y Cynhyrchiad
Astudio'r Ddrama

Rhaglenni 'Wythnos Gwenlyn Parry'



About the 大象传媒 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy