Enw:
|
Llynwen Griffith (Nith) |
Lleoliad:
|
Bethesda |
Agtofion:
|
Pan oeddwn yn fach, 'rwyf yn cofio mynd
i ty fy ewyrth a cerdded i mewn i'r gegin, a dyma'r llais yma yn dod o'r oergell, yn gofyn beth oedd fy
enw, lle oeddwn yn byw, os oeddwn yn ferch dda, ac yn y blaen. Roeddwn wedi dychryn, y peiriant mawr yma
yn siarad a mi, ond roeddwn yr un mor wirion, fe wnes ei ateb yn 么l heb feddwl, a dyna lle roedd
y rhewgell a fi yn cael sgwrs! Roedd fy ewyrth yn gymeriad arbennig, roedd fel tad i mi, ac mae gennyf
hiraeth mawr ar ei 么l.
|
-----------------------------------------------------------------------
|
Enw:
|
Ifan Wyn Evans |
Lleoliad:
|
Deganwy |
Agtofion:
|
Roeddwn i'n yr ysgol a'r Coleg Normal efo
Gwenlyn, a dwi'n ei gofio fo'n gwneud sawl peth digri. Mi fydda'n mynd i Woolworth ym Mangor a gofyn i
ferch ddiniwad wrth y cowntar am bethau gwirion fel criau wellingtons neu chwart o law tarannau! Ond un
o'r pethau doniola dwi'n 'i gofio fo'n wneud oedd cerdded lawr stryd ym Mangor fel petae o'n arwain ci.
Roedd o mor dda am wneud hynny nes fod ambell i gerddedwr yn cerdded rownd y ci dychmygol!
|
-----------------------------------------------------------------------
|
Enw:
|
Hafina Clwyd |
Lleoliad:
|
Rhuthun |
Agtofion:
|
Roeddwn i'n eistedd efo Gwenlyn yn stondin
Cymry Llundain rhyw steddfod wlyb tua dechrau'r 70au, pan gerddodd Rhydderch Jones i mewn yn gwisgo Pac-a-mac
fawr o'i ben i'w draed. Wna i byth anghofio beth ddywedodd Gwenlyn - "Iesu, Rhydd, ti'n edrych fel
condom anferth"! |
-----------------------------------------------------------------------
|
Enw:
|
Angharad Gwyn |
Lleoliad:
|
Caerdydd |
Agtofion:
|
Rhyw
saith oed oeddwn i pan nes i gyfarfod Gwenlyn Parry yn Eisteddfod M么n yn '83. Ro'n i wrth fy modd
pan nes i ddarllen am John Ogwen yn s么n am ei sgiliau o wneud llun
Donald Duck, achos mi wnaeth Gwenlyn lun o Donald Duck i minnau hefyd!
|
-----------------------------------------------------------------------
|
Enw:
|
Dafydd Mei |
Lleoliad:
|
Penygroes |
Agtofion:
|
Dwi'n cofio chwarae g锚m b锚ldroed
'5-aside' yng Nghaerdydd yn y 70au - t卯m y New Ely yn erbyn y 大象传媒. Yr unig rai dwi'n cofio yn y
t卯m oedd Gwenlyn, Rhydderch Jones a Dewi Pws. Mi dreuliodd Gwenlyn a Rhydderch ran fwyaf o'r g锚m
yn sefyll wrth y g么l yn smocio gan adael Dewi i wneud y gwaith caled o redeg rownd y cae! Dwi ddim
yn cofio pwy enillodd!
|
-----------------------------------------------------------------------
|
Enw:
|
Owain Arfon Williams
|
Lleoliad:
|
Caerdydd |
Agtofion:
|
Un waith y cyfarf没m i 芒 Gwenlyn.
Roeddwn i tua 10/12 oed (tua diwedd y 70au), a daeth Gwenlyn draw i'n ty ni yng Nghaerdydd i barti drefnwyd
gan fy rhieni. Ro'n i wedi trio agor can cwrw mawr (tua 2 litr am wn i - can cwrw ar gyfer parti!) i fy
rhieni yn ystod y parti, ond daeth Gwenlyn drwodd i'r gegin a dweud wrtha i bod angen agor y can yn y
ddau ben er mwyn i'r cwrw allu llifo allan! Roedd hi'n amlwg fod ganddo fwy o brofiad na mi yn y maes
bryd hynny!
|
听 |
听 |