大象传媒


Explore the 大象传媒
Mae鈥檙 dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw鈥檔 cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

MAWRTH
18fed Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Gwenlyn Parry

A-Y | Chwilota
Y Diweddaraf



Chwaraeon

Y Tywydd

Radio Cymru yn fyw
Safleoedd



大象传媒 Homepage

Cymru'r Byd
Addysg
Y Twr
Y Dramodydd
Y Cynhyrchiad
Astudio'r Ddrama

Gwnewch

Amserlen teledu

Amserlen radio

E-gardiau

Arolwg 2001

Gwybodaeth

Ymateb


Y Dramodydd

Ei gwys ei hun

Atgofion cynhyrchydd: George Owen

Cyn agor ei gwys ei hun ym myd y ddrama Gymraeg simsanodd Gwenlyn Parry rywfaint rhwng dau fath arall o ddrama yn 么l y cynhyrchydd, George Owen.

Dywedodd George Owen i Gwenlyn ymddiddori聮n gynnar yn theatr y Kitchen Sink a darllen llawer ar weithiau dramodwyr fel John Osborne ac Arnold Wesker yn ogystal 芒 gweithiau Pinter a Ionesco a dramodwyr eraill yr abswrd.

"Dwi聮n meddwl," meddai George Owen, "iddo simsanu rhwng y ddau am gyfnod ond yn y diwedd fe agorodd ei gwys ei hun, cwys newydd yn hanes y ddrama Gymraeg."

Dywed mai ei gyfaill agos, Huw Lloyd Edwards, oedd yr agosa ato yn y Gymraeg.


"Yr oedd e聮n bell iawn oddi wrth Saunders Lewis a John Gwilym Jones oedd yn ddramodwyr llawer mwy confensiynol."

Cydweithio聮n bwysig

"Y fo oedd y cyntaf i ddod i mewn i uned sgriptiau newydd 大象传媒 Cymru ac ar ei 么l o fe ddaeth Meical Povey, Sion Eirian, Rhydderch Jones am gyfnod, T. James Jones, William Jones - yr oeddan nhw聮n dylanwadu llawer iawn ar ei gilydd."

"Yr oedd cydweithio聮n bwysig iddo fo ac yr oedd rhai o聮i weithiau bron a bod yn gywaith, gyda聮r ddrama deledu, Grand Slam, yn enghraifft arbennig o hynny."

Cadarnhaodd George Owen stori hefyd ynglyn 芒 diweddglo Saer Doliau.

"Bu trafod mawr sut y dylai聮r ddrama orffen ac yn y diwedd fe ddwedodd Gaynor Morgan Rees, 聭Pam na chanith y teliffon?聮

"Flynyddoedd wedyn pan oeddwn i聮n ail wneud y ddrama ar gyfer y teledu gofynnais iddo fo a hoffai o gael diweddglo arall i聮r ddrama. Ac yntau wedi cael blynyddoedd i feddwl, gwrthod wnaeth o."

"Mi 锚s i cyn belled 芒 recordio dau ddiweddglo ond roedd o聮n bendant mai y teliffon yn canu oedd o eisiau. Er nad oedd o ddim yn gwybod pam 聮chwaith."

Ychwanegodd:
"Fe gafodd o goblyn o sioc pan oeddan ni聮n gwneud Ty ar y Tywod ar gyfer y teledu."

"Roedd yna fersiwn llwyfan ac un teledu, cast gwahanol, cynhyrchiadau hollol wahanol. Y fi gynhyrchodd yr ymdriniaeth deledu ac mi g锚s i benrhyddid ganddo fo."

"Mi ddaeth i lawr i Gaerdydd i weld y ffilmio a gweld yr adeg honno beth fedrai聮r cyfrwng ei gyfrannu - ac mi ddotiodd at hynny."

"Rhyddid ar raff oedd hi gyda Gwenlyn - mi wnai o gyfaddawdu efo rhai pethau.

Stwff bara menyn

"Gweithio聮n ysbeidiol oedd o ac weithiau mi fyddai聮n cael trafferth efo ambell bennod. Y wyrth oedd iddo wneud cymaint ag yntau聮n cynhyrchu cymaint o stwff "bara menyn" i聮r teledu."

"Stwff "bara menyn" da iawn, fel Fo a Fe, Tresarn a Pobol y Cwm.

"Roedd o聮n berson efo llawer iawn o syniadau - roedd gynno fo ffrindiau tua Chaernarfon, fel Gwilym Pritchard, oedd yn arbrofi efo cynhyrchiadau cyfoes iawn - "way-out" a dweud y gwir.

"Doedd llawer o聮r syniadau yma ddim yn gweld golau dydd - gweld y gwaith gorffenedig oeddan ni."

Atgofion eraill:

Eich atgofion chi:

cofion y cyhoedd

大象传媒
漏 MMI

Y Twr

Y Dramodydd
Ei Fywyd
Ei Ddram芒u
Atgofion Cyfeillion
Y Cyhoedd yn Cofio
Llais Ll锚n

Y Cynhyrchiad
Astudio'r Ddrama

Rhaglenni 'Wythnos Gwenlyn Parry'



About the 大象传媒 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy