MAWRTH 18fed Tachwedd 2014 Hygyrchedd Geiriau Yn Unig |
Chwaraeon Y Tywydd |
||
大象传媒 Homepage Cymru'r Byd Addysg |
||
禄 | Y Twr Y Dramodydd Y Cynhyrchiad Astudio'r Ddrama Amserlen teledu Amserlen radio E-gardiau Arolwg 2001 Gwybodaeth Ymateb |
Gwr cadarn gwladgarol Atgofion cyfaill: Gwilym Owen yn cofio cwmn茂wr, cymeriad a chyfaill Cwmn茂wr, cymeriad, cyfaill. Dyna fel bydda i聮n cofio Gwenlyn. A thros flynyddoedd o adnabyddiaeth ohono fe welais i聮r tair agwedd yna ar eu gorau. Fe dreuliais i oriau lawer yn seiadu efo fo a chriw o "eneidiau hoff cyt没n". Ac fe fu聮r gwmn茂aeth yma yn un o bleserau mawr bywyd. A Gwenlyn yn fwy aml na pheidio fyddai聮r brenin yn y cwmni. Stor茂wr heb ei ail Roedd ganddo ddawn dweud straeon na welais ei thebyg. Fe deimlais i fwy nag unwaith y gallai fod wedi bod yn gystal actor ag oedd o ddramodydd. Sawl gwaith, clywais i o yn deud stori amdano yn cael ei holi am ddigwyddiad ar y maes chwarae yn Ysgol Dyffryn Ogwen pan oedd o聮n athro yno. Y Prifathro oedd yn gwneud yr holi a Gwenlyn yn cael trafferth i esbonio rhai arwyddion a wnaed gan rai o聮r plant efo聮u dwylo. Pethau fel codi dau fys a rowlio bys ar ochr penglog. Roedd hi聮n glamp o stori ac y tynnu pawb i chwerthin. Hyd yn oed y rheiny fel fi oedd wedi ei chlywed lawer gwaith o聮r blaen. Dawn dweud A beth am y saga arall honno am ei brofiad yn cael y "cyfweliad blynyddol" enwog efo un o Reolwyr ecsentrig y 大象传媒 yng Nghymru? Erbyn diwedd y cyfweliad hwnnw 聮doedd Gwenlyn ddim yn sicr pa un ai fo ei hun ai聮r dyn tu 么l i聮r ddesg oedd y 聭Controlar聮 go iawn. Ac eto聮r st么r ddihysbydd yna o straeon gwreiddiol personol oedd yn ei wneud o聮n gystal cwmn茂wr - 芒聮r dawn i聮w dweud nhw wrth gwrs. Nid rhyw lobstar gwirion Roedd o聮n gymeriad hefyd. Fe welais i enghreifftiau o hynny ar amrywiol achlysuron gyda聮i Gymreictod a聮i genedlaetholdeb yn bethau oedd yn gwbl sanctaidd yn ei olwg. A gwae i unrhyw un ohonom ddweud gair i gyfeiriad arall. Mi fyddwn i weithiau yn mynd ati聮n fwriadol i ddweud rhywbeth carlamus y gwyddwn na fyddai yn ei blesio. Fyddwn i ddim yn gallu parhau聮n hir i dynnu ei goes. Fe gawn wybod fy mod wedi deud digon ac mai gwell oedd tewi. Pan ddiflannodd y Ddraig Weithiau fe 芒i yntau yn rhy bell. Mewn gwyl ffilmiau Celtaidd yn Donegal yr oeddan ni pan ddiflannodd baner y Ddraig Goch dros nos a gadael baneri eraill. Roedd Gwenlyn yn benwan, ac er bod rhesymau gwleidyddol cadarn dros y digwyddiad oherwydd trafferthion Gogledd Iwerddon, eto fe ddaliodd ati i greu dadl. Roedd Cymru fach wedi cael ei sarhau a rhaid oedd cywiro pethau. A wir ichi rwy聮n credu iddo gael ei faen i聮r wal. Oedd, roedd William Gwenlyn Parry yn gymeriad cadarn iawn iawn. Triw a charedig Ond fel cyfaill triw a charedig y bydda i yn ei gofio fwyaf. Nid cyfaill tywydd braf yn unig oedd o. Rwy聮n cofio unwaith bod yn ceisio am swydd efo fo. Roedd pedwar ohonom ar y rhestr fer. Rywsut, y fi gafodd y 聭job聮 a phwy oedd y cynta i i godi ac ysgwyd llaw - wel Parry wrth gwrs. "Pob lwc iti rhen foi," medda fo. "Os galla i dy helpu di ryw dro dim ond gofyn cofia!" Un hawdd ei frifo Ac fe fu yna benodau yn hanes llawer iawn o rai eraill dros y blynyddoedd pan fu Gwenlyn yn gyfaill gwerth ei gael mewn cyfyngder. Un felna oedd o 聳 ac er bod ganddo ddiddordeb ysol ymhob stori a chlec oedd yn ffurfafen Cymru 聳 eto i gyd, chlywais i 聭rioed mohono yn lledu gwybodaeth faleisus am neb. A deud y gwir, chlywais i fawr o neb yn deud dim cas amdano yntau, A diolch am hynny, oherwydd roedd yna agwedd arall i Gwenlyn Parry 聳 roedd o聮n greadur hawdd iawn ei frifo. Ac yn ystod y seiadau a gefais i efo fo yn ystod ei fisoedd olaf fe soniodd am rai o聮r penodau a adawodd greithiau ar ei enaid clwyfus. Ond fe gadwa i聮r rheiny yng nghelloedd y cof a聮i gofio fel cwmn茂wr, cymeriad, cyfaill 聳 a dramodydd wrth gwrs! |
漏 MMI |
|
About the 大象传媒 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy |