大象传媒


Explore the 大象传媒
Mae鈥檙 dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw鈥檔 cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

MAWRTH
18fed Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Gwenlyn Parry

A-Y | Chwilota
Y Diweddaraf



Chwaraeon

Y Tywydd

Radio Cymru yn fyw
Safleoedd



大象传媒 Homepage

Cymru'r Byd
Addysg
Y Twr
Y Dramodydd
Y Cynhyrchiad
Astudio'r Ddrama

Gwnewch

Amserlen teledu

Amserlen radio

E-gardiau

Arolwg 2001

Gwybodaeth

Ymateb


Y Dramodydd

Dringo Grisiau聮r Twr

Atgofion disgybl ac actor: John Ogwen yn cofio pregethwr, arlunydd a dramodydd

Gris gyntaf y twr - efo Donald Duck

Naw oed oeddwn i pan wnes i gyfarfod Gwenlyn am y tro cynta. Pnawn Sul oedd hi. Roedd ei dad, W. J. Parry, yn cael te yn ein ty ni. Y Sul arbennig hwnnw yr oedd Wesleaid Cylchdaith Ardal Bethesda a Deiniolen yn cynnal eu Cymanfa flynyddol yn Sling.

Fel dau Wesla o Ddeiniolen yr oedd Gwenlyn a聮i dad yn bresennol.

Doedd yna ddim caffi o fewn pedair milltir i Sling, felly, bwyta yn nhai cyd-Wesleaid oedd y drefn.

Fel dau chwarelwr - fy nhad yn y Penrhyn a thad Gwenlyn yn Ninorwig - a dau Wesla yr oedd yn naturiol mai acw y daeth Mr Parry a聮i fab "am ymborth" chwedl y pen blaenor.

Ar 么l bwyd, pan ddechreuodd y ddau dad 聭siarad chwaral聮 aeth y plentyn nawmlwydd yn anniddig a phenderfynodd Gwenlyn - tua phedair ar bymtheg fasa fo - ei ddiddori drwy wneud lluniau efo fo.

Roedd o聮n dipyn o arlunydd ac efo pensilau lliw gwnaeth lun ardderchog o Donald Duck.

Bu聮r llun hwnnw gen i am flynyddoedd ar wal fy llofft.

Dyna聮r diwrnod y rhois fy nhroed ar ris gyntaf 聭Twr聮 fy adnabyddiaeth o Gwenlyn ac efo聮r llun a聮r cof am ei chwerthiniad yr oedd honno聮n ris gadarn i ddechrau聮r dringo.

Ail ris y twr - pregethwr ar brawf

Aeth pum mlynedd heibio cyn i mi gael rhoi fy nhroed ar yr ail ris a hynny drwy聮r Wesleaid eto.

Yr oedd Gwenlyn bellach yn 聭bregethwr cynorthwyol聮 gyda聮r enwad a minnau yn bwt o organydd yng nghapal Gorphwysfa.

Ar gerdyn 聭plan聮 blwyddyn y Wesleaid lleol rhif 35 oedd W. Gwenlyn Parry yn rhestr y pregethwyr ac ar 么l ei enw yr oedd y geiriau "Ar brawf" mewn cromfachau!

Tybed 芒 oedd y ddau air yna yn awgrymu i聮r dramodydd feddwl mynd i聮r weinidogaeth?

Yr oedd yn hawdd iawn gwrando arno y diwrnod hwnnw. Wedyn y dois i ddeall fy mod yn gwrando ar ddeudwr stori penigamp.

Trydedd ris y twr - y 聭big break聮

Ychydig feddyliais yr adeg honno y byddai聮r dyn Parry yma yn chwarae rhan mor allweddol yn fy mywyd a聮m gyrfa, ond pan sefais ar drydedd ris y 聭Twr聮 yr oedd rhyw awgrym bach o hynny.

Daeth Gwenlyn i ddysgu gwyddoniaeth i ysgol Dyffryn Ogwen, Bethesda, pan oeddwn i yn y chweched.

Yr oedd cwmni drama yn yr ysgol a buan y daeth Gwenlyn i gymryd yr awenau.

Ysgrifennodd basiant Pasg a聮m castio i fel y Crist. Hyd y diwedd bu聮n tynnu fy nghoes mai fo roddodd y "big break" imi!

Fo hefyd gynhyrchodd Gymerwch Chi Sigaret a聮m castio fel Phugas. Ar 么l i ni berfformio yn hynod o lwyddiannus i聮n cyd-ddisgyblion gwrthododd y prifathro roi caniat芒d inni berfformio i聮n rhieni achos, yn ei farn o, fod y ddrama yn "rhy aflednais".

Fel y dywedodd Gwenlyn, "Yr unig foi 聭rioed i sensro Saunders Lewis!"

Bu fy nghysylltiad ag o wedyn yn un hir a hapus.

Dipyn o foi oedd y Wesla o arlunydd a dramodydd.

Atgofion eraill:

Eich atgofion chi:

cofion y cyhoedd

大象传媒
漏 MMI

Y Twr

Y Dramodydd
Ei Fywyd
Ei Ddram芒u
Atgofion Cyfeillion
Y Cyhoedd yn Cofio
Llais Ll锚n

Y Cynhyrchiad
Astudio'r Ddrama

Rhaglenni 'Wythnos Gwenlyn Parry'



About the 大象传媒 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy