MAWRTH 18fed Tachwedd 2014 Hygyrchedd Geiriau Yn Unig |
Chwaraeon Y Tywydd |
||
大象传媒 Homepage Cymru'r Byd Addysg |
||
禄 | Y Twr Y Dramodydd Y Cynhyrchiad Astudio'r Ddrama Amserlen teledu Amserlen radio E-gardiau Arolwg 2001 Gwybodaeth Ymateb |
Gwenlyn y gwrandawr astud Atgofion ei wraig gyntaf, Joy. Yr oedd Gwenlyn Parry yn wrand盲wr astud ar bobol yn siarad, meddai ei wraig gyntaf, Joy. "Rwy'n ei gofio聮n dweud wrtha i, 聭Wyt ti wedi sylwi nad yw pobol byth yn gorffen eu brawddegau pan fyddan nhw聮n siarad?聮 Roedd yn wir iawn am ei dad a聮i fam - fydden nhw byth yn cloi eu brawddegau. "Roedd ganddo fe glust fain iawn am ddeialog, dawn i greu sgwrs fel oedd pobol yn siarad." Yn 么l cyfeillion yr oedd barn Joy ei hun yn un bwysig iawn iddo ac yntau'n ystyried eu bod ill dau ar yr un donfedd. Hapus da phensil yn ei law Meddai hi: "Pan fydde syniad yn ei daro roedd e聮n methu aros nes galle fe roi pensil ar bapur," meddai. "Roedd e hapusa pan oedd pensil yn ei law yn gweithio ar ddrama." "Roedd e聮n disgwyl bo fi聮n cadw gydag e wrth iddo fe fwrw ymlaen 芒聮i ddrama. Byddai聮n dweud yn fanwl wrtha i bob cam o beth oedd yn digwydd yn y stori. Patrwm brawddegau i bob cymeriad "Roedd yn darllen darnau o ddeialog ac yn gofyn i fi, 聭Pwy sy聮n siarad fanna?聮 Roedd ffordd o siarad, patrwm brawddegau, pob un o聮i gymeriade yn wahanol. "Wedi gorffen y ddrama fe fydde fe聮n byrhau ac yn tocio聮r stori a聮r ddeialog lawr i聮r asgwrn nes o聮n i聮n teimlo weithiau na fydde dim byd ar 么l. Roedd e聮n feirniad llym ofnadwy o聮i waith ei hunan. "Fydde fe byth yn gollwng dim o聮i law nes ei fod yn gwbwl fodlon." "Mi fydde fe byth a hefyd yn newid llinellau gan ddweud pethe fel; 聭Na, fydde Williams ddim yn siarad fel聮na,聮 ac weithiau yn rhoi聮r llinell yng ngheg cymeriad arall." Trafod drwy聮r amser "Wedyn mi fyddai聮n symud sefyllfaoedd o gwmpas ac mi fyddai聮n trafod ac yn trafod drwy聮r amser." "Pan fydden ni聮n mynd i weld drama rhywun arall yr oedd yn trafod a dadansoddi聮r stori a聮r ystyr yn ddi-ddiwedd wedi hynny. Beth oedd y neges, beth oedd y dramodydd yn dreio聮i ddweud. Mi fyddai聮n gofyn o hyd ac o hyd, beth oeddwn i聮n feddwl. Dyna oedd y mwynhad iddo fe - i ni聮n dau o ran hynny." Ei ddrama gyntaf Drama gyntaf Gwenlyn oedd Y Ddraenen Fach a enillodd wobr yn Eisteddfod Genedlaethol Rhosllannerchrugog a chyflwynwyd perfformiad ohoni y flwyddyn wedyn gan gwmni Cymry Llundain yng nghystadleuaeth drama un-act Eisteddfod Llanelli. "Yr oedd fy nhadcu a mamgu yn byw mewn rhes o dai ar fynydd Llangyndeyrn ac enw聮r lle oedd y Ddraenen Fach. Roedd 聮nhad a mam wedi byw yno am gyfnod hefyd ac yr oedd Gwenlyn wedi bod fyny 聮da fi i weld y lle. Doedd bron ddim o聮r tai ar 么l erbyn hynny." "Roedd e wedi clywed gan ei dad y stori am y milwyr yn y Rhyfel Cyntaf yn dod allan o聮r ffosydd i chwarae p锚l-droed yn erbyn ei gilydd ar nos Nadolig. "Fe gyfunodd e聮r digwyddiad hwnnw a聮r lle yn Y Ddraenen Fach." "Mae criw o filwyr mewn seler ac maen nhw聮n clywed swn pobol yn y seler arall ond 聮dyn nhw ddim yn gwybod ai milwyr Prydeinig ynteu Almaenwyr sydd yna. Yn y diwedd mae聮r drws yn agor a milwr Almaenig yn dod i lawr y grisiau ac y mae聮r milwr ifanca yn y seler yn gwylltio ac yn ei saethu." Neuaddau gorlawn Saer Doliau Wrth s么n am Saer Doliau, y ddrama ddaeth 芒 Gwenlyn Parry i sylw聮r genedl, dywedodd: "Pan ddechreuodd y ddrama ar ei thaith yn Nolgellau nid oedd y neuadd ond yn chwarter llawn ond pan ganodd y teliffon yn y diwedd roedd pawb wedi聮u syfrdanu. Erbyn diwedd y daith roedd pob neuadd yn orlawn." Deuoliaeth pobl Yn ei lyfr am ddram芒u Gwenlyn Parry dywed Dewi Z. Phillips mai yr un thema sydd ymhob un o聮r dram芒u a chytuna Joy fod yna ynddyn nhw i gyd y ddeuoliaeth honno sydd ymhob person - yr hunan da a聮r hunan drwg. Mae cymeriadau ei ddram芒u yn gyfnewidiol, meddai, gan ddweud y gellid cyfnewid, er enghraifft, y saer a聮r bachgen ifanc yn Saer Doliau. Mae Y Ffin, wedyn, wedi ei pherfformio gyda dwy ferch a bachgen yn hytrach na聮r ddau ddyn a merch a sgrifennwyd gan Gwenlyn. Mae聮r catalydd ymhob un o聮i ddram芒u - ag eithrio聮r Twr, meddai Joy. "Rwy'n meddwl mai Y Twr yw ei ddrama orau," meddai. "Mae聮n fwy tynn, yn fwy aeddfed." |
漏 MMI |
|
About the 大象传媒 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy |