大象传媒


Explore the 大象传媒
Mae鈥檙 dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw鈥檔 cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

MAWRTH
18fed Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Gwenlyn Parry

A-Y | Chwilota
Y Diweddaraf



Chwaraeon

Y Tywydd

Radio Cymru yn fyw
Safleoedd



大象传媒 Homepage

Cymru'r Byd
Addysg
Y Twr
Y Dramodydd
Y Cynhyrchiad
Astudio'r Ddrama

Gwnewch

Amserlen teledu

Amserlen radio

E-gardiau

Arolwg 2001

Gwybodaeth

Ymateb


Y Dramodydd

Y tyrau yn ein bywyd

Atgofion cydweithiwr: William Jones

"Yr oedd hi fel rhyw fath o ysgol, bod gyda Gwenlyn yn yr Adran Sgriptiau yn y 大象传媒," meddai William Jones a fu聮n cydweithio ag ef ac sy聮n awr yn un o d卯m Pobol y Cwm.

"Pedwar ohonon - Meical Povey, Sion Eirian, Dewi Williams a finnau oedd yn ei gario fo ar ei daith olaf. Y fo oedd yn ein cario ni ers talwm," meddai.

Yr oedd William Jones yn siarad newydd iddo orffen twtio聮r ddrama Y Twr ar gyfer cynhyrchiad newydd.

"Ddoe ddiwetha gorffennais i," meddai. "A wyddoch chi be? Awr yn ddiweddarach daeth y newydd fod yna ddau dwr yn America wedi eu dymchwel.

"Twr crwn oedd twr Gwenlyn - bywyd yn troi mewn cylchoedd. Tri chyfnod mewn bywyd - ieuenctid, canol oed a henaint.

"Yn y diwedd mae聮r hen wr am gael ei ollwng yn urddasol o boen yr 聭hen elyn聮 - dyna fyddai Gwenlyn yn galw聮r canser - yn y diwedd.

"Roedd Gwenlyn yn sgrifennu聮r geiriau hynny yn y saithdegau. Ac yr oedd o聮i hun yn mynd drwy聮r un boen ddeng mlynedd yn 么l. Rhyfedd ynte? Holme Towers oedd enw聮r lle ym Mhenarth y treuliodd ei ddyddiau olaf.

"Bu farw bedair blynedd, bron i聮r diwrnod i聮w gyfaill Rhydderch Jones. Bu Rhydderch farw ar Dachwedd 4 - roedd Gwenlyn yn ei golli fo聮n arw ond mi fydda fo聮n cellwair weithiau: trueni na fuasai Rhydderch wedi byw un diwrnod arall, iddo gael mynd gyda bang ar ddydd Guto Ffowc.

"Mi gafodd Gwenlyn fynd ar ddydd Guto Ffowc - rhyfedd ynte?

"Mi fydda聮r ddau yn rhyw fudur bryfocio聮i gilydd - pan oeddan nhw聮n gweithio ar Fo a Fe - 聭Ti oedd yn rhoi min ar fy mhensal i.聮 Pethau fel yna.

Os oes yna ryw lawr arall yn y Twr - rhyw atic neu rwbath, mae聮n siwr y聮u bod nhw wrthi聮n pryfocio聮i gilydd y funud hon."

Atgofion eraill:

Eich atgofion chi:

cofion y cyhoedd

大象传媒
漏 MMI

Y Twr

Y Dramodydd
Ei Fywyd
Ei Ddram芒u
Atgofion Cyfeillion
Y Cyhoedd yn Cofio
Llais Ll锚n

Y Cynhyrchiad
Astudio'r Ddrama

Rhaglenni 'Wythnos Gwenlyn Parry'



About the 大象传媒 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy