Cymru cyn Cristnogaeth
25,000 CC - 43 OC
Cyn i Gristnogaeth gyrraedd Cymru, mae tystiolaeth archeolegol yn dangos bodolaeth amrywiaeth o gredoau crefyddol a defodau.
Ceir tystiolaeth o fodolaeth pobl gynhanesyddol o Gymru mewn sawl man - yn llythrennol ar lawr gwlad ac oddi tano. Mae dipyn o'r dystiolaeth yma yn ymwneud 芒 chladdedigaeth gweddillion dynol.
Mae gan nifer o'r safleoedd nodweddion tebyg, sy'n rheswm cryf dros gredu bod system gred gyffredin yn bodoli drwy'r ardal yn ystod gwahanol gyfnodau, yn arbennig yngl欧n 芒 marwolaeth. Dyna pam efallai bod crefyddau cynhanesyddol yn cael eu cysylltu 芒 delweddau marwaidd (meddylier am ddelweddau poblogaidd o aberthau derwyddol gwaedlyd), gan nad oes cymaint o dystiolaeth am briodasau a genedigaethau, neu o leiaf, nid yw'r dystiolaeth honno wedi ei chanfod eto.
Darganfuwyd un o'r safleoedd claddu cynharaf mewn ogof ar arfordir G诺yr. Dyma'r sgerbwd a adwaenir fel 'Dynes Goch Pafiland'. Mewn gwirionedd, ysgerbwd dyn ifanc ydyw; mae'n dyddio o tua 25,000 mlynedd yn 么l. Mae'n un o'r claddedigaethau seremon茂ol hynaf i'w canfod yng ngorllewin Ewrop. Wedi eu claddu gyda'r corff oedd gemwaith wedi ei wneud o ifori a chregyn y m么r, yn ogystal 芒 phenglog mamoth. Mae'r lliwio coch a ddarganfuwyd ar y gweddillion yn awgrymu cysylltiad symbolaidd 芒 gwaed. Ceir theori bod y dyn ifanc yn siaman neu'n ddyn hysbys.
Yn dilyn diwedd Oes yr I芒 tua 10,000 mlynedd n么l dychwelodd pobl i'r hyn sydd nawr yn Gymru. Y cyfnod hyd at yr Oes Efydd, tua 4,000 mlynedd n么l, oedd y cyfnod pryd y gwelwyd adeiladu cromlechi a chylchoedd cerrig dros ymylon gorllewin Ewrop. Fel rheol, fe ffurfir cromlech gyda dwy neu dair carreg yn sefyll ar i fyny a chapfaen ar eu pen. Credir mai siambrau claddu yw cromlechi, ac, yn 么l haneswyr, dyma'r adeiladau parhaol cynharaf a godwyd gan bobl, yn h欧n na phyramidiau'r Aifft.
Ceir tua 150 o gromlechi yng Nghymru, y mwyaf nodedig ym Mhentre Ifan yn y Preseli, Sir Benfro.
Mae gan Sir Benfro hefyd gysylltiad gyda'r cylchoedd cerrig enwocaf ym Mhrydain, C么r y Cewri, neu 'Stonehenge' gan fod cylch mewnol y safle yn Wiltshire yn cynnwys cerrig glas, a ddaeth, mae'n debyg, o'r Preseli lle mae Pentre Ifan wedi ei leoli. Mae cylch cerrig hynafol Sir Benfro ei hun i'w canfod hefyd yn Y Preseli ei hun, yng Nghors Fawr, ger Crymych. Ceir nifer o rai eraill dros Gymru.
Credir i'r cylchoedd yma gael eu defnyddio ar gyfer defodau crefyddol, ond does dim cofnod ar gael o'r hyn a ddigwyddodd. Cafodd y traddodiad o godi cylchoedd cerrig ei adfer yn dilyn gweithgareddau'r hanesydd o'r 18fed ganrif, Iolo Morgannwg. Daeth yn rhan o weithgareddau'r Eisteddfod Genedlaethol, a hyd heddiw fe godir gylch cerrig lle bynnag mae'r Eisteddfod yn ymweld, a phan fo'r tywydd yn caniat谩u, dyma ganolbwynt seremon茂au Gorsedd y Beirdd yn ystod yr Eisteddfod. Dyna pam fod pobl yn meddwl bod yr hen Dderwyddon arfer ag addoli wrth y cylchoedd cerrig hyn.
Mae'n debyg i arferion crefyddol y bobl frodorol gael eu heffeithio gan ddyfodiad gwaith metel i Gymru, ynghyd 芒 newid yn yr hinsawdd. I gychwyn fe beidiwyd 芒 chodi cromlechi a chylchoedd cerrig. Roedd creu metel yn ddewiniaeth yn ei hanfod, a chafodd nifer o wrthrychau eu gwneud o efydd a haearn yn ogystal ag amrywiadau mwy gwerthfawr fel aur, arian a chopr. Mae'n debyg i'r gwrthrychau hyn ddod yn sylfaen crefydd ac iddynt gael eu cynnig yn offrwm i'r duwiau. Cafwyd hyd i nifer o wrthrychau metel yn dyddio o'r cyfnod yma, yn amrywio o arfau i offer bob dydd, ar waelod llynnoedd hynafol yng Nghymru fel Llyn Cerrig Fach a Llyn Fawr.
Daeth arweinwyr crefyddol y defodau yma i'w hadnabod fel Derwyddon. Rydym yn gwybod mwy amdanynt na'u rhagflaenwyr oherwydd roeddynt yn byw pan ymestynnai'r Ymerodraeth Brydeinig i ogledd orllewin Ewrop, cyfnod sydd wedi ei gofnodi'n gymharol dda. Ysgrifennodd Julius Caesar am y Derwyddon yn ystod ei ryfeloedd gyda'r Galiaid, ac mae gan yr hanesydd Tacitus ddisgrifiad byw iawn o'r ymosodiad ar Ynys M么n, neu Mona, un o gadarnleoedd y Derwyddon, yn AD 60.
Bu i'r ymosodiad yma ar F么n ddod 芒 Derwyddiaeth i ben fel grym effeithiol ym Mhrydain, ond cafodd addoli duwiau'r hen Frythoniaid ei oddef o dan y gyfundrefn Rufeinig o hyd.
Mwy
- Crefydd Cyn Cristnogaeth
- Y Rhufeiniaid a dyfodiad Cristnogaeth
- Oes y Seintiau
- Y Bygythiad Normanaidd
- Tywysogion ac Esgobion
- Y Diwygiad Protestannaidd
- Rhyfel Cartref
- Cychwyn Anghydffurfiaeth
- Emynwyr a Phregethwyr
- Pobl Anghydffurfiol
- Diwydiant a Dirwest
- Diwylliant a Gwleidyddiaeth
- Y Diwygiad
- Twf Seciwlariaeth
- Cymru Amlddiwylliannol
Cysylltiadau'r 大象传媒
Hanes Cymru
Creu'r genedl
Dilynwch hanes Cymru a datblygiad y genedl Gymreig o'r Celtiaid i'r Cynulliad gyda'r Dr John Davies.