Pobl Anghydffurfiol 1800 - 1840
Yn dilyn y Diwygiad Methodistaidd, daeth ail don o bregethwyr i'r amlwg wrth i Gymru gychwyn ar y Chwyldro Diwydiannol.
Wrth i ffigyrau amlwg cynnar y Diwygiad Methodistaidd farw tua diwedd y ddeunawfed ganrif, daeth arweiniad y mudiad o dan ofal Thomas Charles (1755-1814).
Yn wreiddiol o Gaerfyrddin, ymgartrefodd yn y Bala, gogledd Cymru, ac aeth ati gyda'i egni a'i drefnusrwydd nodweddiadol i wneud y dref yn ganolfan i Fethodistiaeth yng ngogledd Cymru.
Aeth ati hefyd i adfywio ysgolion darllen Griffith Jones, oedd wedi gwneud y cysylltiad 芒 chrefydd yn bosib i gymaint o Gymry.
Un o ddigwyddiadau byd-enwog y cyfnod hwn oedd pan gerddodd y ferch ifanc Mari Jones o Lanfihangel y Pennant i'r Bala ac yn 么l - taith o 40 milltir - i dderbyn copi o'r Beibl Cymraeg, gweithred a ysbrydolodd Thomas Charles i gynorthwyo i sefydlu'r gymdeithas Feibl Prydeinig a Thramor ar ddechrau'r bedwaredd ganrif ar bymtheg.
Charles oedd yr un a arweiniodd y Methodistiaid Cymreig allan o Eglwys Loegr yn 1811, symudiad a'u hunionodd o'r diwedd gyda gweddill Anghydffurfiaeth yng Nghymru.
Ysbrydolodd y Diwygiad Methodistaidd weithgaredd o'r newydd o fewn yr Eglwys sefydledig ac o fewn yr amrywiol enwadau Anghydffurfiol megis y Bedyddwyr a'r Annibynwyr.
Daeth ail don o bregethwyr i'r amlwg yn ystod y cyfnod hwn, un o'r enwocaf a'r mwyaf carismataidd oedd Christmas Evans (1766-1838). Yn wreiddiol o Landysul yng ngorllewin Cymru, daeth Evans o gefndir tlawd a chaled. Collodd lygad wrth ymladd un tro.
Yn dilyn ei dr枚edigaeth, fe aeth yn weinidog gyda'r Bedyddwyr, a chan ddilyn esiampl un arall o orllewin Cymru, Thomas Charles, aeth Evans i wneud gwaith cenhadol yng ngogledd Cymru. Arhosodd yno am nifer o flynyddoedd cyn setlo yn 么l yn y de. Gelwir ef yn 'Bunyan Cymru'.
Bu i'r gweithgaredd crefyddol yma arwain at gynnydd enfawr mewn aelodaeth o fewn yr enwadau Anghydffurfiol, a arweiniodd yn ei dro at godi nifer o gapeli ar draws y wlad. Parhaodd hyn drwy'r bedwaredd ganrif ar bymtheg. Yn ystod y cyfnod yma amcangyfrifir ar gyfartaledd bod capel yn cael ei godi bob wyth niwrnod.
Cymaint oedd gweithgarwch yr adeiladwyr fel y credir bod mwy o seddi yn y capeli gyda'i gilydd nag oedd yna o bobl a oedd yn byw yng Nghymru! Efallai nad yw hyn yn wir, ond beth sydd yn sicr yw i'r ymdrechion yma arwain at un o eiconau pensaern茂ol amlyca'r wlad, y Capel Cymreig.
Roedd gan bob pentref o leiaf un, a bu i'r cymunedau newydd ddeilliodd o'r Chwyldro Diwydiannol ddarparu mwy fyth o gyfle am adeiladau newydd. Yn anffodus mae'r edwino presennol yn y nifer sy'n mynd i'r capel wedi arwain at gapeli gwag sy'n prysur ddadfeilio.
Yn ystod yr un cyfnod, gwelwyd trais yng Nghymru, yn fwyaf arbennig ym Merthyr lle bu terfysg sylweddol yn 1831, yng Nghasnewydd lle bu ymosodiad gan y Siartwyr yn 1839, ac yn y Gymru wledig lle cafwyd terfysg Beca rhwng 1839 a 1842.
Ymatebodd yr awdurdodau drwy gomisiynu amrywiaeth o adroddiadau. Bu i'w casgliadau nid yn unig gael effaith ar y modd wnaeth crefydd ddatblygu yng Nghymru yn ystod ail hanner y ganrif, ond hefyd gwelwyd y canlyniadau ym meysydd gwleidyddol a diwylliannol y cyfnod yn ogystal.
Mwy
- Crefydd Cyn Cristnogaeth
- Y Rhufeiniaid a dyfodiad Cristnogaeth
- Oes y Seintiau
- Y Bygythiad Normanaidd
- Tywysogion ac Esgobion
- Y Diwygiad Protestannaidd
- Rhyfel Cartref
- Cychwyn Anghydffurfiaeth
- Emynwyr a Phregethwyr
- Pobl Anghydffurfiol
- Diwydiant a Dirwest
- Diwylliant a Gwleidyddiaeth
- Y Diwygiad
- Twf Seciwlariaeth
- Cymru Amlddiwylliannol
Cysylltiadau'r 大象传媒
Hanes Cymru
Creu'r genedl
Dilynwch hanes Cymru a datblygiad y genedl Gymreig o'r Celtiaid i'r Cynulliad gyda'r Dr John Davies.