Diwydiant a Dirwest 1840 - 1881
Mewn adroddiadau swyddogol ar Gymru gan y Llywodraeth, fe bortreadwyd y wlad fel man lle'r oedd anwybodaeth ac anfoesoldeb yn rhemp. Wrth ymladd yr enllib yma, fe roddodd gwladgarwyr Cymreig hwb enfawr i Anghydffurfiaeth a'u werthoedd.
Yn dilyn y gwrthdystiadau cyhoeddus yng Nghymru yn ystod yr 1830au a'r 1840au, fe gomisiynodd y llywodraeth nifer o adroddiadau. Yr enwocaf o'r rhain oedd arolwg o'r system addysg. Cafodd yr adroddiad cyhoeddedig ei adnabod fel y Llyfrau Gleision, oherwydd lliw rhwymiad y cloriau. Pan y'i cyhoeddwyd yn 1847, fe achoswyd cythrwfl.
Roedd yr adroddiad yn cynnwys nifer o bwyntiau dilys ond cafodd ei wanhau gan y ffaith mai tri chyfreithiwr o Loegr heb fawr o wybodaeth am Gymru a'r iaith oedd wedi ei lunio. Yn ogystal 芒 nodi diffygion yn y ddarpariaeth addysgol yn y wlad, cynhwyswyd hefyd ddeunydd yn beirniadu'r iaith Gymraeg ynghyd 芒 moesau'r Cymry.
Roedd yr adroddiad yn bwnc trafod brwd rhwng yr Anghydffurfwyr a'r Eglwys sefydledig. Cafodd ei bortreadu gan rai Anghydffurfwyr fel ymosodiad Anglicanaidd ar y Cymry a'u diwylliant, ymosodiad oedd yn annheg a dweud y lleiaf.
Ond nid Anghydffurfwyr yn unig a ddigiwyd gan yr adroddiad. Bu Eglwyswyr gwladgarol yng Nghymru hefyd yn cwyno amdano. Serch hynny, roedd yr argraff wedi ei chreu mai presenoldeb 'estron' yng Nghymru oedd Eglwys Loegr.
Roedd yr Eglwys Wladol yn colli tir yng Nghymru nid yn unig yn nhermau ei ddelwedd genedlaethol, ond yn nhermau nifer addolwyr hefyd. Dangosodd yr unig gyfrifiad crefyddol yn 1851 mai lleiafrif oedd addolwyr Anglicanaidd yng Nghymru- roedd y rhan fwyaf o Gristnogion erbyn hynny yn Anghydffurfwyr.
Roedd y Chwyldro Diwydiannol ar gynnydd. Metal - megis gweithfeydd haearn a chopr - oedd sail y don ddiwydiannol gyntaf. Ond erbyn canol y bedwaredd ganrif ar bymtheg roedd cloddio glo ar gynnydd wrth i'r gofynion tanwydd oedd ei angen ar y ffwrnesi, y rheilffyrdd a'r llongau st锚m godi.
Nid cyd-ddigwyddiad yw'r ffaith bod y gweithgareddau yma yn digwydd yr un pryd ag yr oedd yr Ymerodraeth Brydeinig yn lledu ac yn cael gafael ar adnoddau a thiriogaethau newydd. Arweiniodd y ffactorau yma at Gymru'n datblygu fel un o'r gwledydd cyntaf yn y byd lle'r oedd mwyafrif y boblogaeth yn gweithio mewn diwydiant - datblygiad o bwys mawr i wleidyddiaeth Cymru hyd at y dydd heddiw.
Dylifodd pobl i gymoedd de Cymru i chwilio am waith, gan greu cymunedau newydd yn y broses. Wrth i byllau glo newydd gael eu hagor, codwyd capeli yn yr ardaloedd diwydiannol ar raddfa gyflymach nag y codwyd eglwysi Anglicanaidd. O ganlyniad gadawodd Anghydffurfiaeth stamp unigryw ar ddiwylliant Cymru, yn enwedig yn nhrefi'r cymoedd.
Roedd alcohol yn destun pryder i'r capeli yn ystod y cyfnod hwn, ac wedi cyfnod o ymgyrchu dwys, fe basiwyd y Ddeddf Cau ar y Sul yn 1881. Roedd y mesur i gau tafarndai ar y Saboth yn un o'r ychydig ddeddfau o'r cyfnod i gyfeirio yn unig at Gymru, felly gellir dangos i Anghydffurfiaeth gyfrannu at arwahanrwydd gwleidyddol Cymru.
Eto i gyd nid pob gwladgarwr oedd o blaid y mesurau dirwestol yma. Roedd rhai yn ystyried bod y pwyslais ar ddirwest yn rhoi argraff o grefydd - yn enwedig crefydd cyfrwng Cymraeg - oedd yn lladd ar bob mwynh芒d.
Cafodd yr agweddau dirwestol yma effaith fawr ar Anghydffurfiaeth ac ar yr iaith yn ddiweddarach yn y ganrif ganlynol. Ond yn y cyfamser, roedd dirwest mewn grym ac fe fyddai'n ddylanwadol iawn dros y can mlynedd nesaf.
Y capeli ddaeth yn ganolbwynt gweithgareddau yn y trefi newydd diwydiannol, ac mae llawer o'r traddodiad canu corawl Cymreig yn dyddio yn 么l i'r cyfnod yma.
Un datblygiad a fu'n gymorth i hyn fu cyflwyno system gerddorol Sol-ffa, a alluogodd nifer fawr o bobl i gymryd rhan mewn canu corawl. Un o'r cymhellion mawr dros hybu gweithgareddau cerddorol oedd cadw pobl allan o'r tafarnau.
Mwy
- Crefydd Cyn Cristnogaeth
- Y Rhufeiniaid a dyfodiad Cristnogaeth
- Oes y Seintiau
- Y Bygythiad Normanaidd
- Tywysogion ac Esgobion
- Y Diwygiad Protestannaidd
- Rhyfel Cartref
- Cychwyn Anghydffurfiaeth
- Emynwyr a Phregethwyr
- Pobl Anghydffurfiol
- Diwydiant a Dirwest
- Diwylliant a Gwleidyddiaeth
- Y Diwygiad
- Twf Seciwlariaeth
- Cymru Amlddiwylliannol
Cysylltiadau'r 大象传媒
Hanes Cymru
Creu'r genedl
Dilynwch hanes Cymru a datblygiad y genedl Gymreig o'r Celtiaid i'r Cynulliad gyda'r Dr John Davies.