Y Rhufeiniaid a dyfodiad Cristnogaeth
43 AD - 410 AD
Pan oresgynnodd y Rhufeiniaid Brydain yn AD 43, fe ddaethant 芒 dylanwadau newydd. Bu i'w duwiau eu hunain gyfuno gyda duwiau brodorol Prydeinig i greu crefydd gyfansawdd newydd. Agorwyd y llwybrau felly ar gyfer y grefydd newydd a drechodd yr hen ffyrdd paganaidd maes o law.
Chwalwyd yr hen drefn Dderwyddol yn 60 AD pan gafodd ei gafael ar F么n ei thorri gan y fyddin Rufeinig. Y Derwyddon oedd swyddogion crefyddol y Brythoniaid brodorol ac mae'n ymddangos mai hwy oedd prif ffynhonnell gwrthwynebiad i'r Rhufeiniaid. Roedd y goresgyniad o F么n yn gydnabyddiaeth amlwg o'r bygythiad i'r gyfundrefn Rufeinig.
Mae'n bosib mai crefydd gynhenid i Brydain oedd Derwyddiaeth. Mae'r gair Cymraeg Derwydd, yn cysylltu'n agos gyda'r gair derwen. Ac mae'r Gymraeg yn iaith sy'n hanu'n uniongyrchol o'r iaith Frythoneg a siaradwyd gan y Brythoniaid adeg y goncwest Rufeinig. Nododd Julius Caesar bod y Derwyddon yn addoli mewn llwyni derw, ac yn 么l yr hanesydd Tacitus un o'r pethau cyntaf wnaeth concwerwyr Rhufeinig M么n oedd torri nifer o'r llwyni derw a ddarganfuwyd dros yr ynys.
Er i b诺er gwleidyddol Derwyddol gael ei chwalu, parhawyd i addoli'r duwiau brodorol. Mae'n debyg mai agwedd bragmataidd oedd gan y Rhufeiniaid tuag at grefydd - os nad oedd yn bygwth presenoldeb Rhufeinig fe g芒i ei goddef. Mae'n ymddangos y credent hefyd mai gwell oedd peidio 芒 digio'r duwiau brodorol, gan y gallai hynny olygu y caent lwc ddrwg yn ystod eu harhosiad ar dir estron. Felly fe geision nhw gael y gorau o ddau fyd drwy baru eu duwiau Rhufeinig gyda'r rhai Prydeinig, gan godi allorau ar y cyd.
Ceir un o'r rhai enwocaf ym Mhrydain yn yr hen faddondai Rhufeinig yng Nghaerfaddon. Adeiladodd y Rhufeiniaid eu hallorau o gwmpas y ffynhonnau poeth oedd yno yn 54 AD, ar safle teml a godwyd gan y Brythoniaid. Enw'r dduwies frodorol wreiddiol oedd Sul ac fe'i cyfunwyd gyda'r dduwies Rufeinig Minerva i greu Sulis Minerva.
Cafwyd esiampl yng Nghymru o 'dduw cyfansawdd' a ddarganfuwyd mewn teml wedi ei chyflwyno i Mars-Oculus yng Nghaerwent, a charreg yn dyddio o tua 300 AD a ddarganfuwyd yng Nghaerleon yn awgrymu i gredoau Prydeinig brodorol barhau heb orfod cael eu cyfuno gydag arferion Rhufeinig.
Mae cof gwerin yn parhau hyd heddiw am yr hen dduwiau ar ffurf mythau a chwedlau, - y Mabinogi yw'r enghraifft orau yng Nghymru. Credir bod y casgliad hwn o straeon eisoes yn hynafol pan gofnodwyd hwy ynghanol yr unfed ganrif ar ddeg. Cred rhai mai dyma'r agosaf allwn gyrraedd i fyd hudolus yr hen Frythoniaid.
Yn gynnar yn y bedwaredd ganrif, cafodd dau ddyn o'r enw Aaron a Julius eu dienyddio yn nhre Caerleon am ddilyn crefydd waharddedig. Ni wyddys faint a ddilynodd yr un ffawd. Ond o fewn can mlynedd y ffydd erlidedig hon oedd crefydd swyddogol yr Ymerodraeth Rufeinig, ac ymhen amser fe gafodd Aaron a Julius eu cydnabod fel y merthyron Cristnogol Cymreig cyntaf.
Mwy
- Crefydd Cyn Cristnogaeth
- Y Rhufeiniaid a dyfodiad Cristnogaeth
- Oes y Seintiau
- Y Bygythiad Normanaidd
- Tywysogion ac Esgobion
- Y Diwygiad Protestannaidd
- Rhyfel Cartref
- Cychwyn Anghydffurfiaeth
- Emynwyr a Phregethwyr
- Pobl Anghydffurfiol
- Diwydiant a Dirwest
- Diwylliant a Gwleidyddiaeth
- Y Diwygiad
- Twf Seciwlariaeth
- Cymru Amlddiwylliannol
Cysylltiadau'r 大象传媒
Hanes Cymru
Creu'r genedl
Dilynwch hanes Cymru a datblygiad y genedl Gymreig o'r Celtiaid i'r Cynulliad gyda'r Dr John Davies.