Swyddi'r Dyfodol yng Nghanolbarth Cymru
Poblogaeth fechan sydd yng Nghanolbarth Cymru, ac o ganlyniad mae'r nifer sydd mewn gwaith hefyd yn isel. Mae yno nifer o gwmn茂au llwyddiannus iawn a llawer o fusnesau bach. Er hynny, mae recriwtio pobl yn gallu bod yn anodd, ac oherwydd natur ynysig yr ardal mae yno rai cymunedau difreintiedig.
Prif sectorau cyflogi'r Canolbarth
Rhain ydy'r diwydiannau sy'n cyflogi'r rhan fwyaf o boblogaeth Canolbarth Cymru. Mae llawer o swyddi'n cael eu creu yn y sectorau mawr ond mae cyfleoedd da yn y sectorau bach hefyd.
|
Gwasanaethau Cyhoeddus
|
|
Adeiladu
|
|
Dosbarthu a Gwestai |
|
Metelau, mwynau a chemegau |
|
Gweithgynhyrchu arall |
|
Cludiant a Chysylltiadau |
|
Gwasanaethau Ariannol a Busnes |
|
Amaethyddiaeth |
|
Peirianneg |
|
Mwyngloddio a'r prif wasanaethau |
Ffynhonnell: Strategaethau Busnes Sgiliau'r Dyfodol yng Nghymru, 2000
Sectorau Allweddol
Mae cyfran uwch o rai diwydiannau yng Nghanolbarth Cymru nag yn unman arall yng Nghymru. Dydi hyn ddim yn golygu eu bod nhw o anghenrhaid yn cyflogi mwy o bobl, ond mae gan y Canolbarth fwy na'i si芒r o'r sectorau yma o'i gymharu 芒 gweddill Cymru
1. Amaethyddiaeth, Coedwigaeth a Physgota
2. Pren a nwyddau pren
3. Mwyngloddio
4. Tecstiliau a dillad
5. Gwestai ac Arlwyo
6. Gwasanaethau Ariannol a Busnes
7. Addysg
8. Nwy, trydan a dwr
9. Cyfanwerthu
Ffynhonnell: Yn deillio o Strategaethau Busnes Sgiliau'r Dyfodol yng Nghymru, 2000
Rhagolygon Pum Mlynedd
Dyma'r diwydiannau sy'n debyg o dyfu o ran nifer swyddi dros y 5 mlynedd nesaf:
1. Dosbarthu, Gwestai ac Arlwyo
Rhagwelir 1,400 o swyddi newydd. Rhagwelir twf sylweddol ar draws y sector yma, sydd eisoes yn bwysig iawn i economi'r Canolbarth.
2. Gwasanaethau Cyhoeddus
Rhagwelir twf o 1,100 o swyddi, yn bennaf yn y gwasanaeth iechyd ac addysg. Mae dros hanner y bobl sy'n gweithio yng Nghanolbarth Cymru yn cael eu cyflogi gan y Gwasanaethau Cyhoeddus.
3. Gweithgynhyrchu
Rhagwelir 100 o swyddi newydd. Mae'r sector yma'n cynnwys diwydiannau fel ailgylchu sy'n tyfu oherwydd pryder pobl ynglyn 芒 gwaredu gwastraff a'r amgylchedd. Mae'r sector hefyd yn cynnwys nwyddau mor amrywiol 芒 dodrefn swyddfa, tegannau, nwyddau chwaraeon a gemwaith.
Ffynhonnell: Strategaethau Busnes Sgiliau'r Dyfodol yng Nghymru, 2000
Cofiwch, bydd llawer o swyddi eraill yn cael eu creu yn y sectorau yma a'r rhan fwyaf o'r sectorau eraill wrth i bobl ymddeol a newid swyddi.
|