Swyddi'r Dyfodol yng Ngogledd Cymru
Mae tua 640,000 o bobl yn byw yng Ngogledd Cymru ac mae 377,000 ohonyn nhw yn bobl oedran gweithio. Mae'r nifer sydd mewn gwaith ac sy'n hunan-gyflogedig yng Ngogledd Cymru wedi tyfu yn y 15 mlynedd diwethaf. Mae mwyafrif cyflogwyr yr ardal yn credu bod gweithlu sgilgar yn hanfodol i lwyddiant eu busnes.
Prif sectorau cyflogi'r Gogledd
Rhain ydy'r diwydiannau sy'n cyflogi'r rhan fwyaf o boblogaeth Gogledd Cymru. Mae llawer o swyddi'n cael eu creu gan y sectorau mawr ond mae cyfleoedd da yn y sectorau bach hefyd.
|
Gwasanaethau Cyhoeddus
|
|
Adeiladu
|
|
Dosbarthu a Gwestai |
|
Metelau, mwynau a chemegau |
|
Gweithgynhyrchu arall |
|
Cludiant a Chysylltiadau |
|
Gwasanaethau Ariannol a Busnes |
|
Amaethyddiaeth |
|
Peirianneg |
|
Mwyngloddio a'r prif wasanaethau |
Ffynhonnell: Strategaethau Busnes Sgiliau'r Dyfodol yng Nghymru, 2000
Sectorau
Allweddol
Mae cyfran uwch o rai diwydiannau yng Ngogledd Cymru nag yn unman arall yng Nghymru. Dydi hyn ddim yn golygu eu bod nhw o anghenrhaid yn cyflogi mwy o bobl, ond mae gan y Gogledd fwy na'i si芒r o'r sectorau yma o'i gymharu 芒 gweddill Cymru.
1. Nwy, trydan a dwr, e.e. cynhyrchu a dosbarthu trydan
2. Mwynau, e.e. chwareli 3. Cynhyrchu bwyd, diod a thybaco
4. Cemegau, e.e. cynhyrchu paent neu wrtaith
5. Pren a chynhyrchu nwyddau pren
6. Papur, argraffu a chyhoeddi, e.e. cynhyrchu papur a chyhoeddi llyfrau
7. Cynhyrchu tecstiliau a dillad
8. Amaethyddiaeth, coedwigaeth a physgota
9. Cynhyrchu rwber a phlastig
10. Gwestai ac arlwyo
Ffynhonnell: Yn deillio o Strategaethau Busnes Sgiliau'r Dyfodol yng Nghymru, 2000
Rhagolygon Pum Mlynedd
Dyma'r diwydiannau sy'n debyg o dyfu o ran nifer swyddi dros y 5 mlynedd nesaf:
1. Gwasanaethau Cyhoeddus
Rhagwelir 5,300 o swyddi newydd. Bydd cynnydd yn y swyddi yma yn bennaf wrth i fwy o bobl gael eu cyflogi ym maes iechyd cyhoeddus a byd addysg a rhai o wasanaethau'r sector preifat.
2. Gweithgynhyrchu Arall
Rhagwelir 3,800 o swyddi. Mae'r sector yma'n cynnwys diwydiannau fel ailgylchu sy'n tyfu oherwydd pryder pobl ynglyn 芒 gwaredu gwastraff a'r amgylchedd. Mae'r sector hefyd yn cynnwys nwyddau mor amrywiol 芒 dodrefn swyddfa, tegannau, nwyddau chwaraeon a gemwaith.
3.
Peirianneg
Rhagwelir 2,200 o swyddi newydd.
Mae hyn yn cynnwys cynhyrchu peiriannau sy'n cael eu defnyddio ym mhrosesau cynhyrchu cwmn:iau eraill. Ymhlith yr eitemau a gynhyrchir mae offer trydanol ac optegol fel offer cyfathrebu, offer meddygol a pheiriannau optegol manwl-gywir.
4. Dosbarthu, Gwestai ac Arlwyo
Rhagwelir 1,800 o swyddi newydd.
Ar hyn o bryd mae hwn yn sector pwysig iawn i economi Gogledd Cymru.
Ffynhonnell: Strategaethau Busnes Sgiliau'r Dyfodol yng Nghymru, 2000
Cofiwch, bydd llawer o swyddi eraill yn cael eu creu yn y sectorau yma a'r rhan fwyaf o'r sectorau eraill wrth i bobl ymddeol a newid swyddi.
|