大象传媒

Explore the 大象传媒
This page has been archived and is no longer updated. Find out more about page archiving.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
N么l i'r dudalen gartref
swyddi sgiliau hyfforddiant addysg uwch addysg bellach

大象传媒 Homepage
Addysg
Jyst y Job
Swyddi
Sgiliau
Hyfforddiant
Addysg Uwch
Addysg Bellach
Siarad o brofiad


Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Sgiliau ar gyfer gwaith


Swyddi'r Dyfodol yng Ngorllewin Cymru

Mae dros 200,000 o bobl mewn gwaith yng Ngorllewin Cymru. Mae'r rhagolygon swyddi ar gyfer y ddwy flynedd nesaf yn dangos patrwm eithaf sefydlog ond disgwylir i'r economi dyfu yn 2002.

Prif sectorau cyflogi Gorllewin Cymru

Rhain ydy'r diwydiannau sy'n cyflogi'r rhan fwyaf o bobl yng Ngorllewin Cymru. Mae llawer o swyddi'n cael eu creu gan y sectorau mawr ond mae cyfleoedd da yn y sectorau bach hefyd.

siart pei

Gwasanaethau Cyhoeddus Adeiladu
Dosbarthu a Gwestai Metelau, mwynau a chemegau
Gweithgynhyrchu arall Cludiant a Chysylltiadau
Gwasanaethau Ariannol a Busnes Amaethyddiaeth
Peirianneg Mwyngloddio a'r prif wasanaethau

Ffynhonnell: Strategaethau Busnes Sgiliau'r Dyfodol yng Nghymru, 2000

Sectorau Allweddol

Fodd bynnag, mae cyfran uwch o rai diwydiannau yng Ngorllewin Cymru nag ynunman arall yng Nghymru. Dydi hyn ddim yn golygu eu bod nhw o anghenrhaid yn cyflogi mwy o bobl, ond mae gan Orllewin Cymru fwy na'i si芒r o'r sectorau yma o'i gymharu 芒 gweddill Cymru.

1. Puro tanwydd
2. Amaethyddiaeth, coedwigaeth a physgota
3. Metelau, e.e. cynhyrchu haearn a dur sylfaenol
4. Offer ar gyfer y diwydiant trafnidiaeth, e.e. cynhyrchu ceir
5. Mwyngloddio o fath arall, e.e. chwareli
6. Cludiant, e.e. rheilffyrdd a bysiau
7. Cysylltiadau, e.e. telegyfathrebu
8. Amddiffyn a Gweinyddu Cyhoeddus, e.e. cyrff rheoli a gweithgaredd amddiffyn
9. Iechyd
10. Cyfanwerthu

Ffynhonnell: Yn deillio o Strategaethau Busnes Sgiliau'r Dyfodol yng Nghymru, 2000

Rhagolygon Pum Mlynedd

Dyma'r diwydiannau sy'n debyg o dyfu o ran nifer swyddi yn y 5 mlynedd nesaf:

1. Gwasanaethau cyhoeddus
Rhagwelir 2,500 o swyddi newydd. Bydd cynnydd yn y swyddi yma yn bennaf wrth i fwy o bobl gael eu cyflogi ym maes iechyd cyhoeddus a byd addysg.

2. Peirianneg
Rhagwelir 200 o swyddi newydd. Mae hyn yn cynnwys cynhyrchu peiriannau sy'n cael eu defnyddio ym mhrosesau cynhyrchu cwmn茂au eraill. Rhai o'r nwyddau a gynhyrchir ydy offer trydanol ac optegol fel offer cyfathrebu, offer meddygol a pheiriannau optegol manwl-gywir.

3.Gweithgynhyrchu arall
Rhagwelir 100 o swyddi newydd. Mae'r sector yma'n cynnwys elfennau fel ailgylchu, sy'n tyfu oherwydd pryder pobl ynglyn 芒 gwaredu gwastraff a'r amgylchedd. Mae'r sector hefyd yn cynnwys nwyddau mor amrywiol 芒 dodrefn swyddfa, tegannau, nwyddau chwaraeon a gemwaith.

Ffynhonnell: Strategaethau Busnes Sgiliau'r Dyfodol yng Nghymru, 2000

Cofiwch, bydd llawer o swyddi eraill yn cael eu creu yn y sectorau yma a'r rhan fwyaf o'r sectorau eraill wrth i bobl ymddeol a newid swyddi.

Lincs

Hefyd...
Gogledd Cymru
Canolbarth Cymru
De-ddwyrain Cymru

Cam nesa...
Swyddi
Beth mae cyflogwyr eisiau?


randomly included tips

randomly included tips



top

swyddi

sgiliau

hyfforddiant

add. uwch

add. bellach

sgwrs


About the 大象传媒 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy