Swyddi'r Dyfodol yng Ne-ddwyrain Cymru
Mae dros 1.2 miliwn o bobl yn byw yn Ne-ddwyrain Cymru.
Mae'r ardal wedi llwyddo'n economaidd yn bennaf drwy ddenu buddsoddwyr ar hyd coridor yr M4, ac mae twf Caerdydd i fod yn un o Brifddinasoedd Ewrop wedi cyfrannu hefyd. Fodd bynnag, mae rhannau o gymoedd y de yn dal i fod yn ardaloedd difreintiedig.
Prif sectorau cyflogi'r De-ddwyrain
Rhain ydy'r diwydiannau sy'n cyflogi'r rhan fwyaf o boblogaeth De-ddwyrain Cymru. Mae llawer o swyddi'n cael eu creu gan y sectorau mawr ond mae cyfleoedd da yn y sectorau bach hefyd.
|
Gwasanaethau Cyhoeddus
|
|
Adeiladu
|
|
Dosbarthu a Gwestai |
|
Metelau, mwynau a chemegau |
|
Gweithgynhyrchu arall |
|
Cludiant a Chysylltiadau |
|
Gwasanaethau Ariannol a Busnes |
|
Amaethyddiaeth |
|
Peirianneg |
|
Mwyngloddio a'r prif wasanaethau |
Ffynhonnell: Strategaethau Busnes Sgiliau'r Dyfodol yng Nghymru, 2000
Sectorau Allweddol
Mae cyfran uwch o rai diwydiannau yn Ne-ddwyrain Cymru nag yn unman arall yng Nghymru. Dydi hyn ddim yn golygu eu bod nhw o anghenrhaid yn cyflogi mwy o bobl, ond mae gan y De-ddwyrain fwy na'i si芒r o'r sectorau yma o'i gymharu 芒 gweddill Cymru
1. Gwasanaethau Ariannol a Busnes 'Arall', e.e. prynu a gwerthu eiddo a gweithgaredd sy'n gysylltiedig 芒 chyfrifiaduron
2. Cynhyrchu pren a nwyddau pren
3. Gweithgynhyrchu arall, e.e. ailgylchu, cynhyrchu dodrefn.
4. Offer trydanol ac optegol, e.e. cynhyrchu cyfrifiaduron a chyfarpar llawfeddygol
5. Gwasanaethau eraill (preifat yn bennaf), e.e. gweithgareddau celfyddydol ac ym myd adloniant
6. Bancio ac yswiriant
7. Peiriannau ac offer, e.e. cynhyrchu peiriannau ar gyfer prosesau gweithgynhyrchu
8. Papur, argraffu a chyhoeddi, e.e. cyhoeddi papurau newydd, llyfrau a cherddoriaeth
9. Gwasanaethau Busnes, e.e. cyfrifwyr neu ymchwil i'r farchnad
10. Cysylltiadau, e.e. telegyfathrebu
Ffynhonnell: Yn deillio o Strategaethau Busnes Sgiliau'r Dyfodol yng Nghymru, 2000
Rhagolygon Pum Mlynedd
Dyma'r diwydiannau sy'n debyg o dyfu o ran nifer swyddi dros y 5 mlynedd nesaf:
1. Gwasanaethau 'Eraill' (cyhoeddus yn bennaf)
Rhagwelir 10,000 o swyddi newydd. Bydd cynnydd yn y swyddi yma yn bennaf wrth i fwy o bobl gael eu cyflogi ym maes iechyd cyhoeddus a byd addysg.
2. Gweithgynhyrchu 'Arall'
Rhagwelir 2,500 o swyddi newydd. Mae traddodiad cryf o weithgynhyrchu yn Ne-ddwyrain Cymru. Mae'r sector yma'n cynnwys diwydiannau fel ailgylchu sy'n tyfu oherwydd pryder pobl ynglyn 芒 gwaredu gwastraff a'r amgylchedd. Mae'r sector hefyd yn cynnwys nwyddau mor amrywiol 芒 dodrefn swyddfa, tegannau, nwyddau chwaraeon a gemwaith.
3. Gwasanaethau Ariannol a Busnes
Rhagwelir 1,400 o swyddi newydd. De-ddwyrain Cymru ydy'r ardal gryfaf yng Nghymru o safbwynt gwasanaethau ariannol a busnes o bell fordd. Mae'n cynnwys bancio, yswiriant a gwerthu eiddo.
4. Peirianneg
Rhagwelir 1,000 o swyddi newydd. Mae hyn yn cynnwys cynhyrchu peiriannau sy'n cael eu defnyddio ym mhrosesau cynhyrchu cwmn茂au eraill. Ymhlith yr eitemau a gynhyrchir mae offer trydanol ac optegol fel offer cyfathrebu, offer meddygol a pheiriannau optegol manwl-gywir.
Ffynhonnell: Strategaethau Busnes Sgiliau'r Dyfodol yng Nghymru, 2000
Cofiwch, bydd llawer o swyddi eraill yn cael eu creu yn y sectorau yma a'r rhan fwyaf o'r sectorau eraill wrth i bobl ymddeol a newid swyddi.
|