大象传媒


Explore the 大象传媒

MAWRTH
18fed Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Tramor

A-Y | Chwilota
Y Diweddaraf



Chwaraeon

Y Tywydd

Radio Cymru yn fyw
Safleoedd



大象传媒 Homepage

Cymru'r Byd
» Tramor
Gogledd a Chanol America
De America
Ewrop
Affrica
Dwyrain Canol
Asia
Awstralasia a'r M么r Tawel

Gwnewch

Amserlen teledu

Amserlen radio

E-gardiau

Arolwg 2001

Gwybodaeth

Ymateb


Iwerddon Prisiau tai yn dychryn y Gwyddelod
Diarmuid Johnson yn sgrifennu o Galway

Dydd Mawrth, Gorffennaf 4, 2000

Mae'n argyfwng tai yn Iwerddon.

Ers 1998 mae cyfartaledd y prisiau wedi codi £40,000, sef 25% y flwyddyn - o tua £90,000 i dros £175,000 yn Nulyn ac o tua £90,000 i rhyw £130,000 yn Galway, Corc a Limeric.

Un ochr i'r argyfwng yw'r prisiau uchel.
Prinder yw'r llall.


Erbyn hyn mae 45,000 o bobl ar restrau aros yr awdurdodau lleol. Bydd angen 54,000 ty bob blwyddyn tan 2005.

Ceisio rheoli pethau

Yn sgîl y datblygiadau difrifol hyn, mae cyd-lywodraeth Fianna Fail a'r Progressive Democrats newydd gyhoeddi 'Action on Housing', dogfen i geisio rheoli'r sefyllfa.

Mae 'Action on Housing' wedi'i seilio i raddau helaeth ar drydydd adroddiad am y farchnad dai a gomisiynwyd gan y llywodraeth gan arbenigwr, y Dr Peter Bacon.

Prif nod y llywodraeth ers tro yw ei gwneud yn haws i'r sawl sy'n prynu ty am y tro cyntaf.
I'r perwyl hwn mae 'Action on Housing' yn dileu treth stamp ar dai gwerth hyd at £150,000.

Datblygwyr yn farus

Ond gwreiddyn y drwg yw ariangarwch y datblygwyr, yr adeiladwyr a'r buddsoddwyr preifat.


O'r herwydd, gosodwyd ar eiddo'r buddsoddwr, dreth o 2% y flwyddyn o werth pob ty neu fflat a hynny am dair blynedd.

Bu datblygwyr yn prynu tir ac yn aros i'r farchnad wella cyn bwrw 'mlaen â'r gwaith adeiladu. Bydd hyn yn cael ei gosbi: £3,000 y flwyddyn am bob safle ty. Yn ogystal, mae treth stamp o 9% yn cael ei godi oddi wrth fuddsoddwyr sy'n prynu tai i'w gosod neu i'w hailwerthu.

Ar ben hyn oll mae'r Strategic Development Zones (SDZ), sef tiroedd ar gyrion y trefi ar gyfer adeiladu. Y llywodraeth fydd yn penderfynu pa diroedd a ddewisir. Mae hyn yn ehangu grym Dail Eireann yn gymdeithasol achos hyd yn hyn dim ond tir diwydiannol a ystyriwyd yn SDZ.

Argyfwng arbennig pobol sy'n talu rhent

Mae'r gwrthbleidiau yn amau a fydd 'Action on Housing' yn dal yr hwch.

Mae'r Blaid Lafur eisiau cenedlaetholi'r busnes codi tai. Dywed Fine Gael fod y peth yn dod i'r berw ers tro ond i'r llywodraeth naill ai ei anwybyddu neu fethu a'i ddirnad.

Er mai peth cymharol ddiweddar yw'r prisiau uchel hyn bu'r farchnad rentu a llety yn draed moch ers ugain mlynedd.


Talu'n ddrud am lety gwael yw rhan y sawl sydd heb yr arian i gael eu haelwyd eu hunain.

Mae pobl sy'n rhentu yn aflonyddu - a phleidleisio yn erbyn y llywodraeth a wnaiff llawer ohonyn nhw os na ddaw haul ar fryn yn fuan.




ewrop

Iwerddon
Cyhuddiad o dwyll ac ystryw yn Iwerddon

Cyhuddiad o dwyll ac ystryw yn Iwerddon

Diffodd fflamau'r Sipsiwn

Blagur gwyrddion ar y lleiniau newydd

Gêm y Gwyddyl

Harddwch a hanes yn cael ei guddio gan dristwch

Adlais o'r hen drefn Saesnig yn Iwerddon

Gaeleg ar y teli

Prisiau tai yn dychryn y Gwyddelod




About the 大象传媒 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy