大象传媒


Explore the 大象传媒

MAWRTH
18fed Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Tramor

A-Y | Chwilota
Y Diweddaraf



Chwaraeon

Y Tywydd

Radio Cymru yn fyw
Safleoedd



大象传媒 Homepage

Cymru'r Byd
» Tramor
Gogledd a Chanol America
De America
Ewrop
Affrica
Dwyrain Canol
Asia
Awstralasia a'r M么r Tawel

Gwnewch

Amserlen teledu

Amserlen radio

E-gardiau

Arolwg 2001

Gwybodaeth

Ymateb


Hywel Gwynfryn Harddwch a hanes yn cael ei guddio gan dristwch
Neidiodd Hywel Gwynfryn ar ei feic a mynd i weld y byd ar gyfer cyfres deledu

Ebrill 2002


Rhaglen 4 - Iwerddon

Hen wlad sy'n gyfoeth o harddwch a hanes, prifddinas lewyrchus, gosmopolitan, pobol gyfeillgar sy'n croesawu ymwelwyr â brwdfrydedd...

Nid dyma'r darlun arferol o Ogledd Iwerddon, sy'n amlach na pheidio yn sbarduno delweddau tywyll o rwystredigaeth, trais a thristwch.

Ond dyma'r Iwerddon y bydd Hywel Gwynfryn yn ei chanfod yn Ar Dy Feic (dydd Sul, Ebrill 6)


Tafarndai a bariau

Bydd Hywel yn cyfarfod amrywiol Gymry sydd yn ymgartrefu yng Ngogledd Iwerddon ac yn mwynhau rhai o olygfeydd godidocaf y wlad, wrth deithio arfordir Swydd Antrim a darganfod rhinweddau dinas Belfast.

"Ddeng mlynedd yn ôl, doedd pobol ddim yn cael bod allan ar y stryd ym Melfast wedi chwech y nos," meddai Gwenan Pennant Thomas, cynhyrchydd y rhaglen.

"Ond nawr mae popeth yn agored yn hwyr, mae yna dafarndai a bariau ac mae yna awyrgylch soffistigedig a chosmopolitan. Mae'n lle bendigedig."



seiclo

Athrawes gymuned

Bydd Hywel yn cyfarfod ac Ann Tyler, sy'n wreiddiol o Benrhyndeudraeth. Wedi cyfarfod ei gwr o Wyddel yn y coleg yn Abertawe, symudodd i Iwerddon lle mae ganddyn nhw'n awr dri o blant.

Bydd hefyd yn cyfarfod Angela O'Kaine, yn wreiddiol o Grey Abbey, Gogledd Iwerddon, a fu yn y Brifysgol yn Aberystwyth lle y dysgodd siarad Cymraeg.

Mae'n awr yn magu dau o blant, ac yn athrawes yn y gymuned yn ardal babyddol y Falls, Belfast.

Hanes y dociau

Mae Iwan Morris, sy'n wreiddiol o Aberystwyth, yn ddarlithydd anthropoleg ym Mhrifygol Queens, Belfast.

Mae ganddo ddiddordeb yn hanes datblygiad dociau Belfast, a'r ddinas, a'r ffordd mae petha'n newid, ers y cytundeb heddwch.

Ar Dy Feic, dydd Sul, Ebrill 6, 大象传媒 Cymru ar S4C, 20.30


-

-




ewrop

Iwerddon
Cyhuddiad o dwyll ac ystryw yn Iwerddon

Cyhuddiad o dwyll ac ystryw yn Iwerddon

Diffodd fflamau'r Sipsiwn

Blagur gwyrddion ar y lleiniau newydd

Gêm y Gwyddyl

Harddwch a hanes yn cael ei guddio gan dristwch

Adlais o'r hen drefn Saesnig yn Iwerddon

Gaeleg ar y teli

Prisiau tai yn dychryn y Gwyddelod




About the 大象传媒 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy