大象传媒


Explore the 大象传媒

MAWRTH
18fed Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Tramor

A-Y | Chwilota
Y Diweddaraf



Chwaraeon

Y Tywydd

Radio Cymru yn fyw
Safleoedd



大象传媒 Homepage

Cymru'r Byd
» Tramor
Gogledd a Chanol America
De America
Ewrop
Affrica
Dwyrain Canol
Asia
Awstralasia a'r M么r Tawel

Gwnewch

Amserlen teledu

Amserlen radio

E-gardiau

Arolwg 2001

Gwybodaeth

Ymateb


Dulyn Blagur gwyrddion ar y lleiniau newydd
Tim Saunders ar ymweliad ag Iwerddon

Dydd Sul, Hydref 8, 2000

"Fe wyddwn ar unwaith taw rhai o Gymru oeddech chi," medd y weinyddes ford, "fe wnaethom ni Tan y Wenallt yn yr ysgol."

I bwy o drigolion Llaregub ydym ni'n dau'n debyg, ys gwn i? Ond chawn ni ddim amser i holi rhagor, gan ei bod hi'n noson ofnadwy o brysur yn nhy bwyta Manifesto, yma ym maestrefi deheuol Dulyn.

Mae'r bwyd yn flasus ac yn helaeth, y gwasanaeth yn gyflym a'r lle dan ei sang â'r gymysgedd ryfeddaf o frodorion ac ymwelwyr.

Ydyw, y mae Iwerddon wedi newid ers imi ddechrau dod yma yn fyfyriwr.

A hynny er gwell yn ogystal ag er gwaeth.

Am y tro cyntaf mewn canrifoedd, mae mwy o bobl yn dod yma sy'n ymadael, ac mae rhagfarn lliw yn dechrau goddiweddid yr atgasedd traddodiadol rhwng gwahanol garfannau o Gristnogion croenwyn.

Ar y llaw arall, mae'r twf yn yr economi yn gadael miloedd ar filoedd o swyddi heb eu llenwi, ac Obair - gwasanaeth cyflogi Iwerddon - yn gorfod cynnal ffeiriau cyflogi mor bell i ffwrdd â Berlin.

(Trueni i'r Aelod Ewropeaidd lleol fod yn rhy brysur i aros yn yr un a fu yng Nghaergybi!)

Mae'r brodorion bellach yn colli diddordeb yn swyddi caib a rhaw eu tadau mewn gwledydd tramor lai na chenhedlaeth yn ôl ac aeth prisiau tai yn benwan - Pe digwyddai'r un peth yng Nghymru byddai ty trillawr fel y rhai rhwng Heol y Gadeirlan a Gerddi Soffia yng Nghaerdd yn costio tua £1,500,000.

Ac mae'r papurau a'r cyfryngau yn becso'u heneidiau fod tlodi plant yn mynd yn rhemp.

"Os pery'r dirywiad fel hyn," medd yr Irish Times, "ni fydd unlle gwaeth yn yr Undeb Ewropeaidd na'r Eidal a Phrydain."

Ac eto, fe bery llawer o bethau heb newid
Cartref Oscar Wilde yn Sgwâr Muirfean, yn syml ond yn urddasol
- tawelwch yr Ardd Goffa, lle coffeir Gwrthryfel y Pasg gan gerflun hudol o Blant Llyr yn troi'n fodau dynol drachefn wedi canrifoedd fel elyrch
- penllanw swn sgwrsio yng Nghaffi Bewley
- cadeirlan y tai bwyta lle mae ffenestri lliw yn gwneud cymryd dishgled a chacen yn gymun bendigedig
- bwrlwm y Ceiau gyda'r cyfnos a'r torfeydd yn byrlymu heibio ar drywydd difyrrwch
- cryts bach hynod hyderus yn canu nerth eu pennau am sylltau yn Stryd Grafton
- prysurdeb Prif Swyddfa'r Post yn gefndir perffaith i'r lluniau o Wrthryfel y Pasg
- nendwr yr Undeb Trafnidiaeth yn teyrnasu dros ganol y ddinas
- bedd Jonathan Swift yn Eglwys Gadeiriol Padrig (mewn sawl gwlad arall a fynnai'r Deon gael ei gladdu ar bwys ei wejen?)
- cyfeillgarwch y siopau a'r tafarnau bychain ar ochr ogleddol Afon Life . . .

Mae llawer o'r bobl mewn swyddi cyfrifol bellach wedi'u geni oddi ar i mi ddechrau dod yma ac eto'r un yw'r dorf sy'n llifo i lawr Stryd Conaill a thros y bont.

Y bobol yn ifanc

Ac eto, nid yr un: aeth poblogaeth Iwerddon yn llawer iau, gyda'r cnedlaethau a fyddai wedi ymfudo yn aros gartref i fagu'u teuluoedd.

Denodd safonau addysg uchel pob math o ddiwydiannau technegol gywrain, gan adael Iwerddon ymhlith allforwyr meddalwedd mwyaf llewyrchus y byd.

A lle byddai'r esgobion Pabyddol wedi cael y gair olaf ar gynigion polisi unrhyw lywodraeth, dal i gynyddu mae'r ymosodiadau ar Eglwys Rufain yn y wasg ac ymhob cwr o'r gymdeithas.

Clywn bregethwyr stryd cyhyrog a wnâi i Iain Richard Kyle Paisley edrych fel crwt allor, a phob un yn llefaru ag acen ddigamsyniol y ddinas.

Bydd y Prif Weinidog yn ymddangos yn gyhoeddus gyda boneddiges y cyfeirir ati fel y Brif Wejen.
A lle gynt y byddai punt Iwerddon ynghlwm wrth bunt y gymdoges fawr, mae pob dim wedi'i brisio bellach yn yr ewro yn ogystal, a phobl fusnes Iwerddon yn gwibio draw i Frwsel fel Tomos a Marged yn mynd am drip i Abertawe.

Awn i gwrdd â'm hen gyfaill Micheál Mac Aonghusa yng Ngwesty Wynne, yn Stryd yr Abaty. Warden traffig oedd Micheál pan gwrddais i ag e gynta, gryn chwarter canrif yn ôl, a dyma fe bellach yn gweithio i History Ireland cyfnodolyn bywiog ac ysgolheigaidd sy'n peri i Cylchgrawn Hanes Cymru ymddangos fel Wil Cwac Cwac ar ôl noson drom o yfed.

Yn frodor o Ddulyn, bu Micheál yn newyddiadurwr (yn olygydd papur Sul am sbel!), yn cyfieithu dogfennau i'r Amgueddfa Genedlaethol, yn dysgu siarad Cymraeg yn rhugl a chyhoeddi ambell i lyfr hefyd.

Bwrlwm o atgofion

Cyn pen dim o amser, mae'r ford fach gron o'n blaen yn llenwi â bwyd, peintiau, a bwrlwm o atgofion.

- Wyt ti'n cofio'r tro 'na yn Rath Cairn?
- Beth ddigwyddodd i'r snichyn bach 'na oedd yn meddwl taw fe oedd pennaeth Byddin Weriniaethol Cymru?
- Ydy'r cwrw yn Aberystwyth wedi gwella?-
- Ydy'r cymeriad rhyfedd 'na o Sir Gaerfyrddin yn dal i farddoni? ...

Lleu deuai Michael Collins

Clywn hefyd am anturiaethau cwsmer arall Gwesty Wynne, Michael Collins. I'r union dafarn yma y deuai'r Cadfridog Collins am ei swper pan oedd dwsinau o ysbïwyr, cannoedd o blismyn a miloedd o filwyr ar ei drywydd.

Dipyn o dderyn am y menywod, hefyd, yn ôl pob sôn.

Cyn troi am adre, mae Micheál yn llithro yn ôl i'r Wyddeleg wrth gynnig deoch an dorais.

Daw tras Albanaidd Ceri i'r amlwg wrth i wên gynnes ymledu dros ei hwyneb. Tybed a allai'r ymadrodd 'diod y drws' ennill ei blwyf yn y Frythonaeg?

Yn llyfrgell y Drindod

Ac roedd hi'n anochel llithro i mewn i Lyfrgell Coleg y Drindod, a cherdded yn hamddenol drwy'r orielau tywyll i weld Llyfr Ceannanus.

Mae Ceri'n ei gweld yn drueni nad yw'r hen lyfrgell ysblennydd yn cael ei defnyddio gymaint fel llyfrgell weithredol ragor a rhaid addef ei bod yn chwithig gweld y myfyrwyr yn gorfod cadw draw i'r Ffilistia goncrid yr ochr draw i'r bedrongl.

Ond mae'r lluniau o'r Efengylwyr, o'r Iesu a'i fam, ac o'r creaduriaid rhyfeddol i gyd, mor hudol ag erioed.

Mewn oriel arall, mae Proclamasiwn y Weriniaeth yn gorwedd mewn câs gwydr, un o'r ychydig i oroesi tanau'r Pasg.

Tu allan, mae myfyrwyr hanes y Coleg yn tywys ymwelwyr ar hyd lwybrau atgof, lle bu enwogion Dulyn yn caru, yn canu, yn gweithio ac yn gweithredu.

Mae eraill yn perfformio detholion o glasuron llên Iwerddon, er mawr ddifyrwch i'r ymwelwyr.

Allan gyda geiriadurwr

Allan â ni un noson gyda Terry Dolan i fynd drwy gyrion y ddinas, a'r bryniau sy'n ei hamgylchynu.
Saesneg Canol yw pwnc Terry ac mae wedi paratoi geiriadur Saesneg Iwerddon gyda chymorth ei fyfyrwyr yng Ngholeg y Brifysgol, Dulyn.

Mae'r geiriadur yn llawn dywediadau ffraeth a dyfyniadau difyr - yn union fel sgwrs Terry, erbyn meddwl.

Gwelwn y bryniau lle bu'r rhyfelwyr cudd yn ymarfer yn ystod y Saithdegau, y fynwent fach gudd mewn hen chwarel lle claddwyd peilotiaid o'r Almaen, ac adfeilion mynachlog Gleann Dá Loch, lle'r oedd Sant Cefin yn byw ac yn gweddïo.

(Yn ôl y sôn er cymaint ei sancteiddrwydd nid gwr bonheddig mo'r hen Gefin o bell ffordd).

Ymlaen wedyn am chwisgi twym yn un o hoff westyau W. B. Yeats, ac yna heibio i'r glyn diarffordd lle mae'r bardd, Thomas Kinsella, yn byw.

Daeth dwr yr afon fach i lawr drwy haenau ar ben haenau o fawn ac wrth iddi ewynnu dros fin y cwm fe allai rhywun dyngu taw gwin y gwan oedd yn disgyn o'r rhaeadr yma.

Wrth inni deithio ymlaen drwy'r wlad dawel hon, bydd rhywun yn gobeithio taw ffrwyth dychymyg yw storïau Terry ond yn ofni nad ydynt.

Tybed a yw myfyriwr enwocaf Coleg Beiblaidd y Barri, Iain Paisley, wedi clywed straeon Terry am Pius XII?

Arhoswn am ychydig ar fryn uwchben y ddinas, a'i gweld yn ymestyn yn esmwyth drwy'r tywyllwch. Gallem yn rhwydd ymestyn a'i chofleidio.

Cymaint wedi digwydd yma, cymaint i ddigwydd eto.


Lawr y strydoedd cefn

Mae Ceri wedi dod â llyfr rhagorol am lenorion Dulyn, eu cartrefi, eu gweithfeydd, a'r tafarnau y buont yn eu mynychu.

Dyma ni felly yn sleifio i lawr strydoedd cefn i weld y ty helaeth lle treuliodd James Joyce ei flynyddoedd cynnar, y bwthyn lle cafodd Bram Stoker ei hunllefau cyntaf am Dracula, y dafarn lle cyfansoddodd James Clarence Mangan ei gerddi, a'r swyddfa undeb lle peintiodd Brendan Behan yr arwydd.

Cawn brynhawn bach hyfryd yn Amgueddfa Llenorion Dulyn, lle gwelwn lythyron y Deon Swift, llawysgrifau Padraig Mac Piarais - 'Areithiwr', ag arfer ei enw yng Ngorsedd - yr unig aelod erioed i'w saethu am wrthryfela - a'r teipiadur a daflodd Brendan Behan drwy ffenestr tafarn er mwyn ategu dadl unwaith.

Lle i feithrin awen

Lle gwych yw Dulyn i feithrin yr awen, medd llawer. Ond mae gofyn i rywun ffoi pan ddaw'n amser dodi pin ar bapur, rhag ofn siarad yr holl gyfrol allan mewn chwe mis.

A mynd fydd raid inni, er bod y siopau cacenni a'r tai bwyta, y tafarnau Gwyddeleg a'r siopau llyfrau ail law yn gweiddi, bob un, am un ymweliad bach arall.

Bydd brecwastau mawreddog ein llety, lle darganfuom ni fod gwraig y t yn briod â Meistr yr harbwr, yn sicr o adael bwlch mawr ar eu hôl.

Erys gwyrddni anghymen mynwent Glas Naoáin yn y cof am byth. Fe gladdwyd yno feirdd a gwleidyddion, a milwyr a fu farw ar wahanol ochrau, ac eto nid oes neb wedi sgriblan graffiti ar y cerrig beddau.

Eangderau diddiwedd Parc Fionn Uisce wedyn, lle gall rhywun yn rhwydd fynd ar goll rhwng y cofebau a'r coedydd a'r caffis bach a'r adeiladau swyddogol.

Bwrlwm y ganolfan ddarlledu i lawr yn Domhnach Broc, a'r profiad swrealaidd o gerdded drwy set allanol Fair City, rhyw ferswin Wyddelig o Pobol y Cwm neu Nuts and Bolts, clytiau o Ogledd gwerinol y ddinas wedi'u gwnïo at ei gilydd ymhlith maestrefi deiliog y De.

Swper i lawr yn Bré gyda'n hen gyfaill, Barry Tobin, a'r difyrrwch a gawn yn ystafell gefn y dafarn yno lle mae'i ffrindiau yn ymarfer eu cyfoeth o alawon Gwyddelig hen a newydd.

Wrth ymadael ag Iwerddon, edrychwn i lawr ar y ddinas yn ei dyffryn eang, ar y clytwaith o gaeau poenus o wyrdd, ar fryniau Garw Loch Garman a gadwai'r Normaniaid draw am ganrifoedd.

Codwn yn uwch ac yn uwch, a gadael tir a môr fel rhywbeth i'w godi yn y llaw.

Er y gwelwn yr hyn y gorfodwyd yr hen seintiau Celtaidd i'w ddychmygu ni chredaf ein bod yn gweld yn well nac ymhellach na nhw.




ewrop

Iwerddon
Cyhuddiad o dwyll ac ystryw yn Iwerddon

Cyhuddiad o dwyll ac ystryw yn Iwerddon

Diffodd fflamau'r Sipsiwn

Blagur gwyrddion ar y lleiniau newydd

Gêm y Gwyddyl

Harddwch a hanes yn cael ei guddio gan dristwch

Adlais o'r hen drefn Saesnig yn Iwerddon

Gaeleg ar y teli

Prisiau tai yn dychryn y Gwyddelod




About the 大象传媒 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy