|
|
Adlais o'r hen drefn Saesnig yn Iwerddon
Ond gydag acen Ffrengig heddiw! Dydd Mercher, Mehefin 21, 2000
|
gan Diarmuid Johnson o Galway Tref llawn cyffro a chyfoeth yw Galway yng ngorllewin Iwerddon - Gaillimh yn yr Wyddeleg. Mae ar lannau Bae Galway ac Afon Corrib. Ond mae peth o gyfoeth y dref yn dal i berthyn i'r Sais gydag ambell un o siopwyr Shop Street yn talu rhent i'r hen feistr, 80 mlynedd wedi i'r wladwriaeth gael ei sefydlu . . . Un ohonyn nhw ydi Michael Mullins. Thimble Castle yw enw'r adeilad lle mae ei deulu yn byw ac yn gweithio ers pedair cenhedlaeth . . . Ganol y ddeunawfed ganrif, prynodd dyn o'r enw Davies rhyw ugain adeilad yn nhref Galway. Fe'u trosglwyddwyd i John Norman Davies ar ôl iddo ef farw. Erbyn heddiw mae rhan o'r etifeddiaeth yn perthyn i Isabelle Davies, Saesnes sy'n byw y Mharis. Hi piau Thimble Castle ac iddi hi y mae Michael Mullins yn talu rhent. Ond nad yw wedi talu'r un geiniog ers dros ddeng mlynedd. Cafodd ei dwyllo, meddai, gan gyfreithwyr y Davies's - Gwyddelod - ac erbyn hyn mae arno £50,000 i frenhines Thimble Castle. Yn ystod yr wythdegau y cododd y cawl i'r berw. Ers dechrau'r ganrif, talai Mullins rent llawr - ground rent - o £19 y flwyddyn. Wedyn: "Cafodd fy nhad rybudd i adael yn 1980" meddai Michael Mullins. Dyma pryd, meddai, y cafodd ei gam-gynghori gan y cyfreithiwr i arwyddo prydles 35 mlynedd yn hytrach na phrynu'r rhent llawr am ddim ond rhai cannoedd o bunnau a dod yn berchennog ar yr adeilad. Yn fuan wedi 1986, gwrthododd Mullins dalu rhagor, a chychwyn achos esgeulustod yn erbyn ei gyfreithiwr o gwmni Brophy and Sands, Galway. Y mis hwn, ymhen hir a hwyr, y setliwyd yr achos allan o lys pan gynigiwyd £75,000 i Mullins, a chostau, i'w ddigolledi. Nid Michael Mullins yw'r unig un o siopwyr Galway a fu'n denantiaid i'r teulu Davies ddiwedd yr ugeinfed ganrif. Yn Shop Street, hefyd, dywedir fod tafarn Garavans yn enghraifft arall. Felly Heretich y cigydd ond iddo ef brynu'r rhent llawr. Eleni, pan ddaeth y brydles i ben ar siop ddillad Cahills, cynigiodd Cahills £75,000 i'r Daviesiaid am yr eiddo. Er iddynt dalu rhent yn ddiffael ers 1908, mynnodd Isabelle Davies bris y farchnad: £200,000. Un agwedd ar etifeddiaeth grym Prydain Fawr yn Iwerddon yw hanes Michael Mullins a'i gydsiopwyr. Ym marn rhai, mae'n gywilyddus fod cyfansoddiad gweriniaeth Iwerddon yn caniatau parhad y grym hwnnw. Ar y llaw arall, diwedd y gân yw'r geiniog. "Mae gan Michael Mullins fusnes llewyrchus mewn stryd brysur mewn tref sy'n ffynnu" meddai Isabelle Davies o'i chartref ger Paris pan holwyd hi, nid yn yr iaith fain, ond mewn Ffrangeg.
|
|