|
|
Guadeloupe - gan Gwenan
Iguanans, ceiliogod a chroeso ym mjaradwys - Gwenan Owen yn sgrifennu am ymweliad Hywel
|
Mae'n bnawn Mercher crasboeth yng nghanol mis Rhagfyr ac 'rwy ar fy ffordd i Faes Awyr Pôle Caraibes i gwrdd â chriw Ar dy Feic.
Mae'r awyren yn hwyr ac rydw innau ar binnau braidd; ond yn y man gwelaf bedwar troli gorlawn yn ymlwybro tuag atai, a'r tu ôl iddynt bedwar wyneb blinedig a diflas.
Mae fy nghalon yn suddo ! O diar beth wna i efo rhain?!
'Roeddwn yn edrych ymlaen at rannu fy mhrofiadau o fyw ar ynys Guadeloupe - pili-pala paradwysaidd yng nghanol y Caribî - ond am eilaid rwy'n cael traed oer!
Does dim achos i boeni. Mae'r daith wedi bod yn un hir, mae'r criw wedi bod yn ffilmio yn China a'r Weriniaeth Ddominicaidd yn ystod y chwe wythnos ddiwethaf ac wedi llwyr ymlâdd.
Gwaith blinedig iawn ydy jetsetio o gwmpas y byd yn ffilmio cyfres Ar dy Feic!
Mewn hamoc Eu profiad cyntaf o'r ynys hardd hon yw siop fferyllydd y maes awyr gan fod Llinos, y gynhyrchwraig, wedi cyrraedd efo'r "dreaded lurgy". '
Rwy'n amau y byddai diwrnod o orffwys mewn hamoc yng nhysgod coed coco wedi bod cystal ag unrhyw feddyginiaeth, ond does dim amser i ddiogi - mae'r amserlen yn dynn!
Gyda chriw Ar dy Feic mae'r gêr yn uchel a'r olwynion yn troi o fore tan nos ac ar ddiwedd wythnos yn eu cwmni rwy'n llawn edmygedd o'u doniau, eu hymroddiad a'u proffesiynoldeb.
Mae'n waith caled ond rwy'n mwynhau pob munud (bron!) o'r profiad ac ar ben hynny yn cael HWYL! Doedd dim angen gofidio!
Rheoli awyrennau Rwy'n byw yn Guadeloupe gyda Jacques fy ngwr a'n meibion, Ioan a Lanig, ers dros dair blynedd bellach.
Daethom yma yn sgil gwaith Jacques sy'n reolwr awyrennau i wasanaeth sifil Ffrainc.
Fel DOM (Département Outre Mer) mae Guadeloupe yn rhan o Ffrainc ac felly, wrth gwrs, o'r Gymuned Ewropeaidd.
Ffrainc sy'n gyfrifol am ddarparu nifer o wasanaethau gwahanol yma ac mae'r arwyddion ffordd, y gendarmes, yr iaith a'r baguettes i gyd yn dystion amlwg, os annisgwyl, o'i dylanwad ar yr ynys.
Ond rhan o'r ddelwedd yn unig yw presenoldeb Ffrainc. Plêth o ddiwylliannau gwahanol sydd ar yr ynys fechan hon.
Mae dylanwadau gwleddydd cyfandiroedd yr Affrica a'r India yn gryf yma ac yn hannu o gyfnod caethwasiaeth.
Ymhellach yn ôl yr Amerindiaid oedd brodorion yr ynys.
Mae'r awydd i ddarganfod y diwylliannau yma yn gryf gan fod gwahaniaethau sydd wastad yn denu fy sylw. Ond mae weithiau'n anodd i berson croen golau - person "dros dro" fel petai - dreiddio i'r wir gymdeithas yma.
Trwy lwc, 'rwy'n nabod José Bianay, brodor o'r ynys sy'n gwneud yr un gwaith â fy ngwr.
Yn sgil fy ngwaith fel hyfforddwraig Saesneg i reolwyr awyrennau y daethum i adnabod José a darganfod ei ymroddiad i'r iaith Créole a thraddodiadau eraill yr ynys.
Gyda chefndir Cymraeg mae'n hawdd uniaethu ag ymdrechion José a'i debyg i gadw ysbryd y diwylliant gynhenid yn fyw.
Plygain Caribiaidd Ar wahoddiad José y cawsom ein hunain yn gyrru ar hyd la Route de le Traversée, yn nghanol glaw trwm trofannol, i ymuno â noson Chanténoel yn Pointe Noire. Rhyw fath o Blygain Caribiaidd yw Chanténoel.
Heno mae aelodau Kanbe Doubout, y gymdeithas Chanténoel mae José'n perthyn iddi, yn cyfarfod yng nghartref Vivienne, un o'r aelodau, i ganu.
Braint yw cael gwahoddiad i ymuno â nhw.
O bell mae curiad y drymiau i'w glywed a chyn hir 'rydym yn croesi'r trothwy i groeso cynnes Vivienne. Mae gwledd o noson yn ein disgwyl ym mhob ystyr o'r gair - awyrgylch llon sy'n cynnwys pob cenhedlaeth o'r gymdeithas, dillad lliwgar, chwerthin braf, canu, dawnsio, yfed a bwyta.
Ond y rhannu a'r cyfnewid sy'n gadael argraff arnom ac yng nghanol y miri Caribiaidd mae'n teimlo'n hollol addas i mi a Hywel ganu carol Cymraeg i gyfeiliant rythmig offerynnau traddodiadol yr Affrig - swreal efallai ond arwydd o'n gwerthfawrogiad o noson mor arbennig.
Cwch hwylio Y bore wedyn, gyda churiad y drymiau yn parhau yn ein clustiau, 'rydym ar ein ffordd i ynysoedd Les Saintes i ymuno â ffrindiau sydd newydd brynu cwch hwylio.
Mae Jacques yn neidio ar unrhyw gyfle i hwylio, ond tydwi ddim yn teimlo'r un brwdfrydedd o ran Hywel sy'n dawel iawn - diffyg cwsg efallai!
O dipyn i beth 'rwy'n sylweddoli nad yw Hywel yn hoffi'r dwr heb sôn am hwylio! Yn ddewr iawn ac yn hollo ddi-gwyn, mae'n gwisgo'i siaced achub ac yn neidio'n bestrusgar o'r harbwr i'r gwch.
Cyn pen dim mae harddwch arbennig hyfryd Les Saintes, rhan o archipelago Guadeloupe, yn ei hudo i anghofio ei bryderon. Amhosib er hynny yw ei argyhoeddi i neidio ar ôl Jacques i ddŵr gwyrddlas tryloyw y bae i nofio gyda'r pysgod lliwgar trofannol sy'n byw yno.
Gwenu i'r camera Mae cwrdd â'r iguanas lleol ar dir sych caer Fort Napoléon yn apelio mwy! Mae'r iguanans yn ddigon parod i wenu i'r camera ond mater arall yw rhannu'r safle efo'r gelyn!
Rhaid chwilio am rywle arall i wneud y cyfweliad sy'n rhan allweddol o'r raglen.
Mae safle godidog Les Petits Saints ar gael inni; cawsom bryd o fwyd blasus a hwyliog yno neithwr ond bore 'ma mae'r cymdogion cyferbyn wedi penderfynu rhannu eu casgliad Zouk (cerddoriaeth gyfoes Caribiaidd) gyda gweddill y stryd.
Nid yw Dafydd y dyn sain yn rhy hapus!
Panics! Mae amser yn brin, mae'r haul ar ei anterth, ac ar ben hynny mae'n ddiwrnod refferendwm i benderfynu dyfodol statws Guadeloupe.
Trwy lwc mae Tonton Fernand yn achub y dydd!
Un sy'n hannu o'r ynys yw Tonton Fernand; yn ddiweddar buom ni fel teulu yn aros yn un o'r byngalows bach mae'n llogi yn agos i draeth Grande Anse.
Rydym yn dod ar ei draws trwy hap a damwain. Mae ar ei ffordd i bleidleisio, ond rwy'n mentro gofyn iddo a oes modd defnyddio ei ardd flodeugar ar gyfer y cyfweliad.
Mae ei ymateb yn nodweddiadol o groeso cynnes brodorion Guadeloupe... mae'n troi yn ôl ar ei union ac yn gwbwl ddi-ffwdan yn agor ei gartref inni.
Mae brywdro yn erbyn canu achlysurol ceiliogod dipyn yn haws na dileu rhythm undonog y zouk i Dafydd!
Paradwysaidd Ar ddiwedd diwrnod llawn mae pawb wedi ymlâdd ac mae rhyddhad mawr ar wyneb Nigel y dyn camera wrth iddo osod ei offer trwm i lawr ar fwrdd cwch cwmni Brudey sy'n ein tywys yn ôl i brif ynys Guadeloupe.
Tawelwch wrth i bawb werthfawrogi tirwedd paradwysaidd ynysoedd Les Saintes sy'n diflannu o'r gorwel a dilyn cerfwedd afordir Basse Terre a'r llosgfynydd La Souffrière.
Yfory rhaid codi'n gynnar eto i ffilmio dathliadau Nadolig ysgol Ioan, marchnadoedd lliwgar Pointe-à-Pitre a Jacques wrth ei waith yn y Tŵr Rheoli.
Ond heno cawn ymlacio. Mae Jacques wedi paratoi aperitif gyda rum lleol - ti punch neu planteur yw'r dewis. 'Does dim i'w wneud ond mwynhau ac ymlacio a parcio'r beic tan yfory!
|
|