|
|
Guadeloupe - gyda Gwenan Owen
Sŵn, lliw a cherdd Hywel Gwynfryn yn ymweld ag Ynys y Gloyn Byw yn y Caribi.
|
Hyd yn oed ym mharadwys rhaid i rywun o'r tu allan wneud ymdrech arbennig i ddod yn rhan o'r lle.
Dyna brofiad Cymraes sydd wedi symud i fyw dan awyr las a heulwen ynys baradwysaidd Guadeloupe yn y Caribî.
Yma y cyfarfu Hywel Gwynfryn â Gwenan Owen sy'n dod o Lanfyllin ym Mhowys.
Mae hi'n byw ar yr ynys sy'n cael ei hadnabod, oherwydd ei siap,fel Ynys y Glöyn Byw ers tair blynedd gyda'i gwr, Jaques sy'n dod oLydaw, a'u dau fab, Ioan a Lanig.
Siarad Ffrangeg Cynsymud yma roeddent yn byw yn Quimper, Llydaw.
Un peth sy'ngyffredin rhwng Ffrainc a Guadeloupe yw'r iaith. Ffrangeg yw'r iaith bobdydd yn y ddau le gan mai Ffrainc biau'r ynys.
Ond mae arferioneraill sydd yn wahanol iawn, wedi eu gwreiddio yn ddwfn yn nhraddodiadcyfoethog a llwigar y Caribî.
Wrth gyfarch Hywel yn y maes awyrcyflwynodd Gwenan flodyn albina lliwgar iddo - blodyn sy'n gyffredin yn yCaribî ac yn rhannu'r un nodweddion llachar a lliwgar a'r bobl.
Buan iawn y darganfu fod Guadeloupe yn llawn gwrthgyferbyniadau; hyd yn oedyn ei chrefydd gyda Christnogaeth a hen arferion paganaidd yn gymysg.
"Mae yna lot o hud yma," meddai Gwenan.
Tlodi a chyfoeth Mae gwahaniaethau cymdeithasol hefyd: "Mae yna lot odlodi ac mae yma lot o gyfoeth, sydd weithiau'n anodd i'w dderbyn ond mae'nrhywbeth sy'n nodweddiadol o'r ynys,"meddai Gwenan
Golyga hyn, fodllewyrch ochr yn ochr a'r tlodi a chanmolodd Gwenan yr addysg sydd ar gaelyno i'w phlant.
Am y bobl dywedodd eu bod o natur swnllyd, yn llawnchwerthin a cherddoriaeth."
Un o funudau mwy afreal ymweliad Hyweloedd mynychu 'plygian' Caribïaidd gyda dawnsio, curo dwylo, drymiau acofferynnau taro.
Yr oedd yn brofiad rhyfeddol canu O DeuwchFfyddloniaid i fath gyfeiliant a rhythm anarferol!
Naturiolswnllyd "Mae pobol y Caribî yn naturiol swnllyd," meddai Gwenan."Maen nhw'n licio sŵn - maen nhw'n licio chwerthin ac maen nhw'n liciocerddoriaeth."
Mae Gwenan yn ymwybodol iawn mai pobl oddi allan ywhi a'i theulu ac er mwyn darganfod mwy am yr ynys a'i phobl mae'n ymuno âtheithiau cerdded gyda merched eraill er mwyn dod i adnabod yr ynys a'iharferion. Yn ystod ei ymweliad cafodd Hywel fynd gyda hi ar daith mewngwres llethol i weld sut y caiff siocled ei greu o ffa coco.
Ondhyd yn oed ym mharadwys mae'n cyfaddef bod angen ymdrech i ymdoddi i'rgymdeithas a phan lwyddir i wneud hynny y daw'r gwobrwyon, meddai.
Ysbryd yr ynys "Dwi'n teimlo'n gymysg ynglŷn ag arosyma. Mae yna bethau sy'n plesio a mae yna bethau sy'n anodd iawn i fyw efonhw hefyd.
"Be sy'n plesio ydi pan dwi'n teimlo mod i'n agosáu atysbryd yr ynys a 'mod i yn Guadeloupe a ddim yn Ffrainc.
"Dydipobol ddwad, ac mae hynny yn fy nghynnwys i,ddim â'r un buddsoddiad yn yrynys a'r diwylliant," meddai.
"Dwi'n meddwl y byddai'n hapusach panfyddai'n cyfarfod mwy o bobol yr ynys," ychwanegodd. Gan edrych ymlaendywedodd: "Ymhen deng mlynedd, mae'n anodd dweud lle byddwn ni; ond osbyddwn ni'n dal yma yna oherwydd ein bod wedi llwyddo i ymdoddi mwy i'rgymuned fydd hynny.
"Dwi'n lecio'n bod ni'n darganfod pobol sydd agwir ysbryd yr ynys a dwi'n teimlo'n bod ni'n dechrau gwneud - ond mae'nbroses hir," meddai.
Ar Dy Feic Guadeloupe - nos Sul, Medi 19. S4C,8.30.
|
|