Aeth Steff Lloyd o Drawsfynydd yno yn gyntaf yn athro hwylfyrddio ond ers syrthio mewn cariad a phriodi merch leol mae'r ddau yn rhedeg eu busnes eu hunain.
Ar y bumed rhaglen yn y gyfres Ar Dy Feic dywed Steff mai'r trobwynt allweddol yn ei fywyd oedd cael ei wrthod am swydd yn atomfa Trawsfynydd dros ddeuddeng mlynedd yn ôl. "Doedd gen i ddim plan bywyd ac fel sy'n digwydd i rywun o ardal Trawsfynydd-Blaenau, fydd ddim yn mynd i goleg, yr unig ddiwydiant yr adeg honno yn Traws oedd yr atomfa ac mi wnes i rhyw flwyddyn yno.
"Ac ar ddiwedd y flwyddyn wnaetho nhw ddim cynnig gwaith imi ac rydw i'n ddiolchgar rŵan achos faswn i ddim iso treulio ugain mlynedd yn gweithio yn yr atomfa," meddai wrth Hywel Gwynfryn, cyflwynydd y rhaglen. Gwersi hwylfyrddio Daeth y tro pwysig nesaf ym mywyd y llanc, a fu'n dysgu hwylfyrddio yng ngwersyll Glanllyn ar un adeg, pan ddaeth merch ifanc ato am wersi hwylfyrddio ac yntau, bellach, wedi symud i fyw yng Ngweriniaeth Dominica.
Er gwaethaf sawl gwers doedd Cristina ddim i'w gweld yn dysgu rhyw lawer, fodd bynnag.
"Ond roedd hi'n dod yn ôl ac yn ôl - ond nid i hwylfyrddio a dyma ni'n dechrau canlyn," meddai.
Ond gyda Cristina yn byw yn y brifddinas gryn bedair awr i ffwrdd ni allai'r ddau gyfarfod ond dros y penwythnosau.
"Ond mi ddaethom ni i'r pwynt nad oedd pob penwythnos yn ddigon," meddai.
Ond doedd hi ddim yn hawdd cael ei dderbyn i'r cylch teuluol ar y cychwyn.
"Bob tro roeddwn i'n troi'i fyny roedd na jôcs yn mynd o gwmpas, 'The Prince of Wales has arrived' a rhyw bethaf felly ac mi fu hyn yn mynd ymlaen am oes lle'r oeddan nhw'n siarad amdanaf fi yn hytrach nag efo fi.
"Roeddwn i'n deall Sbaeneg ond doedd fy Sbaeneg i ddim digon cyflym imi gadw'i fyny ac ymateb," meddai.
"Ond roedd tad Cristina wedi priodi tu allan hefyd - Americanes ydi mam Cristina - felly doeddan nhw ddim yn cau'r drws arnaf i."
Bellach, mae'r ddau yn briod a chanddyn nhw ddau o blant a'r rheini'n cael eu magu o fewn clyw i dair iaith.
"Dwi isio iddyn nhw dyfu fyny yn medru Cymraeg. Dwi'n meddwl ei bod hi'n bwysig iddyn nhw wybod o lle 'da ni wedi dwad," meddai.
Y canlyniad yw fod Steff yn siarad Cymraeg â'r plant, Cristina yn siarad Sbaeneg a'r ddau yn siarad Saesneg â'i gilydd. "Felly, maen nhw yng nghanol tair iaith." Yfory mewn pythefnos Er iddynt gael cynnig bod yn rhan o gwmni crysau T rhieni Cristina yn y brifddinas penderfynu wnaeth y ddau sefydlu eu busnes eu hunain gyda Steff yn teithio o gwmpas y wlad yn gwerthu eu cynnyrch i siopau.
"Roedd yn gyfle i ni roi ein stamp ein hunain ar y farchnad," meddai.
Ond dydi Dominica ddim y lle hawsaf i redeg busnes gyda'i phwyslais ar mañana - yr yfory tragwyddol .
"Ac mae fory yn dwad mewn pythefnos," meddai Steff.
"Un peth yda ni'n trio'i wneud efo'r busnes ydi; pan fydda i yn dweud fory mi fydd yna fory. Ond dydi hi ddim bob amser yn hawdd ac mae gynno ni grysau T dwi'n disgwyl amdanyn nhw ers dau fis," meddai.
Ond ychwanegodd: "Mae'r busnes yn tyfu yn ddigon sydyn inni wybod inni gymryd y cam iawn. Rwy'n gobeithio y byddwn ni'n cyrraedd y pwynt y bydd gen i bobl yn gweithio inni yn hytrach na fi fy hun yn mynd allan ac y byddwn ni'n cynhyrchu mwy o stwff ein hunain yn hytrach na phrynu."
Dod yn ôl? Un peth sy'n sicr, mae Steff wedi hen gartrefu yn ei baradwys Garibiaidd. "Alla i ddim llai na meddwl fod yr hogyn o Traws yma i aros," meddai Hywel.
"Mae 'na ran ohona fi fasa'n lecio mynd yn ôl i Gymru ond ar y llaw arall wedi bod ffwrdd am 12 mlynedd ac wedi sefydlu busnes, priodi rhywun o ddiwylliant arall, mae'n anodd meddwl ail gychwyn.
"Dwi di cyrraedd pwynt yr ydw i'n gyfforddus yn fama. Nid dweud fod bywyd yn haws - (mae'n wir) does dim rheolau, mae'n bosib gwneud mwy yma. Ond os buaswn yn mynd yn ôl mi fuaswn i'n gorfod cychwyn o'r cychwyn ac mae pawb yn gwybod mai'r dwy neu dair blynedd gyntaf mewn busnes ydi'r rhai anoddaf .
"A be dwi'n mynd i wneud? Mynd yn ôl i ddysgu hwylfyrddio mewn dŵr oer? Dim diolch. "Dwi ddim yn meddwl."
|