Wedi cyfnod o ymgyrchu diflino, ond aflwyddiannus ar y cyfan, mae'n bur debyg fod hoelion wyth Plaid Cymru yn barod am wyliau.
Yn ôl Ieuan Wyn Jones mae angen "adolygiad trylwyr o bolisi... cyn etholiad 2007". Eisoes, cyfarfu'r arweinwyr yn Aberystwyth i gynnal post-mortem ar ganlyniadau siomedig yr etholiad.
Dim o'i le ar hynny, wrth gwrs, ond byddai seicolegwyr yn dadlau fod angen ymbellhau'n llwyr o sefyllfa os yw rhywun am ei dadansoddi'n wrthrychol. Yn achos arweinwyr y Blaid, maes awyr Caerdydd amdani, felly.
Ble wedyn? Oes yna ganolfan wyliau ar gyfer y rhai sy'n awyddus i bwyso a mesur eu gweledigaeth wleidyddol tra'n llymeitian pina coladas?
Ofer fu fy ymdrechion i ddod o hyd i un hyd yma, yn anffodus. Ond i genedlaetholwyr pybyr sy'n dymuno bod yn fwy annibynnol ar Loegr a'i brenhiniaeth, mae un rhanbarth heulog yn sefyll ben ac ysgwydd yn uwch na'r gweddill y gwanwyn hwn.
Chwi drysoryddion Plaid Cymru, gwagiwch y coffrau: mae'r Caribî yn disgwyl amdanoch.
Barbados I Farbados yr awn ni'n gyntaf. Fis yn ôl, penderfynodd Cynulliad yr ynys nad oedd bellach am gydnabod awdurdod y Cyfrin-Gyngor Prydeinig (British Privy Council) yn Llundain. Dyma'r corff a fu, ers canol y bedwaredd ganrif ar bymtheg, yn llys apêl terfynol i drigolion Barbados.
Heddiw, mae llys newydd yn cyflawni'r swyddogaeth honno, a hynny'n llawer nes at y bobl eu hunain. Pan sefydlwyd y Llys Barn Caribïaidd yn St Lucia ganol Ebrill, dywedodd Prif Weinidog yr ynys, Dr Kenny Anthony, fod y Caribî yn "dechrau blasu rhyddid o'r diwedd".
Ar hyn o bryd, ynysoedd Barbados a Gaiana yn unig sydd wedi trosglwyddo awdurdod cyfreithiol llwyr i'r llys newydd.
I weddill y Caribî, fforwm i roi trefn ar anghydfod diwydiannol ydyw ar hyn o bryd, a dim mwy.
Mae rhai yn cwyno fod y llys newydd yn gostus ac yn ddiangen mewn ardal nad yw wedi ariannu ei llysoedd lleol yn ddigonol ers degawdau.
Ond mae cipolwg ar y papurau newydd lleol yn dangos cefnogaeth frwd i'r datblygiad ar draws y pleidiau gwleidyddol.
Cefnogaeth Yn ôl Twrnai Cyffredinol Barbados, Mia Mottley, mae ei bobl "gam yn nes at fedru pennu eu tynged eu hunain".
Mae arweinydd yr wrthblaid, Clyde Mascoll, yn cytuno ac yn mynnu y dylai pobl y Caribî "fod yn hynod falch ohonynt eu hunain".
Bydd hyn i gyd yn hwb fawr i Brif Weinidog Barbados, Owen Arthur, sydd wedi datgan droeon ei fod yn benderfynol o weld ei ynys yn gyfan gwbl annibynnol ar y Deyrnas Unedig cyn iddo ymddeol.
Nid yw wedi celu ei ddyhead i gael gwared â'r Frenhines ac ethol arlywydd newydd yn ei lle. Mae disgwyl iddo gymryd mantais ar boblogrwydd y Llys Barn Caribïaidd a chynnal refferendwm ar y berthynas rhwng Barbados a Phrydain yn hwyrach eleni.
Nid yw Arthur ar ei ben ei hun yn hyn o beth.
Ynysoedd y Cayman Draw yn Ynysoedd y Cayman, y pwnc mwyaf llosg yn yr etholiad cyffredinol y mis hwn oedd awydd trwch y boblogaeth i gael mwy o hunanlywodraeth.
Er nad ydynt, ar y cyfan, am roi'r hwi yn llwyr i Elizabeth II, mae'r prif bleidiau'n gytun fod angen cael gwared â'r Llywodraethwr sy'n cynrychioli'r Frenhines ar yr ynysoedd.
Mae llawer o'r trigolion yn teimlo na chawsant ddigon o gefnogaeth gan Brydain yn dilyn y dinistr a achoswyd gan Gorwynt Ifan yn 2004.
Yn wir, maen nhw'n dweud eu bod nhw wedi gorfod gwneud y rhan fwyaf o'r gwaith ailgodi ac adfer eu hunain a bod hynny, yn ei dro, wedi rhoi'r hyder iddyn nhw chwennych mwy o annibyniaeth.
Ac ar ben hynny, mae'r hafan hon rhag trethi yn deisyfu mwy o lais iddi ei hun ar y llwyfan rhyngwladol a hithau wedi hen flino, bellach, ar fyw yng nghysgod Prydain mewn sefydliadau fel y Cenhedloedd Unedig a Chyfundrefn Fasnach y Byd.
Ymateb Blair A fydd Tony Blair yn ymateb i'r galwadau hyn am fwy o ymreolaeth yn ystod ei drydydd tymor?
Afraid dweud nad yw'r Caribî yn un o'i flaenoriaethau rhyngwladol ar hyn o bryd. Mae'n ymddangos mai i'r Dwyrain ac i'r De y bydd Blair yn troi ei olygon wrth i'r haul fachlud ar ei arweinyddiaeth, i fynd i'r afael â'r problemau dybryd yn Irac ac Affrica.
Diau y byddai rhai'n honni fod Prydain heddiw, wrth fynd ar ôl 'ymerodraeth' newydd yn y Dwyrain, yn colli ei gafael ar yr hen ymerodraeth sydd ganddi eisoes yn y cyfeiriad arall: cael gafael ar olew Saddam oedd yn bwysig i Blair y llynedd, nid cael Ynysoedd y Cayman yn ôl ar eu traed wedi trychineb naturiol frawychus.
Efallai fod hynny'n gorsymleiddio pethau ond ni ellir gwadu fod yna elfen o wrth-Brydeindod ar gynnydd yn y Caribî, a hwnnw'n cael ei fynegi'n hynod agored.
Mae gwleidyddion y rhanbarth yn llwyddo i argyhoeddi y bobl gyffredin fod y Goron Brydeinig yn sefydliad imperialaidd, gorthrymus, sy'n eu dal yn ôl yn economaidd, yn wleidyddol, ac yn ddiwylliannol.
Rownd arall o bina coladas, Mr Iwan?
Dolennau
|