大象传媒


Explore the 大象传媒

MAWRTH
18fed Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Tramor

A-Y | Chwilota
Y Diweddaraf



Chwaraeon

Y Tywydd

Radio Cymru yn fyw
Safleoedd



大象传媒 Homepage

Cymru'r Byd
» Tramor
Gogledd a Chanol America
De America
Ewrop
Affrica
Dwyrain Canol
Asia
Awstralasia a'r M么r Tawel

Gwnewch

Amserlen teledu

Amserlen radio

E-gardiau

Arolwg 2001

Gwybodaeth

Ymateb


Harddwch, tlodi a gwin palmwydd
Hywel Gwynfryn yn cyfarfod Alun Davies o'r Bala yng nghanol tlodi Kenya

Ysgol yn Nghaernarfon, coleg ym Mangor, dysgu Cemeg yn Amlwch a'r cam nesaf? Cyfnewid gogledd Cymru am fywyd dan haul crasboeth ac yng nghanol tlodi Kenya oedd dewis Alun Davies.

A saith mlynedd yn ddiweddarach mae'n dal yno er mai ond am ddwy flynedd y cafodd ei dderbyn gan y gwasanaeth VSO yn y lle cyntaf.

Ar gyfer y rhaglen deledu, Ar Dy Feic, ymwelodd Hywel Gwynfryn â chartref Alun - sy'n dod o'r Bala yn wreiddiol - ym mhentref Kilifi ddeng milltir ar hugain o Mombasa.

Gwên a chroeso
"Mae'n fywyd gwahanol iawn, a safonau byw yn hynod wahanol i'r hyn oedd o wedi arfer a nhw yng Nghymru, ond dyw hyn ddim yn tarfu o gwbl ar fwynhad Alun o'r wlad, a phob man mae'n mynd yn y rhaglen mae'n cael ei gyfarch gyda gwên a chroeso," meddai Hywel.

Mae tlodi yn eich hitio chi rhwng eich llygaid i ddweud y gwir. Dwi'n meddwl bod rhywun yn cwestiynu ei hun pan mae'n gweld rhywun sydd ddim yn gallu fforddio prynu bwyd, ddim yn gallu fforddio llety... Mae rhywun yn gofyn iddo'i hun be sy'n digwydd yn y byd. Mae tlodi yn beth real yma.

Diaddurn a di-drydan
Ar gyfer y rhaglen ymwelodd y ddau â chartref cyntaf Alun lle'r oedd yn byw pan ddaeth i Kenya i ddechrau i weithio i'r VSO lle digon diaddurn, di-drydan ond gydag un sticer yn dal ar y drws ers y blynyddoedd hynny Rwy'n ♥ Cymru.Roedd hi'n dipyn o sioc dod i ddygymod a bywyd heb drydan, meddai Alun, gan gyfaddef ei fod yn ewfforig o hapus am gyfnod gyda'i gartref newydd ar lan y môr, cyn i hiraeth ddechrau ei lethu. Am tua chwe mis feddylies i am ddim ond am pryd y cawn i ddod adref, meddai.

Dysgu'r iaith
Ond wedi iddo ddechrau dysgu'r iaith a deall y diwylliant fe ddaeth o hyd i hyder newydd a hapusrwydd ac mae'n awr yn briod â Sassy, merch a fagwyd ym Malawi a bellach yn ddirprwy bifathro mewn ysgol rynbgwladol ym Mombasa - a'r ddau yn byw ar lan y môr ac Alun erbyn hyn wedi dysgu Swahili.

Y gitar a'r banjo ydi offerynnau AlunAc yntau wedi bod yn aelod o Eirin Peryglus does ryfedd fod cerddoriaeth yn chwarae rhan bwysig yn ei fywyd yn Kenya, ac mae'n aelod o fand jazz, Y Dynion Dur, sy'n cyfarfod ddwywaith yr wythnos ac sydd yn ôl ei ddisgrifiad ef yn cheesy a chanol y ffordd ond yn bwysicach fyth yn codi arian at elusennau amrywiol.

Yn ystod ei ymweliad profodd Hywel groeso swyddogol gyda'r ddiod draddodiadol o win palmwydd - heb anghofio tywallt ychydig ddiferion ar y lawr 'i'r cyn-deidiau' cyn yfed.

Ond mewn gwlad sydd mor hardd a phrydferth mae Hywel yn darganfod fod problemau cymdeithasol enbyd.

Ar Dy Feic, 大象传媒 Cymru ar S4C, Ebrill 6, 8.30.





cysylltiadau


ewrop

Kenya
Ar drên yr ymerodraeth

Trechu dau fynydd a gwastadedd

Efo Rocet i Borth Uffern

Cymry diddorol mewn lleoedd annisgwyl

Harddwch, tlodi a gwin palmwydd




About the 大象传媒 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy