大象传媒


Explore the 大象传媒

MAWRTH
18fed Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Tramor

A-Y | Chwilota
Y Diweddaraf



Chwaraeon

Y Tywydd

Radio Cymru yn fyw
Safleoedd



大象传媒 Homepage

Cymru'r Byd
» Tramor
Gogledd a Chanol America
De America
Ewrop
Affrica
Dwyrain Canol
Asia
Awstralasia a'r M么r Tawel

Gwnewch

Amserlen teledu

Amserlen radio

E-gardiau

Arolwg 2001

Gwybodaeth

Ymateb


Rocet Arwel Jones Trechu dau fynydd a gwastadedd
Mae Rocet Arwel Jones yn Kenya yn codi arian at y mudiad Mind. Dyma adroddiad ganddo oddi yno:

Ganol dydd - Dydd Gwyl Dewi - roedd y Ddraig Goch yn cwhwfan ar Fynydd Longonot yn Kenya.

Roedd y daith gerdded noddedig er budd MIND drosodd ac wedi llwyddo i godi cyfanswm o dros £60,000 er budd yr elusen iechyd meddwl.

Anifeiliaid rheibus
Cerdded gwastadeddau a mynyddoedd a champio allan ymysg anifeiliaid rheibus Affrica oedd yr her a'r anrhydedd.

Roedd y daith at Borth Uffern yn hir a chaled. Milltiroedd maith yn haul tanbaid canol dydd ar hyd llwybrau llychlyd oedd yn llac dan draed.

Yn waeth na dim roeddwn i bron hanner ffordd at ferwi - yn llythrennol. Roedd y tymheredd yn 47 gradd C!

Cyn pen yr awr roedd y glawogydd rhyfedda yn ein gyrru ni i gysgodi dan rynnu yn yr oerfel a gwylio ein gwersyll yn cael ei sgubo i ffwrdd. O fewn awr arall roedd hi'n braf eto.

Eithafion anodd ar y ysbryd a'r corff a hynny rhwng cloriau un diwrnod!

Nod ariannol
Bellach mae dau fynydd a gwastadedd wedi'u trechu a'r nod wedi ei gyrraedd o ran y daith. Fodd bynnag rwy'n dal i gyrchu at y nod ariannol o godi cymaint a phosib at yr elusen cyn canol Ebrill ac mae modd ichi barhau i gefnogi.

Rwy'n falch o ddweud fy mod i yn ddigon da i allu mynd ymlaen i fusnesu rhywfaint yn y wlad ryfeddol yma - nid pawb fentrodd ar y daith fu mor ffodus.
Cewch rywfaint o hanes hynny ymhen 'chydig wythnosau.






cysylltiadau




ewrop

Kenya
Ar drên yr ymerodraeth

Trechu dau fynydd a gwastadedd

Efo Rocet i Borth Uffern

Cymry diddorol mewn lleoedd annisgwyl

Harddwch, tlodi a gwin palmwydd




About the 大象传媒 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy