大象传媒


Explore the 大象传媒

MAWRTH
18fed Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Tramor

A-Y | Chwilota
Y Diweddaraf



Chwaraeon

Y Tywydd

Radio Cymru yn fyw
Safleoedd



大象传媒 Homepage

Cymru'r Byd
» Tramor
Gogledd a Chanol America
De America
Ewrop
Affrica
Dwyrain Canol
Asia
Awstralasia a'r M么r Tawel

Gwnewch

Amserlen teledu

Amserlen radio

E-gardiau

Arolwg 2001

Gwybodaeth

Ymateb


Efo Rocet i Borth Uffern
Mae Rocet Arwel Jones yn wynebu taith galed yn Kenya er mwyn codi arian at y mudiad Mind. Dyma ei sylwadau cyn cychwyn:


Taith fydd yn golygu wythnos o ddringo ac o gerdded caled. Roedd rhaid ymarfer cryn dipyn ar ei chyfer a chodi o leiaf £2,500.

Bydd y daith yn mynd a fi o droed Mynydd Susua heibio Porth Uffern ac at gopa Mynydd Longanot yn y Great Rifft Valley yn Kenya.

Afiechyd meddwl
Bob blwyddyn mae 21 miliwn o bresgriptiwns yn cael eu hysgrifennu am dawelyddion ym Mhrydain.

Rocet Arwel JonesMae un o bob pedwar ohonom yn debyg o ddioddef o afiechyd meddwl o ryw fath. Nid anabledd meddwl y'n genir ni ag o ond salwch all daro unrhyw un ohonom yfory nesaf.

Mae Mind yn cynnal rhwydwaith sy'n cynnig cefnogaeth i'r rhai sy'n dioddef o salwch meddwl cyngor meddygol a chyfreithiol mewn dinasoedd ac, yn dilyn y blynyddoedd argyfyngus diwethaf, yn arbennig yng nghefn gwald.

Mae'n cynnal llinell ffôn gyfrinachol ond dim ond un alwad ym mhob pump y mae modd eu hateb oherwydd diffyg adnoddau.

Poeth, caled a chwyslyd
Mae'r daith gerdded hon wedi golygu cryn ymarfer ar fy rhan i a dwi'n dal yn nerfus nad ydw i wedi caledu digon ar gyhyrau fy nghoesau ac ar wadnau fy nhraed.

Fe fydd hi'n boeth ac yn chwyslyd ac yn galed dan draed. Ond fel dwi'n ysgrifennu'r geiriau hyn rwyf newydd gadarnhau fy mod wedi cyrraedd £7,000 o nawdd.

Fe fyddai'n braf gallu treblu'r nod gwreiddiol a chyrraedd £7,500.

Mae modd cefnogi fy ymdrech i ar gyfer Mind arlein tan ganol Ebrill.

er mwyn ymweld â gwefan yr ymgyrch.

Cewch glywed rhagor am y daith yn y man.




ewrop

Kenya
Ar drên yr ymerodraeth

Trechu dau fynydd a gwastadedd

Efo Rocet i Borth Uffern

Cymry diddorol mewn lleoedd annisgwyl

Harddwch, tlodi a gwin palmwydd




About the 大象传媒 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy