大象传媒


Explore the 大象传媒

MAWRTH
18fed Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Tramor

A-Y | Chwilota
Y Diweddaraf



Chwaraeon

Y Tywydd

Radio Cymru yn fyw
Safleoedd



大象传媒 Homepage

Cymru'r Byd
» Tramor
Gogledd a Chanol America
De America
Ewrop
Affrica
Dwyrain Canol
Asia
Awstralasia a'r M么r Tawel

Gwnewch

Amserlen teledu

Amserlen radio

E-gardiau

Arolwg 2001

Gwybodaeth

Ymateb


Rocet Ar drên yr ymerodraeth
Bu Rocet Arwel Jones ar daith gerdded yn Kenya yn codi arian at y mudiad Mind. Dyma ei drydydd adroddiad oddi yno :

Ar ôl pythefnos o gerdded caled yng nghwmni 30 o ddieithriaid roeddwn i'n edrych ymlaen at gyrraedd yr arfordir a chael pythefnos o fy nghwmni fy hun.

Taith ramantus iawn yw'r un o Nairobi i Mombasa. Taith o dair awr ar ddeg mewn hen drên o oes Yr Ymerodraeth.

Dosbarth cyntaf wrth reswm
Cychwyn am saith ac ymgartrefu mewn caban cyfforddus i ddau dosbarth cyntaf wrth reswm.

Cloch yn canu i'n gwahodd i swper. Pum cwrs, llieiniau gwyn a silver service. Cawl, pysgod, cig, pwdin a choffi wedi ei weini'n gwrtais. Erbyn gorffen a dychwelyd i'r caban roedd y gwely wedi ei wneud ac erbyn amser codi a mwynhau brecwast roeddem ar gyrion Mombasa.

Steil yr ymerodraeth yn parhau ar reilffordd oedd wedi costio pedwar bywyd am bob milltir o'i hyd. Y steil yn parhau ond y sglein wedi pylu.

Doedd yr arian ddim yn gwenu a doedd y llieiniau ddim yn wyn, roedd y platiau wedi crafu a'r gwasanaeth wedi heneiddio, y cawl o baced a'r dillad gwlau yn denau.
Ond difyr 'run fath yn union.

Coloneiddio o'r newydd
Roedd yr arfordir wedi ei goloneiddio o'r newydd yn yr wythdegau gan dwristiaid gorllewinol. Ond mae'r coloneiddwyr diweddar wedi ymadael hefyd.

Tra roeddwn i yno, ailgyhoeddodd America eu rhybudd y dylai eu pobl nhw gadw draw o Kenya. Wrth weld sloganau fel 'Long live 9/11' yn Lamu doedd rhywun ddim yn synnu.

Ond, o ystyried fod 65% o weithwyr y diwydiant twristiaeth wedi colli eu gwaith o ganlyniad i'r rhybudd, mae rhywun yn gweld y rhesymau.

Cylch dieflig yn troi o gwmpas arfordir baradwysaidd lluwchfeydd o dywod gwyn, awyr las a môr cynnes mewn ffrâm o balmwydd gwyrdd.

Darllen ar Cymru a'r Byd fod lluwchfeydd gwahanol yng Nghymru. Diffodd y cyfrifiadur ac yn ôl at lan y môr!






cysylltiadau






ewrop

Kenya
Ar drên yr ymerodraeth

Trechu dau fynydd a gwastadedd

Efo Rocet i Borth Uffern

Cymry diddorol mewn lleoedd annisgwyl

Harddwch, tlodi a gwin palmwydd




About the 大象传媒 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy