大象传媒


Explore the 大象传媒

MAWRTH
18fed Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Tramor

A-Y | Chwilota
Y Diweddaraf



Chwaraeon

Y Tywydd

Radio Cymru yn fyw
Safleoedd



大象传媒 Homepage

Cymru'r Byd
» Tramor
Gogledd a Chanol America
De America
Ewrop
Affrica
Dwyrain Canol
Asia
Awstralasia a'r M么r Tawel

Gwnewch

Amserlen teledu

Amserlen radio

E-gardiau

Arolwg 2001

Gwybodaeth

Ymateb


Gŵyl y Coed
Neal Belkin o Israel yn sgrifennu am Tw B'Shvat - Y Flwyddyn Newydd i Goed!

Mae'r goeden almon yn blodeuo
Ac mae haul euraid yn disgleirio,
Mae adar ar bob to sy'n cyhoeddi
Am yr ŵyl sydd ar ei ffordd.

Mae Tw B'Shvat wedi cyrraedd -
Gŵyl y glasbrennau.
Mae Tw B'Shvat wedi cyrraedd -
Gwyl y glasbrennau.

Nid yng Nghymru yng nghanol y gaeaf, bid siŵr, ond yn Israel, mae'r plant yn eu hysgolion meithrin a chynradd yn canu'r gân hon yn Ionawr ac arwyddion cyntaf y gwanwyn wedi ymddangos eisoes.

Blodau'r almon
Yr arwydd cyntaf yn wastadol yw blodeuyn gwyn y goeden almon ar ochrau'r ffyrdd, yng nghefn gwlad ac yn y coedwigoedd.

Enw yw Tw B'Shvat yng nghytgan y gân ar yr ŵyl Iddewig, Y Flwyddyn Newydd i Goed.

A'r enw hwn yw dyddiad yr ŵyl gan fod rhifau mewn Hebraeg yn cael eu hysgrifennu yn y ffordd draddodiadol gan ddefnyddio llythrennau o'r wyddor Hebraeg.

Felly, mae'n bosibl darllen rhai rhifau fel geiriau. Pymtheg yw "Tw", ac un o fisoedd y calendr Hebreig yw "Shvat".

Mae'r ŵyl Tw B'Shvat yn digwydd ar y pymthegfed o Shvat sef yn Ionawr neu ddechrau Chwefror.

Y dyddiau hyn, yr amgylchedd yw'r pwnc llosg i wleidyddion, gwyddonwyr, rheolwyr busnes, a phobl gyffredin drwy'r byd ac, wrth gwrs, mae coed yn rhywbeth sy'n hanfodol i'r amgylchedd, yn enwedig y coedwigoedd glaw yn Ne America ac yn Asia.

A dydy coed fel rhan o fywydau pobl ddim yn beth newydd ychwaith gyda chyfreithiau yn yr Hen Destament ynglŷn â phlannu coed, eu cwympo a bwyta'u ffrwythau - yn Lev 19:23-25, Deut 20:19-20 er enghraifft.

Y drydedd ganrif
Ar y llaw arall, does dim sôn o gwbl am Tw B'Shvat yn y Beibl gan mai rhywbeth a ddatblygodd yn ystod y drydedd ganrif OC yw a hynny fel gŵyl amaethyddol.

Ymysg yr Iddewon hynny a oedd yn byw tu allan i Israel daeth yn arferiad i fwyta ffrwythau o Israel.

Cyn hynny pan nad oedd yn bosibl mynd â ffrwythau ffres o Israel anfonwyd ffrwythau wedi'u sychu at y bobl hynny ac o ganlyniad i hyn, ffrwythau sychion yw bwydydd arbennig yr ŵyl.

Dim ond chwwyn
Pan ymwelodd Mark Twain ag Israel yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg disgrifiodd y wlad fel un ddiffaith a galarus a dim ond chwyn yn tyfu yno.

Ac yn 1948, pan gafodd Israel ei sefydlu, roedd llai na phum miliwn o goed yn tyfu yno o gymharu â heddiw lle mae mwy na dau gan miliwn.

Mewn gwirionedd, Israel ydy'r unig wladwriaeth yn y byd yr oedd ganddi fwy o goed ar ddiwedd yr ugeinfed ganrif nag oedd ganddi ar ei dechrau! Parhau i dorri a cholli coed mae gwladwriaethau eraill.

Dal yn bwysig
Mae coed yn dal i fod yn hynod o bwysig yn Israel - yn sicrhau cysgod a ffrwythau ac yn fodd i sefydlogi'r pridd.

Felly, mae'r plant yr ysgolion yn cael eu dysgu am goed y wlad ac ar Dw B'Shvat, yn plannu coed ifainc yng nghefn gwlad a thrwy hynny ddysgu am y wlad sy'n rhan o'u treftadaeth, a'r wladwriaeth y maen nhw'n ddinasyddion ohoni.

Ar ben hynny mae'r coedydd ifainc yn cyfoethogi'r tir.

Prynu coeden
Yn blentyn yn Llundain byddwn innau'n 'prynu' drwy'r ysgol Sul Iddewig bob Tw B'Shvat goeden i'w phlannu yn Israel .

Talodd fy rhieni 37½c (saith a chwech yr adeg honno thipyn o arian i blentyn yn y Chwedegau!) a derbyniais innau dystysgrif ar gyfer "fy" nghoeden yn Israel.

Bob penwythnos a'n ystod y gwyliau o fis Mawrth tan fis Tachwedd mae coedwigoedd drwy Israel yn llawn o deuluoedd a ffrindiau yn cael picnic, yn crwydro neu jyst yn eistedd dan y canghennau gwyrddion yn sgwrsio.

Diolch i Dw B'Shvat, mae llawer o goed i'w mwynhau yn Israel.






dwyrain_canol

Israel
Israel - Chwilio am ffordd o fyw

Atgofion Wlpan

O Dryweryn i Gaza

Gŵyl y Coed

Beddau Cymry yn Israel




About the 大象传媒 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy