Ydy ymddiheuriad ar ôl deugain mlynedd yn gallu bod yn ymddiheuriad go iawn, neu ydy e'n codi hen grachen?
Ydy'n bosibl i ymddiheuro am chwalu pentref cyfan a chymuned fyw?
Fel hyn roeddwn i'n meddwl ym mis Hydref pan oedd ymgais Cyngor Lerpwl i ymddiheuro am foddi Cwm Tryweryn a Chapel Celyn ar y newyddion.
Does dim atebion gyda fi i'r cwestiynau 'ma, ond mae'n debyg na allai'r Llywodraeth yn Llundain basio deddf fel Deddf Tryweryn heddiw.
Yn wir, ni fyddai'r un llywodraeth yn ceisio gwneud hynny heb gytundeb pobl yr ardal a'u Cynulliad Cenedlaethol.
Rwyf yn credu hefyd na fyddai gwleidydd Seisnig - fel y gwnaeth arweinydd Cyngor Lerpwl yr adeg honno - yn meddwl gwneud rhywbeth mor ansensitif â dod i Gymru er mwyn "dathlu" digwyddiad mor gas â dinistrio tai, ffermydd, siopau, ysgol, capel Cymreig er mwyn darparu dŵr ar gyfer dinas yn Lloegr.
Does dim dathliad o gwbl pan fo pobl yn gorfod gadael eu cartref - lle maen nhw wedi bod yn byw am lawer o flynyddoedd, ac efallai lle maen nhw wedi cael eu geni a'u magu - dim ond oherwydd bod y Llywodraeth wedi penderfynu felly.
Gadael eu cartrefi Yn Israel hefyd mae rhai teuluoedd a orfodwyd i adael eu cartrefi yn ddiweddar.
Beth amser yn ôl, fe benderfynodd y llywodraeth a'r Knesset (senedd) nad oedd er budd Israel i barhau i ddal gafael ar Lain Gaza, ac i roi cyfle i'r Palestiniaid a'u harweinyddion i ddatblygu eu tiriogaeth eu hunain.
Roedd anghytundebau swnllyd ymysg y gwleidyddion Israelaidd ac ymysg y boblogaeth, wrth gwrs, ond, ar y diwedd, roedd penderfyniad wedi cael ei wneud i adael Gaza, ac i ddinistrio'r canolfannau Iddewig yno.
Yn naturiol, doedd gan y bobl a fu'n byw yno ddim eisiau gadael ond fe ddeallodd y rhan fwyaf o boblogaeth Israel y rhesymau am y penderfyniad, a'i gefnogi.
Y fyddin yn cyrraedd Ym mis Awst eleni, fe gyrhaeddodd byddin Israel Gaza er mwyn sicrhau bod y boblogaeth Iddewig yn gadael eu cartrefi, perllannau, ysgolion, synagogau.
Roedd hyn yn drist iawn i'r milwyr a'r preswylwyr ill dau ond doedd dim problemau difrifol.
Ar ôl ychydig wythnosau, pan roedd y bobl i gyd wedi gadael, fe fwriodd y fyddin yr adeiladau i gyd i lawr, er mwyn rhwystro'r bobl rhag dychwelyd, ac fel na allai'r Palestiniaid symud i mewn i'r tai.
Chwalwyd mwy na 2,500 o dai.
Y beddau A beth am y rheiny nad ydy nhw'n gallu gadael ar eu pen eu hunain? Pan ddarllenais i fod y beddau yng Nghapel Celyn wedi cael eu gadael yno - dan y dŵr - roeddwn i'n meddwl am feddau'r Israeliaid a a gladdwyd mewn gwahanol rannau o Gaza.
Doedd yr Israeliaid a oedd yn byw yno na'r llywodraeth ddim eisiau cefnu ar aelodau eu teuluoedd nac ar eu cyfeillion a oedd wedi marw yn Gaza ac a gafodd eu claddu yno.
Fe drefnodd y llywodraeth symud y cyrff i gyd i fynwentydd eraill yn Israel a chynhaliodd y teuluoedd seremonïau i gladdu eu caredigion am yr ail waith.
Yn anodd iawn Roedd gadael Gaza yn anodd iawn i Israel ond efallai y bydd llai o broblemau gydag Israel heb fyddin a dinasyddion mewn llain dibwys.
Roedd boddi Tryweryn yn ddigwyddiad poenus iawn i Gymru ond mae'n bosibl gobeithio bod Capel Celyn a'r cwm wedi marw nid er mwyn dŵr Lerpwl, ond er mwyn genedigaeth Cymru newydd.
Cryfach a mwy balch ydy Cymru heddiw ac ni fydd digwyddiad arall fel hwnnw eto.
Da bo chi, Gaza. Cofiwch Dryweryn, Gymru.
|