|
|
Rhynnu yn y gwres
Gair o Dubai gan Eirian Hasler Dydd Gwener, Gorffennaf 14, 2000
|
Mae'r gwres ymhell dros ddeugain gradd Celsius yn ystod y dydd ers wythnosau - a dim sôn am ddiwedd iddo ef na'r trymder clos tan ganol mis Medi beth bynnag! Ond er ei bod fel popty chwilboeth oddi allan ymhell cyn wyth y bore, i'r bobl sy'n byw yn y Gwlff mae bywyd yn mynd rhagddo fel ag erioed. Ond dydi'r tywydd poeth ddim yn golygu y gallwn ni adael ein siwmperi an siacedi adref. Mae pob siop, swyddfa a thacsi yn rhynllyd o oer diolch i'r air conditioning sy'n rhan mor bwysig o'n bywyd yma gydol y flwyddyn. Heidio i Ewrop Ar ôl i'r ysgolion gau ddechrau Gorffennaf heidiodd llu o deuluoedd o'r wlad i hinsawdd oerach a mwy goddefol Ewrop, yr Unol Daleithiau ac Awstralia. Ond i'r rhai ohonom sydd ar ôl mae digon i'w wneud. Gwir, rhaid troi cefn ar chwaraeon fel tenis, cerdded, marchogaeth - bu'r stablau ynghau ers dechrau Mai - ac unrhyw weithgarwch yn yr awyr agored. Ond dydi hi ddim yn rhy ddrwg arnom ni chwaith! Canolfan sinema newydd Yn ystod yr wythnosau diwethaf agorodd canolfan sinema fawr yn Dubai - gan fwy na dyblu nifer y sgrins o 20 i 41 - pob un gyda'r dechnoleg ddiweddara ac yn dangos y ffilmiau diweddaraf hyd at chwech o weithiau y dydd. Dyma hefyd y cyfle i fanteisio ar y prisiau rhad anhygoel i aros yn y gwestai moethus dros y penwythnos. Gyda rhai newydd yn agor bron bob mis nid oes anhawster dod o hyd i rywle gwahanol. Er ei bod yn rhy boeth i eistedd ar draeth neu wrth ymyl pwll am unrhyw gyfnod, mae'r cyfleusterau heb eu hail. Does dim rhaid archebu byrddau yn y gwestai mwyaf poblogaidd ychwaith ac y maent hwythau hefyd wedi gostwng eu prisiau dros yr haf. Yn y siopau mae sêls gwerth chweil. Rhywbeth i'r plant Yn ninas Dubai maer Dubai Summer Surprises (DSS) yn cadw pawb yn ddiddig. Dair blynedd yn ôl cychwynwyd y DSS gan y llywodraeth er mwyn denu ymwelwyr o wledydd cyfagos yn ystod y misoedd poeth. Gyda'r sylw ar blant y thema eleni yw lots of fun for little ones. Mae plant o bob oed yn mwynhau cystadlaethau ac arddangosfeydd yn ymwneud a bwyd, technoleg, dwr, blodau, awyrennau, hanes, yr amgylchedd a'r byd - y cyfan yn cael eu cynnal bob dydd tan ddiwedd Awst. Yng nghanol y rhew Un o'r arddangosfeydd mwyaf poblogaidd yw un Byd Iâ sy'n wrthgyferbyniad llwyr i'r tywydd oddi allan. Yn y neuadd nid yw'r tymheredd ond yn -20 gradd Celsius gyda phob ymwelydd yn cael côt gynnes iw gwisgo ar y ffordd i mewn i weld 40 o fodelau wedi eu gwneud allan o rew.
Yn eu plith mae Twr Eiffel, Big Ben, yr Arc de Triomphe, y Statue of Liberty a thwr Pisa heb sôn am westy enwog Dubai, y Burj Al Arab (yn y llun). Hefyd, y ceffyl llwyddiannus Dubai Millennium a enillodd y Dubai World Cup yn ogystal ag Ascot. Mewn neuadd gyfagos mae Gwlad y Gaeaf - Winterland - lle mae'n aeaf caled efo digon o eira, tobogans a llithrfeydd mynyddig. Nid yr arddangosfeydd yn unig sy'n troi ein meddyliau tuag at y gaeaf. Dathlu'r Nadolig Bu nifer o westai'r ddinas yn dathlu'r 'Dolig ychydig fisoedd yn gynnar gyda Sion Corn, anrhegion a choed 'Dolig - heb anghofio, wrth gwrs, am dwrci a'r trimings. Ac wrth gwrs, mae'r 'Dolig yn yr haf hwn yn esgus gwych dros gael parti.
|
|