|
|
Cyri'r Cofi yn y gwres
gan Eirian Hassler yn sgrifennu o Dubai Dwi'n eistedd yn yr unig fwyty Indaidd yn Dubai sy'n arbenigo yn y math o fwyd Indian y mae Prydeinwyr yn gyfarwydd ag ef. Cafodd y bwyty, Ajman Tandoor, ei agor ddau fis yn ol gan ddau ddyn sy'n hanu o Bangladesh.
|
Felly doeddwn i ddim yn disgwyl i'r cyfweliad ar gyfer y cylchgrawn What's On yr ydw I'n gweithio iddo ddechrau efo un o'r partneriaid, Ali Iqbal, yn deud wrtha i, 'Cofi dre dw i."
Ac nid ond Cofi dre gan i Ali fod yn rhedeg y Royal Tandoori ym Mangor am flynyddoedd ac mi roedd o a'i deulu efo bwytai yn y Benllech, Amlwch a'r Fali ar Ynys Môn.
Felly, pam y gadawodd y cyn ddisgybl o Ysgol Syr Hugh Owen feysydd gwyrdd y gogledd am fynyddoedd tywod Dubai?
Chwilio am sialens newydd oedd o, medda fo. Daeth o a'i bartner a pherthynas Siraj Talukdar, oedd wedi bod yn gyfrifol am y bwyty yn Y Fali, yma 20 mlynedd yn ôl ac mae Dubai hefyd yn llawer agosach na Bangor at Bangladesh!
Er mai dim ond ers ychydig fisoedd mae'r bwyty wedi bod yn agored mae'n profi'n weddol boblogaidd efo Prydeinwyr sy'n byw yma.
Mae Ali a'i bartneriaid yn 'aimio' ar gyfer yr 15,000 o expats Ewropeaidd hoff o fwyd Indaidd sydd yma.
Tydi bwyd fel balti a Chicken Tikka Masala y pryd Indiaidd mwya poblogaidd ym Mhrydain yn ôl y sôn - ddim i'w gweld ar fwydlen unrhyw fwyty arall yma.
Mae'r prydau yn tueddu i fod yn llai poeth na'r rhai ym mwytai Prydain meddai.
Yn ogystal â Phrydeinwyr mae'r cwsmeriaid yn cynnwys rhai Indiaidd hefyd sy'n edrych ar y bwyd fel novelty.
|
|