|
|
Priodi'r un dyn deirgwaith!
Neidiodd Hywel Gwynfryn ar ei feic a mynd i weld y byd ar gyfer cyfres deledu Ebrill 2002
|
Rhaglen 6 - Dubai Yn rhaglen olaf Ar Dy Feic mae Hywel Gwynfryn yn. Dubai lle bydd yn cyfarfod Gwyneth Pritchard, yn wreiddiol o'r Felinheli a'r Wyddgrug. Mynychodd Gwyneth Ysgol Maes Garmon yn Yr Wyddgrug a Choleg Cerdd a Drama, Caerdydd, lle cyfarfu a'i gwr Abraham. Dilynnodd ef a setlo yn Dubai 20 mlynedd yn ôl.
"Dwi wedi priodi Abraham dair gwaith," meddai. Gwyneth, 46 oed. "Unwaith yn y ffordd Fwslemaidd, wedyn mewn swyddfa gofrestru ac yna mewn eglwys yn Yr Wyddgrug." Mae ganddyn nhw ddau fab, Ryan - gafodd ei enwi ar ôl Ryan Davies - a Zayed, sydd ychydig dros ei flwydd. I'r rasus Wedi cael croeso Arabaidd yng nghartref Gwyneth, i ffwrdd â Hywel i'r rasus byd-enwog 'Y Dubai World Cup', lle gwêl ddwy ochor cymdeithas Dubai - y trigolion lleol, a'r ex-pats' yn eu hetiau crand. Dau arall y bydd Hywel yn cwrdd â nhw yw Cai Roberts o Gaernarfon a Catrin o Langefni - gwr a gwraig yn eu hugeiniau cynnar.
Bu Cai fod yn athro yn Ysgol Ardudwy, Harlech, a Catrin yn gweithio ym modurdy ei thad. Bellach mae Cai yn athro mewn ysgol gynradd breifat yn Dubai, lle mae'r plant i gyd, yn blant i filiynwyr. Anrheg i'r wraig Bydd Catrin yn tywys Hywel i'r 'Souk Aur' i chwilio am anrheg i'w wraig, lle mae'n cymryd mantais o'i chefndir o werthu ac yn yn llwyddo i fargeinio'n galed gyda'r gwerthwyr .
Bydd y rhaglen yn rhoi cip ar ddinas gyfoethog Dubai, a dyfodd o ddiffaethwch pur - 30 mlynedd yn ôl, doedd ddim datblygiadau yma - dim ond ychydig o gytiau pysgotwyr lleol. Ar Dy Feic, dydd Sul, Ebrill, 21, 大象传媒 Cymru ar S4C. 20.30. - Yr wythnos nesaf bydd Hywel Gwynfryn yn edrych yn ôl dros y gyfres mewn erthygl arbennig i 大象传媒 Cymru'r Byd - ac yn edrych ymlaen at y gyfres nesaf. Dewch yn ôl i y wefan ddydd Mawrth -
|
|