|
|
Tom yn dal i dynnu'r dillad isaf!
Nicyrs i Tom Jones ond nid i Frank Hennessey yn Dubai Dydd Gwener, Mawrth 9, 200
|
Hanes dau ganwr gan Eirian Hassler o Dubai Aeth Dubai yn wyllt y noson y cerddodd un o feibion enwocaf Cymru ar lwyfan yno! Yr oedd 7,000 o bobl o bob oed wedi dod ynghyd ar gyfer cyngerdd awyr agored yn y Dubai Creek Golf and Yacht Club a wnaeth y bachgen o Bontypridd ddim mo'u siomi. Y rhai drutaf yn gyntaf Bu'r diddordeb yn y cyngerdd er pan soniwyd gyntaf y byddai Tom Jones yn dod i Dubai. Gwerthwyd y 7,000 o docynnau i gyd o fewn dyddiau - gan gynnwys 600 tocyn VIP yn costio dros £60. Ac fel y byddai rhywun yn disgwyl yn Dubai y rhai VIP aeth gyntaf gyda'r rhai rhataf yr olaf i'w gwerthu. Yr oedd rhai mor benderfynol o fod yno yr oedden nhw'n cynnig dros deirgwaith gwerth y tocynnau er mwyn gweld y dyn sy'n dal ar y brig wedi'r holl flynyddoedd. Bu'n noson fythgofiadwy. Y bachan o Ponti yn canu ei ganeuon enwocaf a'r dillad isaf yn hedfan drwy'r awyr!
Y tu cefn i'r llwyfan, a adeiladwyd yn arbennig ar gyfer y noson, roedd y Creek yn llawn goleuadau ar gyfer agoriad Gwyl Siopa Dubai, a'r cychod drud yn hwylio heibio'n araf er mwyni'r rhai ar eu bwrdd fwynhau'r cyngerdd.
Dim dillad isaf i FrankY noson ganlynol - noson Gwyl Dewi - roedd Tom yn Abu Dhabi a Frank Hennessey ai fand oedd i ganu dros Gymru i ni. Daeth dros 500 o bobl at ei gilydd i ail ginio Gwyl Dewi Cymdeithas Gymraeg Dubai a chanodd yntau yr hen ffefrynnau i gyd - ac er nad oedd Frank, fel Tom, yn edrych llawer hynach na phan ymddangosodd ym mhafiliwn Y Rhyl ers talwm, doedd y dillad isa ddim yn hedfan drwy'r awyr y noson honno am ryw reswm!
|
|