大象传媒

Alex Jones yn Eisteddfod yr Urdd Abertawe

Alex Jones

29 Mai 2011

Bu Alex Jones yn egluro pa mor anodd mae hi'n ei chael i egluro beth yw Eisteddfod yr Urdd i'w chydweithwyr yn Llundain ar The One Show.

Yr oedd yn siarad gyda'r Wasg cyn cymryd rhan yng Nghyngerdd Agoriadol yr Eisteddfod neithiwr.

"Dydyn nhw jyst ddim yn deall y cysyniad y peth o gwbl. Y oedden nhw'n gofyn, roedd diddordeb ganddyn nhw yn beth oeddwn i'n wneud ond o ran cysyniad beth yw eisteddfod doedden nhw ddim yn ei ddeall e o gwbl a dwi'n credu bod y ffaith ei fod e'n unigryw i Gymru yn bwysig a sdim ishe bod nhw'n deall e ," meddai.

"Dwi'n meddwl mai dyna sy'n hyfryd am yr eisteddfod ei bod yn rhywbeth mai dim ond y ni sy'n ei deall . Dyna'r peth gwych amdani," meddai.

Ar 么l cyflwyno'r artistiaid yn y cyngerdd yr oedd Alex yn dychwelyd yn syth i Lundain i gyflwyno rhifyn nos Lun The One Show.

Ychwanegodd mai'r hyn y mae'r Urdd yn roi i blant Cymru yw llwyfan bendigedig i hogi eu sgiliau perfformio a meithrin eu hyder.

Ond ychwanegodd na fu hi ei hun yn llwyddiannus iawn fel perfformwraig unigol ond iddi fwynhau cymryd rhan mewn part茂on a grwpiau.

"Ond y peth pwysig yw eich bod yn gwneud cymaint o ffrindiau drwy'r Eisteddfod. Nid yr ennill sy'n bwysig ond yr hyn y mae plant yn ei gael allan o'r profiad," meddai.

Elgan a John Owen-Jones

Cyfeiriodd John Owen-Jones, un o'r unawdwyr yn y cyngerdd y byddai Alex yn ei gyflwyno, at natur unigryw yr 诺yl gan ychwanegu ei fod ef yn bryderus iawn yngl欧n 芒 pherfformio fel un nad yw'n medru siarad Cymraeg ei hun.

Ond yr oedd ei ganeuon i gyd yn rhai Cymraeg gan gynnwys fersiwn deuad o Gerddoriaeth y Nos gydag Elgan Llyr Thomas, enillydd Ysgoloriaeth Bryn Terfel y llynedd.

"Mae'n debyg y bydda i yn fwy nerfus heno nag ar unrhyw adeg arall. Pe byddwn i yn perfformio o flaen y teulu brenhinol fyddwn i ddim mor nerfus a hyn," meddai. "Mae canu yn Gymraeg i'r Cymry yn deimlad sy'n dychryn," meddai.

Mae John Owen-Jones yn canu yn Les Miserables yn y West End ar hyn o bryd a phan ofynnwyd iddo pa gyngor fyddai o'n ei roi i Elgan awgrymodd ollwng y 'Llyr' o'i enw gan y gallai'r gair beri anawsterau iddo yn y dyfodol.

"Y mae o'n mynd i gael lor o broblemau os aiff o yn rhyngwladol," meddai.

Yr oedd yn hapus gyda'r Elgan fodd bynnag - gan ychwanegu mai dyna enw ei dad.

"Felly bydd yn deimlad od cyflwyno Elgan ar y llwyfan heno," meddai cyn y cyngerdd.

Talodd deyrnged i'r Eisteddfod am fod yn sefydliad unigryw i Gymru ac am y cyfle y mae'n ei roi i berfformwyr.


大象传媒 iD

Llywio drwy鈥檙 大象传媒

大象传媒 漏 2014 Nid yw'r 大象传媒 yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.