大象传媒

Cerys Matthews yn Llywydd y Dydd

Cerys Matthews gyda disgyblion Ysgol Gymraeg Llundain y llynedd

19 Mai 2011

Ar 么l ymuno 芒 John Owen-Jones a'r gyflwynwraig Alex Jones yng nghyngerdd agoriadol yr Eisteddfod neithiwr, nos Sul, bydd Cerys Matthews yn cyflawni ei dyletswyddau fel llywydd y dydd, ddydd Llun yr 糯yl.

Yn wreiddiol o Gaerdydd cafodd Cerys ei magu yn Abertawe ac yn Sir Benfro.

Y llynedd, yr oedd Cerys ar Faes yr Urdd yn Llannerchaeron gyda disgyblion o Ysgol Gymraeg Llundain oedd yn cystadlu yno.

Dywedodd Cerys, sy'n cyflwyno rhaglen bob penwythnos ar 大象传媒 6 Music, ei bod yn falch iawn o gael bod yn Llywydd y Dydd yn Abertawe.

"Roedd Eisteddfodau yn rhan o'm magwraeth i yn Abertawe, er nad oeddwn yn llwyddiannus iawn fel cystadleuydd! Felly bydd dychwelyd y tro hwn fel Llywydd y Dydd i'r Maes yn Felindre yn wych ac 'rwy'n edrych ymlaen yn fawr," meddai.

"Dwi byth yn blino gweld brwdfrydedd plant o bob rhan o Gymru ac o bob cefndir yn trio eu gore. Does dim ots os ydyn nhw'n chwarae cerddoriaeth, canu, dawnsio neu gystadlu yn y celfyddydau gweledol neu lenyddiaeth, mae eu ymdeimlad o hwyl yn heintus. Bydd cael y cyfle i gystadlu flwyddyn ar 么l blwyddyn o flaen cynulleidfa fyw yn blatfform i rai barhau i berfformio fel y gwnaeth i Bryn Terfel, Aled Jones a Connie Fisher ond mae hefyd yn golygu y bydd pob cenhedlaeth newydd yn dysgu a mwynhau ein treftadaeth ddiwylliannol anhygoel," ychwanegodd.

Dywedodd y byddai yn dewis ar gyfer y cyngerdd agoriadol o blith "y drysorfa Gymreig" o ganeuon Gwerin Cymreig yn ogystal 芒 rhai o'i chaneuon newydd.


大象传媒 iD

Llywio drwy鈥檙 大象传媒

大象传媒 漏 2014 Nid yw'r 大象传媒 yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.