大象传媒

Siom na chafodd oedfa lwyfan

29 Mai 2011

Y mae un o drefnwyr gwasanaeth crefyddol agoriadol Eisteddfod yr Urdd Abertawe wedi mynegi siom na chafodd ei gynnal ar lwyfan yr 糯yl eleni.

Yng nghapel Hope Siloh, Pontarddulais y bu'r oedfa fore Sul gyda 60 o bobl ifainc rhwng saith a 25 oed yn cymryd rhan.

Ond ar y rhaglen Bwrw Golwg ar 大象传媒 Radio Cymru dywedodd un o'r trefnwyr, Catrin Stevens, ei bod hi'n siomedig nad ym mhrif bafiliwn yr Eisteddfod y bu'r gwasanaeth.

"Dylai'r Urdd wneud mwy o'r thema yma ac o'r oedfa hefyd ar ddechrau wythnos o'r fath," meddai am y gwasanaeth ar y thema "Diolch am Ddoniau" ac yn cynnwys darlleniadau, sgets a cherddoriaeth.

"Mae'n cael ei chynnal yma mewn capel eleni. Dwi'm yn gwybod, roedd yn arfer cael ei chynnal yn y pafiliwn ac mae'n drueni mewn ffordd nad yw yn rhan ganolog o'r gweithgaredd er y gallai ddeall pam," meddai.

"Mae wedi bod yn hyfryd iawn i wneud e yma ond dwi'n credu bod lle i'r math yma [o beth ar y llwyfan]. Yn sicr mae'r ymateb wedi bod yn rhagorol ymhlith y bobl ifainc," ychwanegodd gan ddweud iddi fod yn "gryn gamp" rhychwantu rhai rhwng saith a 25 oed mewn un oedfa.

Bu hefyd, meddai, yn gyfle i rai na fyddant yn ymddangos ar lwyfan yr Eisteddfod yn ystod yr wythnos gael clywed eu lleisiau.

Eglurodd Aled sion, cyfarwyddwr yr Eisteddfod, na fu'n bosib cael y gwasanaeth ar lwyfan y Pafiliwn gan ei fod yn cael ei baratoi ar gyfer y cyngerdd agoriadol nos Sul.

Ond ychwanegodd mai yn y pafiliwn y bydd Cymanfa'r eisteddfod nos Sul nesaf.


大象传媒 iD

Llywio drwy鈥檙 大象传媒

大象传媒 漏 2014 Nid yw'r 大象传媒 yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.