Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Heddlu Swydd Gaerloyw'n cynnal ymchwiliad i gynghorau
Fe fydd Heddlu Swydd Gaerloyw yn ymchwilio i weld a oes troseddu wedi bod yng nghynghorau sir Penfro a Chaerfyrddin.
Daw hyn yn sg卯l adroddiadau beirniadaol Swyddfa Archwilio Cymru yn ymwneud 芒 thaliadau i uwchswyddogion o fewn y cynghorau.
Mae'r ddau adroddiad yn dweud nad oedd gan yr un o'r ddau gyngor y p诺er i roi taliadau ariannol i'r prif weithredwyr, Mark James a Bryn Parry Jones, a swyddogion eraill, yn hytrach na chyfraniadau pensiwn, a hynny er mwyn rhesymau treth.
Mae Heddlu Dyfed Powys yn dweud eu bod wedi ystyried yr adroddiadau ac wedi penderfynu bod hyn yn fater y dylid ei ymchwilio gan yr heddlu gan ei fod o ddiddordeb ac er budd y cyhoedd, er mwyn gweld oes unrhyw drosedd wedi bod ai pheidio.
Oherwydd y cydweithio agos a'r bartneriaeth sy'n bodoli rhwng Heddlu Dyfed Powys a'r ddau awdurdod, mae'r Llu wedi penderfynu nad yw hi'n briodol iddyn nhw gynnal yr ymchwiliad.
Fe fydd yr ymchwiliad felly'n cael ei drosglwyddo i Heddlu Swydd Gaerloyw a nhw fydd yn delio 芒'r mater.
Mae'r Llu am ei gwneud hi'n glir nad yw'r penderfyniad wedi cael ei ddylanwadu gan unrhyw ymateb gwleidyddol nag adroddiadau yn y cyfryngau ar y mater.