Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Prif weithredwr yn goroesi pleidlais o ddiffyg hyder
Mae pleidlais o ddiffyg hyder yn erbyn prif weithredwr Cyngor Sir Benfro, Bryn Parry Jones, wedi methu.
Pleidleisiodd 23 cynghorydd o blaid, 30 yn erbyn gyda phump arall yn ymatal.
Cafodd y cynnig ei roi gerbron y cyngor yn dilyn adroddiad gan Swyddfa Archwilio Cymru (SAC), wnaeth alw ei benderfyniad yngl欧n 芒 threfniadau pensiwn yn "anghyfreithlon".
Roedd nifer o gynigion wedi cael eu gwneud yn erbyn Mr Jones, ond cafodd pob un eu cyfuno i un bleidlais.
Roedd un o'r cynigion yn disgrifio perfformiad Mr Jones fel bod "wrth lyw'r Titanic, yn taro un mynydd i芒 ar 么l y llall".
Cafodd ei feirniadu hefyd am beidio camu o'r neilltu tra roedd ymchwiliad heddlu i'r adroddiad yn parhau.
Fe fethodd pleidlais o ddiffyg hyder yn swyddog monitro'r cyngor, Lawrence Harding, hefyd.
Roedd bron 19 o geisiadau wedi eu gwneud i gynnal pleidlais o ddiffyg hyder yn Mr Jones a Mr Harding.
Diddymu
Ym mis Chwefror penderfynodd y cyngor dderbyn casgliadau adroddiad SAC.
Fe wnaeth y sir hefyd benderfynu diddymu'r polisi yngl欧n 芒 thaliadau ariannol.
Dywedodd llefarydd ar ran y cyngor nad oedden nhw am wneud sylw yngl欧n 芒'r bleidlais o ddiffyg hyder.
Ddydd Mawrth cyhoeddodd undeb Unsain eu bod am gynnal pleidlais o ddiffyg hyder ymhlith y 2,000 o aelodau sy'n gweithio i'r cyngor sir.
Dywedodd llefarydd fod angen i leisiau'r gweithwyr gael eu clywed.
Carfan o gynghorwyr annibynnol sy'n rheoli'r sir.
Yn y cyfamser, mae'r heddlu yn cynnal ymchwiliad i Gyngor Sir Caerfyrddin yngl欧n 芒 thaliadau anghyfreithlon yno.
Mae'r prif weithredwr, Mark James, wedi camu o'r neilltu tra bod yr ymchwiliad yn parhau.
Mae Mr James wedi dweud nad yw e na'i swyddogion wedi gwneud dim o'i le.