Nofio gyda siarcod heb wlychu

Ydych chi erioed wedi bod eisiau nofio gyda siarc, dolffin neu grwban y m么r ond ddim eisiau mynd i mewn i'r d诺r?

Mae cyfle i wneud hyn bellach gyda chymorth un o raglenni profiad realiti rhithwir (virtual reality) mwyaf poblogaidd y byd.

Drwy wisgo penwisg gallwch fynd i waelod y m么r gyda'r creaduriaid sy'n byw yno, ac fe gafodd y rhaglen arbennig yma ei chreu gan Gymro.

Mae dyfeisiwr y rhaglen, Ll欧r ap Cennydd, yn ddarlithydd yn yr Adran Gyfrifiadurol ym Mhrifysgol Bangor, ac fe siaradodd ar Raglen Aled Hughes yngl欧n ag Ocean Rift.

"Dyma'r rhaglen fwyaf o'i bath yn y byd o ran dysgu am y m么r, a dwi 'di bod yn gweithio arni am dros bedair blynedd yn fy amser sb芒r," meddai Ll欧r. "Bellach mae o ar gael ar bron bob dyfais VR (Virtual Reality) ac mae 'na dros 2.5m o bobl wedi lawrlwytho'r ap.

"Mae'n ffordd hollol newydd o ddysgu am y byd o'n cwmpas ni. Mae'n un peth i ddarllen llyfr neu edrych ar raglen deledu am yr anifeiliaid ond mae'n beth arall i allu nofio hefo nhw a gallu gweld lle maen nhw'n byw a phroblemau sydd 'na efo llygredd a phethau fel 'na.

"Os 'da chi'n nofio gydag anifail fel dolffin bydd 'na banel yn y m么r yn esbonio am yr anifail. Rydych yn cyffwrdd y peli 'ma yn y m么r a mae'n agor a rhoi gwybodaeth am yr anifail fel bysa'n digwydd mewn s诺."

Ffynhonnell y llun, Llyrapcennydd

Disgrifiad o'r llun, Un o'r creaduriaid sydd wedi ei greu gan Ll欧r ap Cennydd

"Doedd 'na ddim meddalwedd tebyg ar y pryd," dywedodd Ll欧r. "Nes i ddechrau gyda morfil a oedd maint bws double-decker yn nofio heibio i fi. Yna nes i jest dal y bug a dechrau adio mwy a mwy o anifeiliaid fel siarcod a physgod bychain, ac mae 'di tyfu a thyfu ers hynny."

Mae'r wybodaeth ar gael yn Gymraeg hefyd - rhywbeth mae Ll欧r yn ei weld yn bwysig er mwyn addysgu plant am y m么r yn Gymraeg.

"Y syniad ydi y gallwch chi ddysgu am yr holl anifeiliaid yn Gymraeg, gan gynnwys testun am bob anifail a hefyd llais yn esbonio am yr anifail fel bysa chi'n cael mewn rhaglen ddogfen."

Ffynhonnell y llun, Llyrapcennydd

Disgrifiad o'r llun, Mae Ll欧r yn falch o'r ffaith bod 'Ocean Rift' ar gael yn Gymraeg

"Mae'r ffaith bod y dechnoleg mor 'ddyfodolaidd' mae o bron fel sci-fi o lle'r oedd o bum mlynedd yn 么l, ac mae'r ffaith bod yr iaith Gymraeg yng nghanol hynna a bod hi'n bosib dysgu am ein planed mewn ffordd mor unigryw yn y Gymraeg yn beth pwysig iawn.

"Mi allai ddarparu fersiwn Cymraeg un uniongyrchol ar orchymyn ar hyn o bryd, ond y gobaith ydy y bydd fersiwn Gymraeg yn rhan o'r app ei hun yn fuan."

Ffynhonnell y llun, Llyrapcennydd

Disgrifiad o'r llun, Mae 'Ocean Rift' yn defnyddio technoleg sy'n rhoi'r argraff eich bod yn cyffwrdd 芒'r anifeiliaid

Y m么r mawr yn tyfu a thyfu

"Mae pethau'n symud ymlaen mor gyflym yn y diwydiant yma. Bob rhyw chwe mis mae 'na ddyfeisiadau newydd, ac mae offer oedd yn werthfawr iawn yn troi'n junk mewn blwyddyn.

"Dwi'n gweithio ar ambell i g锚m, sydd lot fwy syml na Ocean Rift - dim dysgu yn rhan ohono, jest saethu ac ati. Ond hefyd mae Ocean Rift am dyfu wrth gwrs, mae 'na fwy o anifeiliaid am ddod - dwi eisiau ychwanegu anifeiliaid cyn-hanesyddol achos dwi'n meddwl 'sa'n wych i ni allu nofio gydag anifeiliaid sydd ddim o gwmpas bellach."

Ffynhonnell y llun, Llyrapcennydd

Efallai o ddiddordeb: