Pryder bod rhieni'n gohirio triniaethau plant

Ffynhonnell y llun, Getty Images

  • Awdur, Huw Thomas
  • Swydd, Newyddion 大象传媒 Cymru

Mae meddygon yn rhybuddio rhieni i beidio 芒 gohirio gofyn am gymorth meddygol i'w plant.

Ers i'r pandemig coronafeirws ddechrau, mae cwymp mawr wedi bod yn nifer y plant sy'n cael eu hanfon i'r ysbyty am gyflyrau eraill.

Mae'r corff sy'n cynrychioli paediatregwyr yn poeni y gallai plant fod yn mynd yn fwy s芒l gartref wrth i rieni geisio osgoi defnyddio'r gwasanaeth iechyd.

Ac mae Comisiynydd Plant Cymru wedi galw ar gymunedau i wylio am blant bregus yn ein cymunedau.

Mae derbyniadau i Ysbyty Plant Cymru yng Nghaerdydd wedi gostwng tua 75% o gymharu 芒 llynedd, yn 么l un meddyg sy'n gweithio yno.

Ffynhonnell y llun, Google

Disgrifiad o'r llun, Ysbyty Plant Cymru yn y brifddinas

Ac mae doctoriaid yn pryderu nad yw achosion o gyflyrau cyffredin fel diabetes ddim yn ymddangos mor aml ag arfer. Y dybiaeth yw bod plant yn gwaethygu gartref gan nad ydy rhieni am fynd a nhw at y meddyg yn ystod y pandemig.

Mae Dr Mair Parry yn ymgynghorydd pediatreg yn Ysbyty Gwynedd ac wedi sylwi ar y niferoedd yn gostwng ar wardiau plant yr ysbyty.

Dwedodd Dr Parry wrth 大象传媒 Cymru: "Mae eisiau cael balans rhwng bod yn ddiogel a gwarchod eich hun rhag Covid.

"Ond mi ydyn ni yn ara' deg yn dechrau poeni r诺an ym myd iechyd plant bod pobl ofn dod i'r ysbyty neu fynd at y meddyg oherwydd Covid, a felly yn cadw plant adref mewn amgylchiadau gwahanol i'r arfer. A bod nhw ddim yn mynd i ofyn am help pan, yn arferol, mi fysa nhw yn gofyn am help.

"A mi ydan ni'n dechrau gweld patrymau r诺an lle mae ein wardiau plant ni yn eithaf gwag, a hynny ar draws Prydain i gyd. Ac rydyn ni'n gweld yr un patrwm wedi dod o'r Eidal ac o Sbaen hefyd."

Mae Coleg Brenhinol Pediatreg ac Iechyd Plant wedi codi'r un pryderon, ac i rieni sy'n dangos sut i benderfynu pa gymorth meddygol sydd angen ar eu plant.

Ymweliad ysbyty

Yn ddiweddar fe aeth Kate Hancock o Lanbradach a'i mab Joseph i'r ysbyty am lawdriniaeth, a hynny ar adeg pan roedd Ysbyty Plant Cymru yng Nghaerdydd yn paratoi i ddod a nifer o driniaethau bach i ben oherwydd lledaeniad coronafeirws.

Cafodd Joseph ddiagnosis o diwmor ar ei nerf optig ac mae wedi cael blynyddoedd o driniaeth, gan gynnwys cemotherapi, ac erbyn hyn mae bron yn hollol ddall.

Ffynhonnell y llun, Llun teulu

Disgrifiad o'r llun, Joseph ar ymweliad cynharach 芒'r ysbyty - cyn y pandemig

Dwedodd ei fam fod y profiad diweddar o ymweld 芒'r ysbyty wedi codi pryder.

"Roedd yn eithaf brawychus i feddwl am fynd i mewn i'r ysbyty, o ystyried gallai fod pobl yno gyda'r coronafeirws neu bobl sydd wedi bod yn gysylltiedig 芒 fe, ac roedd yr holl fesurau ychwanegol ar waith yna hefyd," meddai.

Dywedodd Mrs Hancock nad oedd hi erioed wedi gweld yr ysbyty mor dawel, ond dywedodd ei bod yn teimlo'n well ar 么l i'w thymheredd gael ei gwirio, a bod mynedfeydd a lifftiau ar wah芒n i gleifion.

Er bod angen mwy o apwyntiadau ar Joseph, a'i merch arall Molly, tair, sydd hefyd 芒 chyflwr genetig, mae y rhain yn gallu digwydd dros y ff么n i leihau risg.

Ffynhonnell y llun, Llun teulu

Disgrifiad o'r llun, Joseph ar ymweliad arall

"Mae'n wych gwybod os yw eich plentyn yn s芒l neu os oes gennych chi unrhyw bryderon, neu os oes gennych chi apwyntiad y mae angen iddo ei gyrraedd, yna rydych chi'n gwybod ei bod hi dal yn bosib i fynd yna.

"Mae'n bwysig iawn eich bod chi'n gwneud hynny."

Gostyngiad mewn cleifion

Dywedodd Dr Mair Parry fod newidiadau yn ein cymdeithas wedi lleihau'r risg i blant gael anafiadau cyffredin, ond dydy hynny ddim yn egluro'r gostyngiad mawr yn nifer y cleifion ar wardiau plant ysbytai Cymru.

"Mae na lai o ddamweiniau ffordd achos mae llai o geir, ac mae 'na lai o feirysau arferol achos dydy plant ysgol ddim yn cymysgu. Felly rydyn ni'n dallt pam bod rhai pethau wedi lleihau, ond mae yna bethau fel apendics, diabetes, asthma hyd yn oed - mae'r paill wedi dechrau dod allan r诺an, a da ni yn aml yn gweld lot o blant yn dod mewn gyda'i asthma wedi gwaethygu adeg yma o'r flwyddyn.

"Ond da ni ddim yn gweld dim o rheini. A dylsa'r newidiadau yn ein cymdeithas ni sydd yn cynnal ac yn cadw cymdeithas yn saff yn ystod Covid ddim effeithio ar y cyflyrau hynny."

Gofalu am blant bregus ein cymunedau sydd yn poeni'r Comisiynydd Plant, yr Athro Sally Holland. Mae hi wedi galw ar bobl i gadw llygaid ar y plant hyn oherwydd prinder y "rhwydi diogelwch" arferol.

"Ry' ni'n gwybod bod ein meithrinfeydd a'n hysgolion yn ymateb fel rhwyd diogelwch i'n plant ni. Maen nhw'n cael eu gweld yno bob dydd, ac yn tueddu i gael perthynas dda gyda staff mewn meithrinfeydd, ysgolion a cholegau.

Disgrifiad o'r llun, Mae Sally Holland yn dweud nad yw'r rhwydi diogelwch arferol mewn lle i ddiogelu plant yn ystod y pandemig

"Dyna lle fydd problemau yn cael eu hymdrin 芒 nhw fel yn aml - yn yr ysgol, neu gallant gyfeirio at wasanaethau eraill i gael cymorth ychwanegol i'r plant hynny.

"Felly dydy'r plant hynny ddim yn cael eu gweld yn yr un ffordd ar hyn o bryd."

Ychwanegodd: "Rwy'n credu mai'r hyn y mae'n rhaid i ni ei weld nawr yw ein cymunedau yn gweithredu fel y rhwyd ddiogelwch honno ar gyfer ein plant, yn y ffordd y byddai ysgolion fel arfer yn gwneud."