Bygythiad mawr coronafeirws i brifysgolion Cymru

Disgrifiad o'r llun, Prifysgol Caerdydd fyddai ar eu colled fwyaf pe bai cwymp yn nifer y myfyrwyr tramor sy'n mynd yno

Mae prifysgolion Cymru'n wynebu bygythiad difrifol i'w safle ariannol a gall fod angen mwy o gymorth arnyn nhw gan y Llywodraeth, yn 么l adroddiad newydd.

Yn 么l y dadansoddiad gan Cian Si么n o Ganolfan Llywodraethiant Cymru, Prifysgol Caerdydd, mae'r adroddiad yn datgelu cyfres o ddarganfyddiadau sydd yn cyfeirio at golled ddramatig mewn incwm ff茂oedd dysgu ar gyfer y sector yng Nghymru o ganlyniad i'r pandemig.

Wrth ystyried y cwymp disgwyliedig yn y niferoedd o fyfyrwyr rhyngwladol a gaiff eu recriwtio a'r myfyrwyr cartref fydd yn cofrestru, mae'r adroddiad yn amcangyfrif gallai'r sector golli unrhyw beth rhwng 拢100m a 拢140m yn 2020-21 o incwm ff茂oedd yn unig.

Mae'r adroddiad yn dadansoddi iechyd ariannol y Sector Addysg Uwch yn gyffredinol, ac yn canfod bod ff茂oedd dysgu'n gyfrifol am 54.7% o incwm prifysgolion Cymru, o gymharu 芒 50.2% ar draws y DU.

Dywedodd Cian Si么n, ymchwilydd ar raglen Dadansoddiad Ariannol Cymru: "Mae'r pwysau ar recriwtio myfyrwyr o ganlyniad i'r pandemig Covid-19 yn cynrychioli bygythiad ariannol difrifol i'r sector addysg uwch yng Nghymru.

"Mae sawl arolwg yn awgrymu cwymp serth yn y nifer o fyfyrwyr rhyngwladol a chartref fydd yn cofrestru ym mis Medi.

"Roedd sefydliadau Cymreig eisoes mewn sefyllfa ariannol wannach gymharol cyn yr argyfwng, felly mae hyn yn ergyd a gaiff ei deimlo'n waeth yma."

Disgrifiad o'r llun, Prifysgol Glynd诺r yn Wrecsam sy'n fwya' dibynnol ar fyfyrwyr o Gymru

Mae'r adroddiad hefyd yn s么n am bwysigrwydd cymharol y sector i economi Cymru o gymharu 芒 Lloegr neu'r DU.

Yn 么l yr adroddiad mae prifysgolion Cymru yn cynnig 17,300 o swyddi llawn amser Cymreig.

Gall mesurau ymateb economaidd cyffredinol Llywodraeth y DU helpu sefydliadau sydd yn wynebu diffyg ariannu sydyn, ond oherwydd dibyniaeth y sector ar incwm ff茂oedd, bydd effeithiau cael llai o fyfyrwyr ym mis Medi yn debygol o gael ei deimlo am flynyddoedd lawer.

Yn absenoldeb cymorth pellach gan y Llywodraeth, gallai heriau gweithredol arwain yn y pen draw at golli swyddi a'r sector yn crebachu yng Nghymru.

Yn 么l y dadansoddiad, y tri sefydliad sydd 芒'r mwyaf i'w golli o bosib pe bai cwymp yn y nifer o fyfyrwyr rhyngwladol yw Prifysgol Caerdydd, Prifysgol Fetropolitan Caerdydd a Phrifysgol Bangor.

Y tri sydd 芒'r mwyaf i'w golli o bosib pe bai cwymp yn y nifer o fyfyrwyr "cartref" yw Prifysgol Glynd诺r, Prifysgol y Drindod Dewi Sant a Phrifysgol Fetropolitan Caerdydd.

Ychwanegodd Cian Si么n: "Bydd Llywodraethau yng Nghaerdydd a San Steffan yn ystyried yn ofalus pa sectorau sydd angen y cymorth ychwanegol mwyaf brys er mwyn gwrthsefyll effeithiau'r pandemig.

"Gobeithiwn fod y canfyddiadau hyn yn egluro pwysigrwydd y sector Addysg Uwch i economi Cymru a heb ryw fath o becyn cymorth wedi ei deilwra, fe all fod yna fygythiad ariannol difrifol i'r rhan fwyaf o brifysgolion yng Nghymru."