Ateb y Galw: Y comed茂wr Dan Thomas

Ffynhonnell y llun, Dan Thomas

Y comed茂wr Dan Thomas sy'n Ateb y Galw yr wythnos yma ar 么l iddi gael ei enwebu gan Eleri Morgan yr wythnos diwethaf.

Mae Dan yn wyneb cyfarwydd fel comed茂wr stand-yp yng Nghymru a thu hwnt ar lwyfan, sgrin a radio, ac mae hefyd yn ysgrifennu. Dros y cyfnod clo, fodd bynnag, mae wedi gorfod troi at geisio addysgu ei blant - ...

Beth ydi dy atgof cyntaf?

Rwy'n dod o'r genhedlaeth gyntaf a gafodd eu magu o flaen y teledu, felly mae fy atgofion cyntaf o wylio'r teledu. Mae fe'r un peth i plant fi ond oherwydd eu bod yn tyfu lan mewn byd o ddewis anfeidrol, eu hatgofion cyntaf fydd Paw Patrol a Baby Shark. Fy atgof cyntaf yw pan gafodd TWA Flight 847 ei hijackio yn 1985, achos dyna beth oedd arno.

Ffynhonnell y llun, Alain Nogues/Getty

Disgrifiad o'r llun, Cafodd awyren TWA Flight 847 ei herwgipio gan derfysgwyr ym Mehefin 1985 gan ddau ddyn o Lebanon. Cafodd un o'r teithwyr ei ladd

Pwy oeddet ti'n ei ffansio pan yn iau?

Mewn un diwrnod ym 1989 es i o ffansio Blotch, chwaer Smotyn o Superted, i ffansio Pamela Anderson o Baywatch. Roedd yn ddiwrnod dryslyd. Y dyddiau hyn byddai fy menyw ddelfrydol yn gyfuniad o'r ddwy.

Beth oedd y digwyddiad a gododd y mwya' o gywilydd arnat ti erioed?

Ychydig flynyddoedd yn 么l, roeddwn i'n perfformio gig stand-yp rhywle yn Lloegr ac roedd boi 'di meddwi yn y rhes flaen yn bod yn dipyn o niwsans. Gofynnais iddo fod yn dawel, ond wnaeth e ddim, felly yn y diwedd es i'n niwclear arno fe gyda'r insults. Pethau personol, stwff rili cas.

Aeth e'n dawel o'r diwedd, ond o'n i'n gallu dweud wnes i wir brifo'r boi hyn. Weithiau dwi'n dal i deimlo'n euog am hynny. Ond yna dwi'n meddwl, am gyd fi'n gwybod, falle wnaeth e herwgipio TWA Flight 847, felly stwffia fe.

Pryd oedd y tro diwethaf i ti gr茂o?

Wythnos diwethaf. Wnaeth rhywun anfon neges destun ataf "sut wyt ti?". Atebais "fine", ond wedyn byrstio ar unwaith i ddagrau. Yn uncontrollable. Yr holl amser o'n i'n cr茂o, o'n i'n meddwl, "ddylwn i fod yn tapio hyn ar gyfer fy showreel actio, achos honestly, mae'r crio o leiaf cystal 芒 Holly Hunter yn y ffilm Broadcast News reit nawr."

Disgrifiad o'r llun, Ffilm o 1987 yw Broadcast News, sy'n dilyn bywydau prysur - a dagrau - gweithwyr sianel newyddion

Oes gen ti unrhyw arferion drwg?

Ddim mewn gwirionedd. Weithiau, rydw i'n gadael sedd y toiled lan. O! Hefyd, rydw i wedi bod yn llofruddio hitchhikers ers 2008.

Dy hoff le yng Nghymru a pham?

Mae gen i ddau o blant rydw i wedi bod yn sownd mewn t欧 gyda nhw am dri mis. Fy hoff le yw unrhyw le nad ydyn nhw. Y sied? Pe bai pwll y Sarlacc o Return of the Jedi yn rhywle fel Ynys M么n, byddwn yn mynd yno am ychydig o dawelwch ar hyn o bryd.

Y noson orau i ti ei chael erioed?

G诺yl Gomedi Aberystwyth 2019 - roedd bron pob digrifwr sy'n siarad Cymraeg ar y bill gyda'n gilydd. Yn onest, mae'r dorf gomedi sy'n siarad Cymraeg yn hyfryd, ac rydyn ni'n eithaf agos, felly roedd pawb gyda'n gilydd, yn perfformio a wedyn hamero wisgi da mewn llawennydd. Hefyd canodd Tudur Owen Bring Him Home o Les Mis茅rables y noson hynna ac oedd e'r peth harddaf a glywodd unrhyw un ohono ni erioed.

Ffynhonnell y llun, Dan Thomas

Disgrifiad o'r llun, Llun a dynnodd Dan o'i gyd-gomed茂wyr Cymraeg yn paratoi i ddiddanu'r dyrfa yn ystod G诺yl Gomedi Aberystwyth

Disgrifia dy hun mewn tri gair.

Nid wyf yn dilyn cyfarwyddiadau yn dda.

Byw neu farw, gyda phwy fyddet ti'n cael diod?

Hitler. Swn i'n licio dysgu gwers iddo fe...

Beth yw dy hoff lyfr neu ffilm?

Fy hoff lyfr yw Any Human Heart gan William Boyd oherwydd bod e'n gyflawniad creadigol hollol anhygoel, sy'n cyfleu'n berffaith agweddau myrdd y cyflwr dynol - y perygl, a'r llonyddwch, y trasiedi, y llawenydd, yr ofn, y gobaith.

Fy hoff ffilm yw Caddyshack 2. Am yr un rheswm.

Dyweda rywbeth amdanat ti dy hun nad oes yna lawer o bobl yn ei wybod.

Os ydyn nhw'n dilyn fi ar Twitter, mae pawb yn gwybod popeth amdanaf i.

O archif Ateb y Galw:

Beth yw dy hoff g芒n?

Y thema o Magnum PI.

Cwrs cyntaf, prif gwrs a phwdin - beth fyddai'r dewis?

Crispy squid i ddechrau. Lemon meringue pie i bwdin. Wedyn am y prif gwrs hoffen i Pizza Diavola o Da Mara yng Nghaerdydd. Dyma'r pizza gorau fi wedi cael erioed ac rydw i wedi cael pizza yn yr Eidal. Ddwywaith. (Y ddau dro mewn Hard Rock Caf茅.)

Ar dy ddiwrnod olaf ar y blaned, beth fyddet ti'n ei wneud?

Ysgrifennu at y cyngor a chwyno.

Petaset yn gallu bod yn rhywun arall am ddiwrnod, pwy fyddai fo/hi?

Donald Trump fel y gallwn wyrdroi ei holl bolis茂au erchyll ar unwaith, sydd wedi helpu i yrru'r byd gorllewinol mewn i'r ddaear dros y pedair blynedd diwethaf. (Neu fy nghymydog ar draws y ffordd er mwyn i mi allu cael go yn gyrru ei VW Tiguan newydd.)