Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Pump dysgwr ar restr fer Dysgwr y Flwyddyn G诺yl AmGen
Fydd 'na ddim Eisteddfod Genedlaethol arferol yn Nhregaron eleni, ond mae cystadleuaeth Dysgwr y Flwyddyn G诺yl AmGen wedi cyhoeddi enwau'r pump sydd ar y rhestr fer.
Y rhai sydd wedi dod i'r brig eleni yw Mathias Maurer, sydd o'r Almaen yn wreiddiol ond nawr o'r Barri, Jazz Langdon o Sir Benfro, Sian Sexton o'r Rhondda, Elisabeth Haljas, sydd o Estonia yn wreiddiol ond nawr o Gaerdydd, a Barry Lord o Drefaldwyn.
Mae'r Eisteddfod Genedlaethol, 大象传媒 Radio Cymru a'r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol wedi dod at ei gilydd i gynnal y gystadleuaeth sy'n rhoi cydnabyddiaeth i bobl sy'n gwneud ymdrech arbennig i ddysgu Cymraeg.
Bydd y dysgwyr yn cymryd rhan yn yr 诺yl, sy'n cael ei chynnal dros benwythnos hir rhwng 30 Gorffennaf a 2 Awst ar ffurf rhaglenni a gweithgareddau dros y we.
Dyma sylwadau'r beirniaid am y pump ddaeth i'r brig eleni:
Mathias Maurer
Mae Mathias yn dod o'r Almaen yn wreiddiol ac roedd yn gerddor proffesiynol cyn mynd yn athro ysgol gynradd. Mae'n siarad Cymraeg gyda'i deulu yn y Barri, ac wedi gweithio'n ddiwyd i sicrhau bod yr iaith yn cael ei throsglwyddo i ddisgyblion mewn ysgolion cynradd cyfrwng Saesneg, gan greu adnoddau dysgu digidol cyfoes.
Jazz Langdon
Dysgwraig o Sir Benfro yw Jazz, sy wedi mynd ati'n ddiflino i ddysgu'r iaith dros y ddwy flynedd ddiwethaf. Mae'n gydlynydd y Gymraeg yn ei gwaith fel athrawes ysgol. Mae'n canu mewn c么r ac yn cael boddhad mawr wrth ddeall ystyr y caneuon. Mae hefyd wrth ei bodd yn cymdeithasu gyda'i chyd-gantorion yn Gymraeg.
Si芒n Sexton
Cafodd Si芒n ei magu ar aelwyd ddi-Gymraeg yn y Rhondda. Ymserchodd yn y Gymraeg a'i dysgu i safon uchel. Roedd yn benderfynol y byddai ei dau fab yn dysgu'r Gymraeg, ac erbyn hyn maen nhw'n rhugl hefyd. Mae hi'n berson prysur sy'n mwynhau amrywiaeth o ddiddordebau, gan gynnwys gweithgareddau Merched y Wawr, garddio a chadw gwenyn.
Elisabeth Haljas
O Estonia daw Elisabeth yn wreiddiol, a symudodd i Gaerdydd i astudio dieteteg. Mae wedi bod yn dysgu Cymraeg ers bron dwy flynedd. Fel rhan o'i chwrs, mae wedi creu fideos Cymraeg am fwyta'n iach. Mae hefyd wedi trefnu cyfnod o brofiad gwaith yn Ysbyty Glan Clwyd achos ei bod hi eisiau gweithio a byw trwy gyfrwng y Gymraeg. Mae hi'n mwynhau gwirfoddoli yn Theatr y Sherman, Caerdydd, yn enwedig gyda chynyrchiadau Cymraeg.
Barry Lord
Mae Barry yn cadw siop lyfrau yn Nhrefaldwyn. Yn 2018 enillodd dlws coffa Basil Davies am y marciau uchaf mewn arholiad Dysgu Cymraeg lefel Sylfaen drwy Gymru. Mae wrth ei fodd yn defnyddio'r Gymraeg o ddydd i ddydd yn ei waith, ac yn mwynhau cymdeithasu yn y Gymraeg mewn clwb llyfrau wythnosol.
Mae'r panel beirniadu yn y gystadleuaeth yn cynnwys Betsan Moses, prif weithredwr yr Eisteddfod Genedlaethol, Aran Jones, cyd sylfaenydd SaySomethingInWelsh a Dona Lewis, dirprwy brif weithredwr a chyfarwyddwr cynllunio a datblygu'r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol.
"Mae'r pum dysgwr sy ar y rhestr fer wedi dysgu'r iaith i safon uchel, rhai ohonynt mewn ychydig o amser," meddai Dona Lewis.
"Maen nhw wedi cofleidio pob cyfle i ddefnyddio a mwynhau'r Gymraeg a dan ni'n eithriadol o falch ohonyn nhw."
Bydd enw'r enillydd yn cael ei gyhoeddi mewn seremoni arbennig ar Radio Cymru am 16:30 ddydd Sadwrn, 1 Awst.